Pwy fyddai wedi gweld y cysylltiad rhwng ffermio a thynnu lluniau? Nid pawb efallai, ond mae Jim Ellis (22) nid yn unig yn ffermwr ifanc deinamig ac uchelgeisiol, mae o hefyd yn ddyn busnes ifanc sydd â syniadau arloesol sy’n dechrau dwyn ffrwyth yn barod.

 

jim ellis and mali griffith farming connect development officer

Mae Jim wedi sylweddoli ers blynyddoedd mor bwysig yw hi i ddal ymlaen i ddysgu sgiliau newydd a datblygu sgiliau busnes y bydd yn eu defnyddio bob dydd, nid yn unig adref ar fferm ei deulu ger Pwllheli, ond yn ei fusnes ffotograffiaeth newydd hefyd. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei ymrwymiad i ddysgu yn Ffair Aeaf Llanelwedd yn ddiweddar pan enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn ar y Tir, sy’n wobr glodfawr gan Lantra, yng nghategori Cyswllt Ffermio.

Roedd Jim, a astudiodd ffotograffiaeth yng Ngholeg Menai, wedi sefydlu busnes ffilm a ffotograffiaeth llwyddiannus yn Abertawe diolch i grant noddi a dderbyniodd ar ôl ennill lle yn Academi Entrepreneuriaeth Cymru yn Abertawe. Ond yn 2013 dychwelodd i fferm bîff a defaid ei deulu ger Pwllheli a phenderfynodd sefydlu menter ffilm a ffotograffiaeth newydd gerllaw.

 “Pan sylweddolais fod fy nhad yn bwriadu lleihau’r busnes ar Fferm Llwyndyrus, sydd wedi bod yn y teulu ers tair cenhedlaeth, roedd hi’n amser mynd adre.”

Mae Jim wrthi’n gweithio’n galed gyda chynlluniau i ganfod a datblygu ffrydiau incwm newydd nid yn unig ar fferm y teulu, ond yn ei gwmni ffilm a ffotograffiaeth newydd hefyd a sefydlodd yn lleol ac sy’n tyfu’n gyflym iawn.

Dechreuodd Jim a’i dad Evan drwy brynu mwy o dir a phenderfynu ei ail hadu wedi iddynt fynd i ddigwyddiad trosglwyddo gwybodaeth lleol a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio oedd yn dangos mor bwysig yw hi i wella ansawdd y glaswelltir.

Gallai Cyswllt Ffermio helpu hefyd gyda’r gwaith cynllunio busnes a, thrwy’r Gwasanaeth Cynghori, sicrhaodd y teulu gefnogaeth Geraint Jones o Kite Consulting. Mae Geraint wedi darparu cyngor busnes am flynyddoedd lawer, gan helpu’r busnes gyda’u hamcanion tymor hir.

Mae gan y busnes dargedau clir i gynyddu nifer y gwartheg wedi’u pesgi erbyn y flwyddyn 2019.

“Rydym yn bwriadu codi adeiladau newydd a gwell i gadw’r anifeiliaid a dechrau gwneud y busnes cyfan yn fwy effeithiol a chynaliadwy,” meddai Jim.

Yn gynharach eleni, cwblhaodd Jim Gynllun Datblygiad Personol (PDP), sef rhaglen ar-lein newydd Cyswllt Ffermio sy’n helpu ffermwyr i ganfod eu sgiliau a chanolbwyntio ar amcanion busnes a phersonol tymor hir.

 “Mae cwblhau fy nghynllun datblygiad personol wedi fy helpu i ganfod beth yw fy sgiliau ar hyn o bryd a phenderfynu beth yw fy nhargedau ar gyfer y dyfodol. Fe ddaeth hi’n amlwg yn gyflym iawn pa gyrsiau fyddai’n fwyaf buddiol a perthnasol yn y tymor byr a’r tymor hirach,” meddai Jim.

Penderfynodd Jim wneud cais am gwrs cynllunio busnes a chwrs marchnata, a gafodd eu darparu drwy cwmni hyfforddiant Simply the Best sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio,

“Mae’r ddau gwrs cymorthdaledig yma wedi fy ngalluogi i gamu’n ôl ac edrych ar strwythur y fferm a’r busnes ffotograffiaeth. Roeddent yn ymdrin ag amrywiaeth o raglenni marchnata a hyrwyddo yn ogystal ag agweddau o gynllunio busnes,” meddai Jim.

Felly beth sy’n dod nesaf i’r dyn busnes ifanc yma?

Datblygu’r fferm yw prif ffocws y busnes o hyd, ond nid yw Jim yn gweld bod anfantais mewn gwneud gweithgareddau busnes amryfal eraill sy’n cyd-fynd yn dda â gwaith y  fferm.

Mae ef a’i bartner busnes yn bwriadu buddsoddi mewn technoleg drôn newydd, yn ogystal â ffotograffiaeth lefel uchel neu ar fast ac mewn delweddu 3D sy’n gallu cefnogi ceisiadau cynllunio.

 “Ein gobaith yw y dylai’r dechnoleg newydd yma weithio’n dda iawn mewn ardaloedd gwledig lle mae mapio caeau’n gallu bod yn effeithiol nid yn unig i ffermydd ond i safleoedd carafanau, clybiau golff ac unrhyw fusnesau gyda darnau mawr o dir.”

Ochr yn ochr â hynny, mae Jim yn bwriadu cael gwefan newydd i hybu’r busnes ffotograffiaeth, sydd hefyd yn tynnu lluniau priodasol a phortreadau. Mae hefyd yn bwriadu diweddaru ochr farchnata eu busnes bythynod gwyliau, Farm Spa Holidays.

Mae’r dyn ifanc uchelgeisiol a gweithgar yma’n yn anelu’n uchel ac yn symud yn ei flaen yn llawer rhy gyflym i adael i’r borfa dyfu o dan ei draed!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm