1 Mehefin 2021

 

Mae ‘meddwl y tu allan i’r bocs’, neu o drelar ceffylau wedi’i addasu, i fod yn fanwl gywir, lle gallwch brynu llaeth ‘ffres o’r fferm’ o beiriant gwerthu llaeth ‘symudol’, wedi profi i fod yn syniad gwerth chweil i deulu o ffermwyr llaeth trydedd genhedlaeth o Geredigion sydd bellach yn gwerthu llaeth yn uniongyrchol i gannoedd o gwsmeriaid. 

Mae’r trelar a gynlluniwyd yn arbennig, wedi’i addurno’n drawiadol â’r brand ‘Llaeth Llanfair’ drosto, wedi datblygu i fod yn atyniad poblogaidd ar gyfer cwsmeriaid yn Llanbed, Cwmann, Tregaron a Llanybydder, sy’n amlwg yn mwynhau’r blas a’r profiad o brynu llaeth wedi’i basteureiddio ac ysgytlaeth yn ffres o’r fferm yn eu hardal eu hunain. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, datblygodd y farchnad ar gyfer peiriannau gwerthu llaeth yn sydyn iawn drwy’r DU ac Ewrop, yn enwedig felly yn sgil cwsmeriaid oedd yn awyddus i osgoi archfarchnadoedd prysur yn ystod y pandemig.  

Ar fferm laeth 800 erw Llanfair Fach, ger Llanfair Clydogau ar gyrion Llambed, y mae Laura Jones, ei gŵr Dafydd a’i frawd yntau Guto, yn ffermio. Gyda chefnogaeth lawn rheini’r ddau frawd, aeth y tri â’u syniadau arallgyfeirio un gam ymhellach na llawer o deuluoedd eraill drwy benderfynu sefydlu gwasanaeth symudol, yn hytrach na lleoli eu peiriant gwerthu llaeth ar dir y fferm neu mewn un lleoliad penodol parhaol. 

“Gan fod gennym drelar wedi’i addasu’n arbennig, gallwn fynd ag ef i ardaloedd lle mae galw am y math hwn o wasanaeth, lle ry’n ni’n weddol hyderus y bydd digon o bobl yn mynd a dod a lle ry’n ni wedi derbyn caniatâd perchnogion y safleoedd hynny,” meddai Laura. 

Yn ddiweddar, mae teulu’r Jones wedi prynu eu hail beiriant gwerthu llaeth, sydd wedi’i leoli o flaen siop Valley Services, garej ar gyrion Llandysul, mewn da bryd ar gyfer y llif tybiedig o ymwelwyr fydd yn anelu am arfordir Ceredigion yn ystod yr haf. 

“Heb y gefnogaeth a’r cyngor a dderbyniwyd drwy Cyswllt Ffermio ac yna Cywain, sydd â mentoriaid sy’n arbenigo mewn darparu cefnogaeth ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod, fydden ni ddim wedi cyrraedd ble’r ydym ni heddiw,” meddai Laura. 

Cyflwynir y ddwy raglen sy’n cynnig gwasanaethau cyflenwol a chefnogaeth i fusnesau yng Nghymru gan Menter a Busnes, ac maent yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig 

“Dechreuodd ein taith arallgyfeirio gyda help technegol ac arweiniad gan Cyswllt Ffermio. Mae ein teulu ni wedi troi atynt droeon dros y blynyddoedd, gan drafod materion megis rheoli cynllunio maetholion ar gyfer y pridd, ein strategaeth pori a phynciau iechyd anifeiliaid, sydd oll wedi arwain at y tir yn perfformio i’r lefelau eithaf a bod ein buches o 400 o wartheg Freisian croes Jersey yn y cyflwr gorau posib i gynhyrchu llaeth o’r safon uchaf.  

Mae pob buwch yn cynhyrchu tua 6,500 litr o laeth y flwyddyn sy’n cael ei werthu ar gytundeb i First Milk, ond fel yr eglurodd Laura, yn sgil y gwarged cynyddol bob blwyddyn wrth i fwy o heffrod gael eu cadw yn y fuches, roedd hi’n benderfynol o yrru ei syniad o werthu unrhyw laeth oedd dros ben yn uniongyrchol i’r cyhoedd. 

