Mae Andy Reeves yn beiriannydd yswiriant llawn amser, ond fel mab i ffermwyr llwyddiannus sydd â thyddyn gerllaw Wrecsam, ei darged hirdymor erioed fu ennill bywoliaeth o’r tir, gyda’i wraig Cheryl sy’n fiocemegydd.

“Am flynyddoedd maith, fe fûm i’n dysgu llawer am ffermio drwy helpu fy nhad. Ond, wedi i mi fynd amdani o’r diwedd yn 2012 a buddsoddi mewn tyddyn 57 erw gerllaw Bangor Is y Coed, sy’n eiddo’n rhannol i mi ac sydd hefyd wedi’i rentu’n rhannol, roeddwn i’n gwybod y byddai angen arweiniad technegol a busnes arbenigol arnaf,” meddai Andrew.

Sicrhaodd y cwpwl gymorth Cyswllt Ffermio, a chawsant gymorth gan eu swyddog datblygu lleol, Marial Edwards, ac maent erbyn hyn yn ehangu’r fenter newydd un cam ar y tro.

 

marial edwards farming connect cheryl and andrew rees with daughter hollie

“Rydym wedi bwriadu cael ein lle ni ein hunain erioed gyda digon o dir i gadw ein stoc bîff ein hunain, ond roeddem yn ymwybodol iawn, er gwaethaf fy mhrofiad blaenorol o helpu gartref a’r holl gefnogaeth ymarferol a gawn gan dad, bod rhedeg ein busnes amaethyddol ein hunain yn beth hollol newydd i ni.”

“Diolch i Marial, roeddem yn gwybod ymhle i ganolbwyntio ein hymdrechion ac, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi treulio ein hamser yn ddoeth, gan weld yn bersonol sut y dylai pethau gael eu gwneud, o safbwynt rheoli busnes ac o safbwynt technegol.” 

Roedd y cwpwl wedi drafftio eu cynllun busnes eu hunain, felly ar ddiwedd 2015 argymhellodd Marial eu bod yn cofrestru ar gyfer cymhorthfa adolygu busnes Cyswllt Ffermio i drafod cynnwys y cynllun gydag ymgynghorydd cymeradwy a fyddai wedyn yn gallu ei ddilysu. Mae hyn yn gam hanfodol cyn i fusnes allu gwneud cais am gyngor technegol drwy’r Gwasanaeth Cynghori.

Dewisodd y cwpwl dderbyn y gwasanaeth yma’n ddigidol, oedd yn cynnwys cyfarfod ffôn gyda Wendy Jenkins, partner gyda’r cwmni ymgynghori Cara sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio, i drafod eu hamcanion ehangach a’r camau gweithredu sydd eu hangen i’w helpu i’w cyflawni nhw.

Dywedodd Mrs Jenkins bod y gwasanaeth adolygu dros y ffôn yma sy’n para awr, sydd wedi’i ariannu’n llawn ac sy’n weddol newydd, yn gam cyntaf call iawn i fusnesau sydd eisiau cyngor am gynllunio busnes.

“Mae’n rhoi cyfle i ffermwyr drafod eu hopsiynau gydag arbenigwr mewn ffordd agored ac eto gyfrinachol, fel eu bod yn derbyn cyngor cyn iddynt ddechrau gwneud yr hyn a allai fod yn benderfyniadau costus, heb ddigon o wybodaeth yn sail iddynt.”

 Yn dilyn yr adolygiad ffôn, derbyniodd Andrew a Cheryl gynllun gweithredu y maent yn awr yn dechrau ei weithredu cyn iddynt benderfynu cymryd y cam nesaf o wahodd ymgynghorydd i ymweld â’r fferm i gael dadansoddiad mwy manwl.

“Roedd hi’n amlwg bod Andrew a Cheryl wedi ymrwymo i ddatblygu eu busnes a thrafodwyd nifer o bynciau o fewn y sesiwn adolygu busnes. Argymhellwyd eu bod yn ceisio cyngor ar faterion technegol sy’n ymwneud â da byw a glaswelltir, yn ogystal â mynd i gymaint o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ag sy’n bosibl i ehangu eu gwybodaeth amaethyddol,” meddai Mrs Jenkins.

Cychwynnodd y teulu

 Reeves ar raddfa fechan, gan brynu eu buches gyntaf o ddeg buwch Aberdeen Angus a Hereford wedi eu diddyfnu. Yn fuan iawn, cyfeiriodd Marial y teulu at nifer o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio a gweithdai penodol i’r sector ac mae’r rhain, yn ôl Andrew, wedi rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol iddo.

“Erbyn hyn rydym wedi ymestyn y fuches i 60 ac rydym yn deall yn llawer gwell sut i wella maeth, lloches a lles ein gwartheg sydd, yn eu tro’n cyfrannu at gynaliadwyedd y busnes,” meddai Andrew.

“Rydym yn gynnar iawn yn y broses o hyd, ond ar ôl mynd i weithdai glaswelltir a silwair Cyswllt Ffermio y llynedd, rydym yn awr yn gwybod llawer mwy am strwythur y pridd a sut mae’n effeithio ar ansawdd y glaswellt a’r silwair, ac rwy’n hyderus y byddwn yn dechrau gweld manteision sylweddol o’r wybodaeth hon yn fuan iawn.”

Mae amcanion tymor hirach y cwpwl yn cynnwys ymestyn nifer o’u hadeiladau amaethyddol ac, yn barod, maent wedi derbyn ymgynghoriad un-i-un mewn cysylltiad â hyn a ariannwyd yn llawn mewn cymhorthfa gynllunio gan Cyswllt Ffermio.

Maent wedi cofrestru’n barod ar raglen fentora Cyswllt Ffermio sydd wedi ei hariannu’n llawn; maent yn bwriadu cwblhau Cynlluniau Datblygiad Personol ar-lein (PDP) cyn hir a phan fydd yr amser yn caniatáu yn eu hamserlenni prysur, mae Andrew a Cheryl hefyd yn bwriadu gwneud cais am hyfforddiant gyda chymhorthdal i gryfhau eu sgiliau. Mae cyfnod prysur iawn o’u blaenau!

I elwa o’r ystod eang o wasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio sydd ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol drwy glicio yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm