aled harper 1 0

3 Gorffennaf 2018

 

Mae ffermwr ifanc yn ffermio ar ei liwt ei hun ar ôl cael cymorth a hyder drwy fentrau Cyswllt Ffermio i wneud cais am y denantiaeth.

Magwyd Aled Harper, saer cymwysedig, ar fân ddaliad yn Sir Benfro ac roedd â’i fryd ar gael ei ddaliad ei hun un diwrnod a sefydlu busnes arlwyo er mwyn gwerthu cig oen a phorc cartref.

Er mwyn gwireddu ei uchelgeisiau, ymunodd â grŵp Agrisgôp, rhaglen datblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio a ariennir yn llawn sy’n annog ffermwyr cymwys i ddod ynghyd i ddatblygu syniadau busnes.

Hefyd cafodd 22 awr o fentora un i un Cyswllt Ffermio gyda’r arweinydd grŵp Agrisgôp, Lilwen Joynson.

Yn sgil y cymorth, y cyfarwyddyd a’r hyder a gafodd Aled drwy’r mentrau hynny gwnaeth gais am denantiaeth fferm gyngor 32 erw heb fod ymhell o ddaliad y teulu yn Snipes Bay, Camros.

“Rhoddodd aelodau eraill Agrisgôp resymau da iawn pam y dylwn fynd amdani, ac oherwydd nad yw cyfleoedd o’r fath yn codi’n aml iawn, teimlais y dylwn fynd amdani,” eglurodd Aled sy’n 26 oed.

Roedd eisoes wedi bod yn ystyried ei syniadau ar gyfer busnes arlwyo gyda Lilwen a’r grŵp, felly roedd y denantiaeth yn gyfle iddo ffermio mwy o foch a defaid i gyflenwi’r fenter honno, yn ychwanegol at y da byw sydd ganddo ar fân ddaliad ei rieni.

Pan gafodd yr alwad yn dweud wrtho ei fod wedi’i ddewis ar gyfer y Denantiaeth Busnes Fferm 5 mlynedd gwireddwyd ei freuddwyd.

“Rydw i ychydig yn betrus gan fod y freuddwyd bellach wedi dod yn wir, felly mae'n braf cael gwasanaeth mentora un i un o hyd a bod yn aelod o’r grŵp Agrisgôp i fy helpu drwy’r camau nesaf,’’ meddai Aled.

Hefyd sicrhaodd gyllid ar gyfer cynllunio busnes gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a chyngor ynghylch marchnata i ddatblygu ei fusnes arlwyo.

Mae’r pecyn cymorth gan Cyswllt Ffermio wedi bod yn amhrisiadwy, mae'n cyfaddef.

“Pan mae Lilwen a minnau’n cyfarfod ar gyfer sesiwn fentora un i un, byddwn yn gosod nod i mi ei gyflawni cyn y cyfarfod nesaf yn seiliedig ar y drafodaeth yn ystod y sesiwn honno.

“Rwyf wedi elwa cymaint ar Agrisgôp, mae pawb yn cynnig syniadau ac mae nifer ohonynt yn cael eu gwella yn sgil mewnbwn aelodau eraill y grŵp.’’

Mae Aled yn annog eraill i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio.

“Rydym yn ffodus iawn o gael Cyswllt Ffermio yng Nghymru a’r holl gymorth a chyngor mae'n ei gynnig. Rwy’n siŵr na fuaswn i wedi cyrraedd lle’r ydw i nawr oni bai amdano.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter