2 Chwefror 2022
Bod gennych 50 neu 5,000 o ddefaid, mae pob ffermwr am sicrhau bod pob anifail yn eu diadell yn perfformio ar ei orau, yn y cyflwr gorau ac yn rhoi’r elw gorau iddyn nhw. I lawer o ffermwyr, yn arbennig y rhai nad ydyn nhw’n rhedeg system organig, mae hynny’n golygu rhoi dos i’r ddiadell rhag parasitiaid yn ystod y tymor ŵyna fel rhan o’r patrwm arferol. Gall hyn fod yn gostus, gymryd llawer o amser ac yn aml mae’n ddull ‘dall’ nad yw ar sail cyngor doeth, oherwydd nad oes ganddynt dystiolaeth pa ddefaid sydd angen dos nac yn gwybod pa mor effeithiol yw’r dos y maent yn ei ddefnyddio. Mae’n fater sy’n cyfrannu at y broblem gynyddol o anifeiliaid yn magu gwrthedd i rai triniaethau llyngyr, sy’n arwain at broblemau iechyd anifeiliaid.
Mae cyngor profion lleihau cyfrif wyau ysgarthol (FECRT), sydd ar gael trwy Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, yn rhoi’r wybodaeth i ffermwyr trwy Gymru i roi dos i’r anifeiliaid hynny sydd angen triniaeth llyngyr gyda’r driniaeth fwyaf effeithiol.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig.
Mae Ystâd Rhug yn Sir Ddinbych yn fusnes amrywiol sydd wedi ei wobrwyo ac yn cael ei gydnabod am ddefnyddio ffermio organig cynaliadwy yn amgylcheddol. Mae rheolwr fferm yr ystâd, Gareth Jones, yn dilyn protocolau rheoli iechyd anifeiliaid sy’n sicrhau bod eu defaid Miwl Gogledd Lloegr a defaid Swaledale yn cael eu cadw dan amodau gwirioneddol organig a rhydd. Mae Rhug yn enwog trwy’r byd am ei weithgareddau cae i’r plât o fewn y busnes, sy’n dilyn y safonau lles gorau ar gyfer ei holl anifeiliaid.
Mae’r ystâd yn y lleoliad perffaith i dyfu’r glaswellt toreithiog sy’n angenrheidiol ar gyfer diet naturiol iach. Yn aml, mae ŵyn yn cael eu pesgi ar borfeydd organig wedi eu hau gyda detholiad o lysiau a glaswelltau, gan gynnwys ysgellog, troed y ceiliog, rhonwellt, meillion gwyn a choch, yn ogystal â maip sofl yn ystod misoedd y gaeaf.
Pwysleisia Mr Jones fod y priddoedd a’r glaswelltir, ynghyd â chyflwr, perfformiad a chynhyrchiant yr holl ddefaid, i gyd yn cael eu monitro trwy gydol y flwyddyn.
“Trwy dderbyn cyngor FECRT, rydym yn cael y dystiolaeth y mae arnom ei hangen i weithio’n rhagweithiol gyda’n milfeddygon ac rydym yn gallu gweinyddu’r cynnyrch mwyaf effeithiol ar y ddos orau, sydd hefyd yn lleihau costau.
“Trwy gyfrif wyau ysgarthol yn gyson, rydym yn dal i roi dos ar gyfer parasitiaid os yw’n hollol hanfodol, nid ydym yn defnyddio dull trin popeth,” dywedodd Mr Jones.
Yn hwyr yn haf 2020, ymunodd Mr Jones â saith o ffermwyr defaid eraill yn y rhanbarth i gyflwyno cais grŵp am gyngor FECRT trwy Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Wedi ei ariannu’n llawn ar gyfer grwpiau o rhwng tri ac wyth busnes fferm, neu wedi ei ariannu 80% i geisiadau unigol, mae hyn yn rhoi cyfle i ffermwyr edrych ar y gwrthedd i ddos llyngyr ar eu ffermydd cyn y tymor ŵyna nesaf. Mae adroddiad manwl dienw yn rhoi’r dystiolaeth i bob un ohonynt ac argymhellion i weithio gyda’u milfeddygon neu gynghorwyr eu hunain wedyn i ymdrin ag unrhyw heriau.
