22 Hydref 2018

 

 

rhidian glyn 0

Er nad oedd yn dod o gefndir amaethyddol, roedd â’i fryd ar fod yn ffermwr yn ifanc iawn. Bellach, mae’r penderfyniad i lwyddo ynghyd ag ymroddiad, parodrwydd i ddysgu gan eraill a gwaith caled wedi golygu bod Rhidian Glyn, ffermwyr 32 oed o Bowys wedi ennill un o brif wobrau ffermio’r DU!  

Neithiwr (18 Hydref) datgelwyd mai Rhidian, sy’n ffermio safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Rhiwgriafol ym Machynlleth, oedd enillydd categori'r wobr aur ‘New Entrant: Against all odds’ yn seremoni arbennig Ffermio Prydain a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynhadledd Genedlaethol, Birmingham.

Roedd mwy na 700 o ffermwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn y digwyddiad, oedd yn arddangos arloesedd a llwyddiannau ffermwyr Prydain ar draws y diwydiant amaethyddol. Trefnwyd y noson gan AgriBriefing, rhiant gwmni Farmers Guardian, Dairy Farmer ac Arable Farming. Roedd y 14 gwobr yn cynnwys sectorau craidd amaethyddol y DU gan gynnwys eidion, ffermio âr, peiriannau, myfyrwyr amaethyddol ac arallgyfeirio.

Athrawon oedd rhieni Rhidian, ond ac yntau wedi’i fagu yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, roedd â’i fryd ar fod yn ffermwyr yn ifanc iawn. Enillodd radd BSc mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau ar ei swydd gyntaf ym myd amaeth fel cynrychiolydd porthiant anifeiliaid.  

Yn 2008, ochr yn ochr â’i waith bob dydd, penderfynodd Rhidian rentu naw erw o dir pori gwael i gadw 15 o ddefaid mynydd Cymreig. Dechreuodd yn araf bach, ond wrth iddo sicrhau llwyddant, a chael mwy o brofiad, yn fuan cafodd ddigon o hyder i brynu parseli mwy o dir pori wrth i’r cyfleoedd godi yn ei ardal leol. 

Yn 2014, cysylltodd Rhidian a’i wraig Elen â rhaglen Cyswllt Ffermio i gael cynllun busnes trwy’r Gwasanaeth Ymgynghori. Bu hwn yn gam allweddol iddynt sicrhau Tenantiaeth Busnes Fferm deng mlynedd yn Rhiwgriafol, fferm fynydd 530 erw.

Ynghyd â rhedeg y fferm, mae Rhidian ar hyn o bryd yn dal trwydded bori 11 mis ar 160 erw bum milltir i ffwrdd. Mae wedi buddsoddi adnoddau ac amser ac mae’r ddiadell bellach wedi tyfu’n fenter broffidiol gyda 900 o famogiaid a 250 o ŵyn benyw.

“Gyda’n cynllun busnes ar gyfer Rhiwgriafol, a gyflwynwyd gyda’n cais am y denantiaeth, roedd gennym yr hyder i ddatblygu ein cais yn ogystal â chanllawiau ar sut i ddatblygu’r busnes yn y tymor hir.”

Yn Rhiwgriafol, a ddaeth yn safle arddangos Cyswllt Ffermio yn 2016, caiff yr ŵyn eu gwerthu’n bennaf ar y bach i Dunbia fel rhan o gynlluniau YFC a Taste the Difference Sainsbury.

Mae gan Rhidian ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig, gyda hanner ohonynt wedi’u croesi â hyrddod Aberfield a’r mamogiaid magu’n cael eu gwerthu am bris premiwm. Mae hefyd wedi canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd cyffredinol y ddiadell ac mae wedi dechrau cofnodi perfformiad er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl ac ychwanegu gwerth i’r stoc magu y mae’n eu gwerthu.

Mae wedi ychwanegu menter magu heffrod newydd i’r busnes, gan gael tua 110 o loi bob blwyddyn, a’u magu am 17 mis, sy’n golygu bod tua 220 o wartheg ar y fferm yn ystod yr haf a 110 yn ystod y gaeaf.

Mae Rhidian yn ystyried y bydd dyfodol heb gymorthdaliadau’n her i ffermwyr awyddus a gweithgar ffynnu a datblygu busnesau hyfyw. Hefyd mae’n bwriadu cynyddu ei ddefnydd o’r system pori cylchdro i helpu i wella proffidioldeb a chynhyrchiant y tir, byddai hyn yn cynnwys cyflwyno ei fuches ei hun.

“Mae bod yn safle arddangos Cyswllt Ffermio wedi rhoi mynediad at wybodaeth a chyngor allweddol am y diwydiant, sydd trwy ein diwrnodau agored a sianelau cyfathrebu eraill nid yn unig o fudd i’n busnes, ond o fudd hefyd i ffermwyr uchelgeisiol eraill er mwyn gweithio’n fwy effeithlon neu broffidiol. 

“Rhaid i bob ffermwr anelu at yr un nod, sef cynyddu cynaliadwyedd y busnes fferm a hwyluso datblygiad y busnes yn y dyfodol, er gwaetha’r ansicrwydd presennol sy’n effeithio ar ein diwydiant.”

Trwy gydol ei amser o fewn y diwydiant amaethyddol, mae Rhydian wedi manteisio ar bob cyfle i gymryd rhan mewn bywyd gwledig ac amaethyddiaeth yn gyffredinol. Mae wedi cwblhau rhaglen datblygiad personol Cyswllt Ffermio, mae’n gyn gadeirydd ei Glwb Ffermwyr Ifanc lleol; mae'n ysgrifennydd Cymdeithas Tir Glas Bro Ddyfi ac yn drysorydd y sioe amaethyddol leol.

 

 

image1 1 1

Dyma sylwadau’r beirniaid am Rhidian: 

“Roedd ganRhidian gynllun trylwyr.

“Mae wedi gwneud y cysylltiadau priodol drwy gyflogaeth a’r Ffermwyr Ifanc ac mae'n parhau i wneud hynny.

“Mae rhwydweithio wedi arwain at gyfleoedd fel magu heffrod, gan edrych y tu hwnt i’r fferm a rhoi cynnig ar syniadau newydd.

“Mae wedi gweithio’n galed i gyrraedd lle mae heddiw ac nid yw’n cymryd unrhyw beth yn ganiataol, yn hytrach mae’n herio ei hun ac yn gwrando ar ei rhwydwaith cefnogi cadarn.”

 

Dyma sylwadau Rhidian ar ôl ennill:

 “Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a chefnogaeth yr wyf wedi’i gael dros y blynyddoedd ers i mi gychwyn.

 “Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant gwych i weithio ynddo gan ei fod yn amrywio ac mae bob diwrnod yn wahanol, ond rwyf hefyd yn ymwybodol bod angen i bob ffermwyr edrych tua’r dyfodol a blaengynllunio, er mwyn datblygu fel pobl fusnes a sicrhau bod busnesau fferm yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Er ei bod wedi bod yn siwrnai hir i gyrraedd y fan hon, mae’r holl ymdrech wedi bod yn werth chweil ac mae'n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon.”

Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig ystod eang o wasanaethau wedi’u targedu at newydd-ddyfodiad, o’r rhai sy’n eisiau cymryd y cam cyntaf i’r diwydiant i eraill sydd eisiau datblygu eu sgiliau personol, busnes neu dechnegol. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth Mentro, sy’n paru unigolion ac yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar rannu fferm a mentrau ar y cyd.

Am fwy o wybodaeth ar sut y gallai Cyswllt Ffermio eich cefnogi chi a’ch busnes fferm neu goedwigaeth, cliciwch yma i weld y manylion cyswllt ar gyfer eich swyddog datblygu lleol, neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o