"Siaradais â ffermwyr eraill a oedd eisoes yn gwerthu drwy beiriannau gwerthu llaeth, ac er eu bod yn gostus o safbwynt cyllid ac amser ar y dechrau, mae ganddynt botensial i ad-dalu’r buddsoddiad cychwynnol a chreu llif newydd o incwm o fewn cyfnod cymharol fyr.” 

Yn ogystal â phrynu ac addasu’r trelar ceffylau a Laura’n comisiynu ffrind sy’n ddylunydd graffig i gynllunio’r brand newydd, aeth y teulu ati hefyd i greu adnodd wedi’i adeiladu’n bwrpasol i gadw peiriant pasteureiddio, yn agos i’w parlwr godro saethben.

O sylweddoli y byddai marchnata effeithiol yn ffactor hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant y fenter, mynychodd Laura gymhorthfa arallgyfeirio Cyswllt Ffermio ym mis Awst 2020, gyda’r ymgynghorydd marchnata profiadol Clare Hester o Landsker. Rhoddodd y sesiwn awr un-i-un a gynhaliwyd dros y ffôn yn sgil cyfyngiadau’r pandemig, ei phrofiad cyntaf o farchnata, gan ganolbwyntio’n enwedig ar ddatblygu rhestr cwsmeriaid drwy ymwneud lleol, brandio ac ymwybyddiaeth cwsmer drwy ddosbarthu taflenni, hysbysebu’n lleol a chreu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Cyfeiriodd Clare ni hefyd at Cywain, ac ry’n ni wedi datblygu perthynas ardderchog â Lowri Jones, ein rheolwr datblygu lleol, yn ogystal â nifer o fentoriaid penodol i’r sector o safbwynt cynllunio ariannol a busnes ac ry’n ni hefyd wedi derbyn arweiniad manwl pellach ar elfennau marchnata.”

Dywedodd Lowri hefyd wrth y teulu am y cyfnod ymgeisio am grant oddi wrth y cyngor lleol a oedd ar gael ar y pryd – “fe lwyddon ni i wneud cais jyst mewn pryd” – a’u cyfeirio at Ganolfan Bwyd Cymru yn Horeb, sy’n cynnig hyfforddiant achrededig ar nifer o bynciau hanfodol sydd angen ar gynhyrchwyr bwyd yn cynnwys sgiliau technegol a chymwysterau diogelwch bwyd.  
“Er mai ar-lein y cynhaliwyd pob un o’n cyfarfodydd yn sgil y pandemig, ry’n ni wedi dysgu llawer iawn ac wedi canfod fod yr arweiniad a’r gefnogaeth a gawsom gan Cyswllt Ffermio a Cywain yn hynod werthfawr.  

Felly, beth yw’r cam nesaf yng ngyrfa entrepreneurol Laura sy’n credu’n gryf mai merched yw’r grym sy’n gyrru nifer dirifedi o fentrau arallgyfeirio. Mae’n disgrifio ei hun fel cefnogwr brwd o bŵer merched, ac mae’n awyddus i fwy o ferched fagu’r hyder i ‘feddwl y tu allan i’r bocs’, i greu ffrwd incwm cynaliadwy, ac mae’n mwynhau gweld menter peiriannau gwerthu llaeth ei theulu’n datblygu. 

“Nes bod ein plant ni ychydig bach yn hŷn a ’mod innau’n dysgu sut i dynnu’r trelar fy hun, rwy’n dal yn falch iawn o gefnogaeth y dynion, am fod ei gludo i wahanol leoliadau erbyn tua 7.30 o’r gloch bob bore, ail-lenwi’r tanciau yn ôl y galw a’u casglu eto tua 7 o’r gloch yr hwyr yn dipyn o ymrwymiad.” 

Dywed Laura mai Dafydd a Guto sy’n gwneud y gwaith fferm ymarferol yn Llanfair Fach, yn godro’r 400 o wartheg ddwywaith y dydd, felly bydd y fenter bob amser yn rhan ganolog o’n bywydau ni i gyd. 

“Drwy weithio fel tîm, ry’n ni’n dod â’n cryfderau ein hunain i’r busnes hwn, a hyd yn hyn, mae pawb yn hapus iawn â’r canlyniadau,” meddai Laura. 

Mae map ar-lein Cywain yn eich galluogi i adnabod cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn syth. Ewch i menterabusnes.cymru/cywain/ein-cynhyrchwyr/ 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o