“Fe wnaethom gais am y cyngor grŵp FECRT i ddynodi a oes gennym unrhyw broblemau gwrthedd ar Ystâd Rhug, oherwydd fel menter organig, rydym yn gorfod profi bod unrhyw driniaeth llyngyr yn angenrheidiol a hefyd mae arnom angen gwybod os bydd unrhyw rai o’n stoc yn datblygu gwrthedd i’r triniaethau llyngyr yr ydym yn eu defnyddio.
“Mae gennym system gwarantîn gadarn ar gyfer yr holl stoc cyfnewid, i sicrhau nad ydym yn cyflwyno gwrthedd i’r fferm.
“Mae’r profi hwn wedi helpu i ddynodi ein sefyllfa bresennol a dylanwadu ar ein proses lunio penderfyniadau wrth symud ymlaen,” dywedodd Mr Jones.
Mae James Hadwin, y cynghorydd bîff a defaid arbenigol sy’n arwain ar roi cyngor FECRT trwy’r Gwasanaeth Cynghori, yn gweithio ochr yn ochr â Techion, cwmni yn seiliedig yng Nghymru sy’n darparu'r gwasanaeth samplo ysgarthol ar ffermydd a’r gwasanaeth profi mewn labordy.
Dywed Mr Hadwin fod FECRT yn fuddiol i dyddynwyr a pherchenogion tir mawr ar yr amod eu bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
Cyn i’r gwaith allu dechrau, mae’r sampl cyntaf o dail gan yr ŵyn yn cael ei gasglu gan y ffermwr mewn pecyn arbennig, ac yna ei anfon at labordai Techion UK yn Aberystwyth i wirio os yw’r cyfrif wyau yn ddigon uchel i symud ymlaen. Dyma’r cam cyntaf i helpu ffermwyr i ddynodi os oes gan eu defaid broblem parasitiaid neu beidio.
Yna bydd technegydd cymwys yn ymweld â’r fferm i wneud gwaith samplo, pwyso a thrin llyngyr mewn pedwar grŵp o 20 oen gyda’r pedwar grŵp gwahanol o driniaeth llyngyr. Y ffermwr fydd yn darparu’r glorian, a bydd y glorian a’r gwn dosio yn cael eu gosod gan y technegydd. Ar ôl saith diwrnod, bydd y ffermwr yn dychwelyd y samplau grŵp melyn. Bydd Techion yn dychwelyd i gymryd samplau o’r tri grŵp sy’n weddill, 14 diwrnod ar ôl rhoi dos iddynt.
Esboniodd Gareth Jones, ochr yn ochr â gweithredu nifer o gamau arfer gorau o ran rheoli, fod y ffermwyr yn y grŵp i gyd wedi eu cynghori i gydweithio â’u milfeddygon eu hunain i leihau’r risg o fagu gwrthedd anthelmintig trwy fonitro’r cynnydd mewn pwysau byw ochr yn ochr â phrofion cyfrif wyau cyson.
“Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni i gyd bod angen trin llyngyr i gychwyn, a thrwy wirio effeithiolrwydd yn barhaus ar ôl i unrhyw ŵyn gael eu trin trwy brawf dos, gallwn sicrhau bod y triniaethau llyngyr yn gweithio’n effeithiol ar wahanol adegau o’r flwyddyn,” dywedodd Mr Jones.
Roedd adroddiad Ystâd Rhug hefyd yn argymell defnyddio hyrddod pryfocio i helpu i’r defaid ddod i ofyn hwrdd ar yr un pryd, gan ei gwneud yn haws i ymdrin ag unrhyw heriau o ran llyngyr yn ystod ffenestr ŵyna fwy cyfyng gyda’r ŵyn i gyd o oedran tebyg.
“Trwy rannu eu hadroddiad FECRT gyda milfeddygon y fferm neu eu cynghorwyr, gall yr holl ffermwyr fod yn sicr eu bod yn gwneud popeth posibl i gynnal effeithlonrwydd unrhyw driniaethau llyngyr a ddefnyddir, a chynnal neu wella perfformiad yr ŵyn i’r lefelau gorau posibl.
“Bydd y dull diwnïad hwn yn dynodi unrhyw broblemau cyn iddynt effeithio ar berfformiad y defaid, ac fe fyddwn yn cynghori ffermwyr defaid eraill i wneud cais am y gwasanaeth hwn cyn eu tymor ŵyna nesaf,” dywedodd Mr Jones.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig.