Roedd gan aelodau’r grŵp trafod ddiddordeb mewn ymchwilio i elfennau hybrin trwy brofi gwaed sampl o'u diadell. Cymerwyd y samplau ar y cyd â milfeddygon lleol a defnyddiodd yr aelodau eu ‘cymhelliant’ grŵp trafod er mwyn ariannu'r samplau.

Cymerwyd samplau cyn i’r mamogiaid gael eu troi at yr hwrdd. Dadansoddwyd y canlyniadau gan y milfeddyg lleol er mwyn gallu canfod diffygion elfennau hybrin yn ogystal â lefelau boddhaol o rai eraill.

Cynhaliwyd cyfarfod grŵp gyda’r milfeddyg lleol er mwyn cymharu a thrafod effaith diffygion elfennau hybrin o fewn y diadelloedd, a sut y gallai hynny effeithio ar berfformiad y famog. Un darganfyddiad diddorol oedd bod gan aelodau grŵp gyda thir yn wynebu'r Gogledd famogiaid yn dangos lefelau Cobalt uchel.  Roedd pob diadell yn isel o ran Ïodin. Roedd aelodau’r grŵp yn anelu at fynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd elfennau hybrin yn eu diadelloedd, gan obeithio y byddai’n cael effaith gadarnhaol ar ganrannau ŵyna a chyfraddau ŵyna.

Bu'r milfeddyg yn bresennol yn y cyfarfod grŵp dilynol er mwyn trafod paratoadau ar gyfer ŵyna a bu'r grŵp yn meincnodi eu canrannau sganio. Rhybuddiodd y milfeddyg rhag gor-ddefnyddio triniaeth wrthfiotig a’r angen i fod yn ofalus wrth roi meddyginiaeth i’r ddiadell. Cytunodd aelodau'r grŵp i gofnodi eu defnydd o driniaeth wrthfiotig rhwng 01/02/2017 a 01/05/2017 ac i rannu eu canlyniadau gyda'r grŵp yn ystod y cyfarfod nesaf.

Dyfyniad gan aelod o’r grŵp:

“Mae’r profion gwaed a gymerwyd fel grŵp wedi gwneud i mi roi ystyriaeth bellach i gywiro diffygion elfennau hybrin yn fy niadell fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad fy niadell. Byddaf hefyd yn fwy gofalus wrth roi meddyginiaeth ac yn ystyried a oes gwir angen ar ei gyfer, yn hytrach na’i roi fel mater o arfer."


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o