Mae gwella effeithlonrwydd y famog yn un o nodau allweddol y grŵp trafod hwn, a hynny’n bennaf trwy leihau costau a sicrhau’r allbynnau gorau posibl. Bu aelodau’r grŵp yn casglu data ffisegol ac ariannol o’r cychwyn. Wrth gasglu cymaint o ddata â phosibl, gallant gymharu â meincnodi yn erbyn eu ffermydd ei gilydd a chanfod unrhyw wendidau neu gyfleoedd i wella.

Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar leihau colledion ŵyn. Mae gwella perfformiad anifeiliaid a lleihau colledion ffisegol yn allweddol er mwyn sicrhau bod ffermio defaid yn broffidiol ac mae’r aelodau’n gobeithio lleihau’r gwahaniaeth rhwng eu canran sganio a’u canran pesgi. Gan edrych yn ôl ar ganlyniadau 2014/15, y prif bryder oedd bod colledion ŵyn yn amrywio rhwng 8% a 23% o’r sganio hyd at y gwerthu.

Gyda nifer o’r colledion yn anweladwy, megis mamogiaid yn erthylu, penderfynwyd cofnodi’r colledion ar gyfer cyfnod ŵyna 2016. Y cam cyntaf oedd edrych a dadansoddi cofnodion fferm er mwyn deall beth oedd y prif broblemau ac i allu cynllunio ymlaen llaw er mwyn lleihau problemau yn y flwyddyn olynol. Rhoddwyd taflenni casglu data i’r grŵp er mwyn cofnodi eu colledion, gan nodi’r rhesymau dros y colledion hynny. 

Cofnodwyd canlyniadau ar gyfer mamogiaid croes, mamogiaid Cymreig ac ŵyn benyw ac maent yn dangos yn glir bod colledion yn amrywio gan ddibynnu ar yr anifail, gan ddangos pwysigrwydd casglu cymaint o ddata â phosibl. Dyma’r canlyniadau:

MAMOGIAID

 

 

mamogiaid

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

i) Gyda’r mamogiaid croes, dangoswyd bod 80% o’r colledion wedi digwydd cyn ŵyna ac o fewn y 48 awr gyntaf.

 

mamogiaid 2

ii) Collodd 62% o’r mamogiaid Cymreig eu hŵyn o fewn y 48 awr gyntaf. Roedd ŵyna  yn yr awyr agored yn cael effaith sylweddol ar oroesiad ŵyn.

 

mamogiaid 3

 

iii) Cofnodwyd hefyd y rhesymau dros y marwolaethau. Dangosodd y canlyniadau fod 20% o’r colledion o ganlyniad i farwolaeth y famog. Arweiniodd y canlyniadau at ymchwil pellach, gan gynnwys post mortem a phrofi gwaed. Yr ail reswm pennaf dros golledion oedd erthyliad, sef 16%. Mae’r colledion hyn yn golledion nad ydynt yn cael eu cofnodi na’u cyfrif yn aml gan nad oes ŵyn yn cael eu geni. O ganlyniad, collwyd 36% o’r ŵyn cyn dechrau’r cyfnod ŵyna . Yn dilyn ymchwiliad pellach, mae nifer wedi dewis rhoi triniaeth rhag erthylu er mwyn lleihau’r nifer uchel o golledion ŵyn.

 

ŴYN BENYW

 

wyn benyw 1

 

i) Mae mwy a mwy wedi dewis ŵyna  ŵyn benyw gan fod nifer yn cadw eu hanifeiliaid cyfnewid eu hunain. Gellir ystyried hyn yn fantais ariannol os bydd yn cael ei wneud yn iawn. Gyda mwyafrif yr ŵyn yn cael eu colli o fewn y 48awr cyntaf (79%), roedd hi’n bwysig olrhain y rhesymau dros y colledion hyn er mwyn cynllunio ymlaen ar gyfer y flwyddyn olynol.

 

wyn benyw 2

 

ii) Dangosodd y canlyniadau bod 60% o’r ŵyn yn cael eu colli o ganlyniad i anawsterau wrth ŵyna , a 15% ychwanegol o ganlyniad i ŵyn gwannach. Cododd hyn bryderon ynglŷn â maeth y famog a’r angen am gynllunio maeth cyn ŵyna . Trafodwyd hefyd frîd yr hwrdd gan arwain at newid y brîd a ddefnyddiwyd gyda’u hŵyn benyw.

 

Ar ôl casglu data, mae nifer wedi gwneud newidiadau sylweddol i reolaeth eu mamogiaid a’u hŵyn benyw, a byddant yn parhau i fonitro colledion yn ystod cyfnod ŵyna 2017, gyda’r gobaith o leihau colledion ŵyna.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter