29 Ebrill 2021

 

Gall dyfnder gwreiddio meillion a phorfeydd aml-rywogaeth helpu ffermwyr da byw yng Nghymru i leihau colledion maetholion.

Mae Tom Jones yn anelu at ddefnyddio porfeydd aml-rywogaeth a phori cylchdro i wella effeithlonrwydd bwyd a lleihau mewnbynnau ar y fferm ddefaid a bîff mae’n ei rhedeg gyda’i fam ger Bae Colwyn.

Cafodd gyfle i astudio systemau pori ar ffermydd eraill yng Nghymru fel rhan o Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, ac mae’r profiad wedi ei wneud yn ymwybodol o fuddion ehangach porfeydd aml-rywogaeth.

Gwelodd Tom yn ystod ei daith astudio fod porfeydd aml-rywogaeth yn gwella cynnydd pwysau byw dyddiol ac yn lleihau’r defnydd o wrtaith, ac maent hefyd yn gallu gwella strwythur y pridd a lleihau colledion maetholion oherwydd yr amrywiaeth yn eu dyfnder gwreiddio.

Mae bellach yn bwriadu pesgi ei ŵyn ar borfeydd aml-rywogaeth yn hytrach na rhygwellt trwy ail-hau cae sy’n tyfu cnwd rêp ar fferm Fron ar hyn o bryd.

Mae Tom yn gweithio’n rhan amser ar fferm 49 hectar y teulu, sy’n cadw 160 o famogiaid, 30 o ŵyn benyw a 12 o wartheg Aberdeen Angus a Henffordd croes; maent hefyd yn cadw rhai gwartheg stôr hyd at eu pesgi ac yn gwerthu’r gweddill yn 15 mis oed.

Mae costau porthiant, gwrtaith a gaeafu’n heriol, felly mae Tom yn bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o’r glaswellt sy’n tyfu ar y fferm.

“Nodau a bwriad yr ymweliadau oedd dysgu sut i wneud gwell defnydd o’r glaswellt sy’n cael ei dyfu ar ein fferm ar hyn o bryd, ac i dyfu mwy o laswellt ar y fferm heb gynyddu ein defnydd o wrtaith nitrogen, er mwyn galluogi’r fferm i gynyddu’r gyfradd stocio a lleihau costau’r fferm dros y gaeaf o ganlyniad i ymestyn y tymor pori,” meddai.

Yn 2019, bu Tom yn ymweld â dwy fenter dda byw lwyddiannus iawn, a chafodd gyfle i ddysgu llawer am dechnegau pori.

Gyda’r wybodaeth honno, mae bellach yn fwy hyderus i fesur glaswellt er mwyn cynyddu gorchudd wrth agosáu at y gaeaf.

Bydd tymor pori’r gwartheg yn ymestyn trwy osod ffensys y tu ôl i’r stoc er mwyn adeiladu gorchudd wrth agosáu at y gaeaf.

Bydd y defaid yn cael eu bwydo ar fyrnau silwair o fis Rhagfyr, yn gynt na’r arfer, er mwyn adeiladu’r gorchudd i alluogi mamogiaid i ŵyna yn yr awyr agored o 15 Mawrth.

“Mae gorchudd cyfartalog y fferm ym mis Mawrth a dechrau Ebrill yn effeithio’n sylweddol ar dwf glaswellt trwy’r gwanwyn a’r haf,” meddai Tom.

Yn y gwanwyn, bydd y gwartheg yn pori’n gynt er mwyn annog twf glaswellt, a bydd mwy o ffensys yn cael eu defnyddio’r tu ôl i’r stoc i annog adferiad y glaswellt.

Bydd maint yr ardal sy’n cael ei neilltuo ar gyfer pori’n cael ei leihau fel nad yw’r anifeiliaid yn pori am fwy na thri diwrnod.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o