29 July 2019

 

 

marianne burrell rhian pierce and gwen davies 1 1

Mae ffermwyr sy’n bryderus bod negeseuon yn erbyn ffermio, sy’n cael eu hyrwyddo gan grwpiau ymgyrchu, yn dylanwadu ar eu cenhedlaeth nesaf o gwsmeriaid, yn brwydro’n ôl drwy wahodd ysgolion draw i’w ffermydd.

Mae cynllun Agrisgôp Cyswllt Ffermio wedi casglu ynghyd 12 o ffermwyr o ogledd-ddwyrain Cymru sydd â diddordeb mewn addysgu plant a’r cyhoedd ehangach ynglŷn ag o le mae eu bwyd yn dod.

Fe wnaethant ffurfio’r Grŵp Addysg Ffermio a Chefn Gwlad yn gynharach eleni a, dan ofal arweinydd Agrisgôp Gwen Davies, maen nhw wedi cymryd camau breision ymlaen.

Bu’r aelodau yn rhan o’r Dydd Sul Fferm Agored ac maent hefyd wedi gwahodd ysgolion draw i’w ffermydd.

Un o’r ffermwyr hynny ydy Rhian Pierce, sy’n ffermio gwartheg bîff a defaid ar fferm 300 erw Plas Dolben, Llangynhafal.

Roedd Rhian yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun oherwydd ei bod yn poeni am y bwlch sy’n tyfu rhwng ffermwyr a’u defnyddwyr.

Mae’n bryderus bod feganiaeth ar gynnydd ac mae’n awyddus iawn i herio rhai o’r negeseuon camarweiniol sy’n cael eu hybu gan ymgyrchwyr lles anifeiliaid ac amgylcheddol.

Dyma’r ail flwyddyn iddi fod yn rhan o’r Dydd Sul Fferm Agored ond roedd ganddi’r hyder i anelu’n uwch eleni, diolch i ddiwrnod gwybodaeth a drefnwyd gan Agrisgôp gyda’r sefydliad bwyd a ffermio cynaliadwy, LEAF (Linking Environment And Farming).

Treblodd nifer yr ymwelwyr, i dros 300. “Y llynedd, teulu a ffrindiau ddaeth draw yn bennaf, ond eleni daeth llawer o bobl ddieithr acw ac roedd hynny’n wych.”

Ers hynny mae Rhian wedi gwahodd tair ysgol leol i Blas Dolben – mae un wedi bod yn barod.

Roedd Agrisgôp, sy’n rhaglen dysgu gweithredol a ariennir yn llawn ac sy’n dwyn ynghyd unigolion arloesol, o’r un anian o fusnesau ffermydd a choedwigaeth lleol, wedi rhoi iddi’r argyhoeddiad yr oedd arni angen i rannu’r gwahoddiadau hynny, meddai.

Mae Rhian yn cyfaddef bod rhai ffermwyr yn synnu ei bod yn barod i roi o’i hamser, heb ddim budd ariannol, i fod yn rhan o gynlluniau addysgol.

Ei hymateb ydy ei bod yn gwneud hyn gan droi ei golygon at y dyfodol. “Dydy o ddim yn gwneud pres rŵan, ond i’r dyfodol, fe fydd o, oherwydd ein bod yn helpu i siapio dewisiadau bwyd cenedlaethau’r dyfodol, y bobl a fydd yn bwyta’r bwyd a gynhyrchwn.”

Dywedodd Gwen, Arweinydd y grŵp, fod aelodau’r Grŵp Addysg Ffermio a Chefn Gwlad wedi bod yn griw brwdfrydig o’r dechrau.

 “Mae’n ymddangos bod pawb yn dysgu rhywbeth newydd ym mhob un cyfarfod,” meddai.

 “Ni waeth pa mor arbenigol yw’r maes pwnc, gall Agrisgôp hwyluso’r gwaith o gasglu grwpiau bach o bobl at ei gilydd a helpu i ddatblygu eu syniadau.”

Mae aelod arall o’r grŵp, Marianne Burrell, sy’n gweithio ar Ystâd Fferm Rhug, yn cytuno. “Rydyn ni i gyd yn anelu at yr un nod, mae pawb yn barod i rannu syniadau.”

Dywed bod perchennog yr ystâd, yr Arglwydd Newborough, yn gefnogol iawn i addysgu pobl drwy gynlluniau ‘o’r fferm i’r fforc’.

Gallai’r wybodaeth a gafodd drwy’r profiad ag Agrisgôp helpu i lunio rhai o’r cynlluniau addysgol yn Rhug a chreu cyfleoedd gwaith o bosibl.

Nid oes gan Marianne gefndir amaethyddol a dywed bod ei haelodaeth ar y grŵp wedi llenwi’r bylchau yn ei gwybodaeth am amaeth.

Mae’r grŵp wedi ymweld â fferm yng Nghroesoswallt sy’n cynnal ymweliadau gan ysgolion ac yn nes ymlaen yn y flwyddyn bydd yr aelodau’n ymweld â choleg amaethyddol i ddysgu sut mae’n cyplysu ffermio ac addysg.

Ceir sesiynau hefyd ar gysylltu â’r cyhoedd drwy’r cyfryngau ac ar ddefnyddio cynlluniau’r cyfryngau cymdeithasol fel ‘Facetime a Farmer’.

Dywedodd Gwen y byddai’n annog pobl i ddefnyddio rhaglen Agrisgôp. “Os oes gennych chi syniad yr hoffech ei ddatblygu ymhellach, cysylltwch â’ch arweinydd Agrisgôp lleol drwy Cyswllt Ffermio am sgwrs,” meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio