1 Tachwedd 2018

 

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio 2019 ar agor nawr

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi dechrau chwilio am ffermwyr a choedwigwyr brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n awyddus i gynyddu elfen gystadleuol a hyfywedd eu busnes trwy gymryd rhan yn y rhaglen Gyfnewidfa Rheolaeth yn 2019, sy’n cael ei ariannu’n llawn. 

Ers lansio’r rhaglen hynod lwyddiannus yn 2016, mae 14 o ffermwyr a choedwigwyr wedi ymweld â busnesau ledled y DU a gwledydd eraill Ewrop, gan ehangu ar eu gwybodaeth, gallu technegol ac arbenigedd rheolaeth.  Mae nifer ohonynt eisoes wedi rhoi dulliau newydd a gwell o weithio ar waith ac maen nhw gam yn nes at redeg busnesau cryf a chynaliadwy a all gystadlu mewn marchnad fyd-eang, er gwaethaf yr amodau masnach ansicr a ddisgwylir yn dilyn Brexit.

A allech chi fod yn un o’r unigolion ffodus a fydd yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen 2019?  Mae’r rhaglen yn cael ei ariannu ar gyfradd o 100%, hyd at uchafswm o £4,000 gyda chostau’n cael eu ad hawlio yn ystod y cyfnod ymweld neu groesawu.  

“Rydym ni eisiau annog ceisiadau gan ffermwyr a choedwigwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar draws pob sector,” meddai

Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio.  Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

“Dyma gyfle gwych i weld sut mae rhai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Ewrop yn gweithredu, a bydd yr hyn a ddysgwch nid yn unig yn effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n rhedeg eich busnes, ond bydd y wybodaeth hefyd yn cael ei rhannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru drwy raglen Cyswllt Ffermio. 

“Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o ymweld â busnes fferm neu goedwigaeth o fewn yr UE, ac y gallech hefyd fod â diddordeb i groesawu rheolwr fferm neu goedwig profiadol sy’n gweithio yn yr UE ar hyn o bryd i’ch daliad chi, byddem yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.

“Bydd ymgeiswyr llwyddiannus naill ai yn ymweld neu’n croesawu ymweliad a bydd ymweliadau dwy ffordd yn cael eu hannog, ond nid yw hynny’n hanfodol,” ychwanegodd Ms. Davies.

Nodau’r rhaglen yw galluogi dwy ochr y gyfnewidfa i adnabod cyfleoedd datblygu ar lefel bersonol ac fel busnes, ac i hwyluso’r broses o drosi gwybodaeth yn arferion arloesol neu dda y mae modd eu rhoi ar waith gartref a’u rhannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru.   Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus rannu canfyddiadau yn deillio o’u profiad trwy sianeli cyfathrebu arferol a rhaglen ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth 2019 yn broses dau gam am y tro cyntaf eleni. Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Cam 1 ar agor nawr a bydd yn cau am hanner nos ar 30 Tachwedd 2018. Bydd y broses newydd yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais amlinellol cychwynnol a fydd yn amlinellu’r pwnc a ddewiswyd ganddynt, y rheswm dros ddewis y pwnc a’u cynlluniau ynglŷn â rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu o ganlyniad i’r gyfnewidfa gyda’r diwydiant ehangach.   Os byddant yn cael eu cymeradwyo, byddant yn symud ymlaen at Gam 2, a fydd ar agor rhwng 1 Rhagfyr 2018 a 31 Ionawr 2019, sy’n gofyn am gais mwy manwl, a bydd cefnogaeth ar gael ar yr adeg honno, wedi’i ariannu’n llawn. 

Mae adroddiadau ar ymweliadau ymgeiswyr blaenorol ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, ble gallwch hefyd gael gwybodaeth am ymgeiswyr llwyddiannus eleni a’r ymweliadau y maen nhw’n eu cynllunio. 

Am fanylion pellach ynglŷn â manteision rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, Telerau ac Amodau, meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflenni cais, cliciwch yma. Am fanylion pellach, cysylltwch â Gwenno Griffiths, Menter a Busnes ar 01970 631414, neu anfonwch e-bost at gwenno.griffiths@menterabusnes.co.uk 

 

Astudiaethau achos Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio

 

Bu Lucy Allison, ffermwr llaeth o ogledd Sir Benfro, yn ymweld â De Iwerddon yn 2017

Mae Lucy Allison yn gynghorydd llaeth gyda chwmni ymgynghori amaethyddol lleol, ac mae hi’n rhedeg fferm laeth 400 erw yng ngogledd Sir Benfro gyda theulu ei gŵr. Mae ganddynt 250 o wartheg godro Holstein Friesian sy’n lloia yn yr hydref yn bennaf. Y nod yw godro’r fuches deirgwaith y dydd drwy gydol yr hydref a’r gaeaf, a godro ddwywaith y dydd a throi allan i’r borfa yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.

Ar hyn o bryd, mae’r fferm yn cyflenwi oddeutu 2.5 miliwn litr o laeth y flwyddyn ar gytundeb caws. Heblaw am Seland Newydd, sydd â hinsawdd cwbl wahanol i’r DU, roedd Lucy yn ymwybodol bod Iwerddon wedi bod yn arwain y byd o ran strategaethau pori ers dros ddegawd.

Pwrpas ei thaith gyfnewid oedd ymchwilio i sut mae gwahanol fridiau a glaswellt yn effeithio ar gyfansoddion llaeth o fewn system bori cylchdro, ac i gynyddu sawl kg o solidau a gynhyrchir fesul ha.

Mae Lucy yn gyfrifol am reoli’r borfa ar y fferm. Mae ei rôl yn cynnwys mewnbynnu’r data gofynnol i gyfrifo a chynllunio dyraniad porfa drwy gydol yr haf.

“Rhoddodd fy ymweliad Cyfnewidfa Rheolaeth gyfle i mi ymweld â Chynhadledd “Positive Farmers Conference” yn Ne Iwerddon ym mis Ionawr 2017, ble cefais fy ysbrydoli’n llwyr gan yr hyn a ddysgais drwy gyflwyniadau gan rai o arbenigwyr llaeth a glaswelltir mwyaf blaenllaw’r byd.”

Bu hefyd yn ymweld ag un o ffermydd ymchwil mwyaf blaenllaw Iwerddon, ble cafodd negeseuon eu hailadrodd unwaith eto yn nodi y byddai cyflwyno gwyndonnydd o ansawdd uwch drwy ail hadu yn helpu i wneud y gorau o gymeriant porthiant ac yn dylanwadu ar y solidau a gynhyrchir. O ganlyniad i’w thaith gyfnewid, mae’r busnes yn ail-hadu rhannau o’r borfa yn raddol, ac maen nhw bellach yn profi llwyddiant drwy fesur glaswellt.

“Fe wnaethom ni ddechrau defnyddio mesurydd plât y llynedd sy’n ein galluogi i gyllidebu’r glaswellt ymlaen llaw yn ôl nifer y gwartheg a thwf glaswellt dyddiol.

“Rydym ni’n dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol a dylem allu gwneud y defnydd gorau o laswellt er mwyn cynhyrchu mwy o laeth o borthiant.” 

“Mae fy nhaith gyfnewid wedi fy nysgu i fod â meddwl mwy agored ac i ystyried dulliau eraill o wella ein systemau ffermio ein hunain.

“Fe wnes i wrando ar yr holl gyngor proffesiynol, a does dim amheuaeth, o ganlyniad i’r hyn a ddysgais, ein bod eisoes yn gweld cynnydd graddol yn ein defnydd o’r borfa, sy’n arwain at ddigonedd o borthiant yn cael ei gynaeafu a’i silweirio, gan arbed arian ar fwyd a brynir i mewn.”

Bu Lucy hefyd yn mynychu gweithdy Meistr ar Borfa Cymru Cyswllt Ffermio ym mis Ebrill 2018, sydd wedi rhoi mwy o brofiad ymarferol iddi o gyllidebu’r borfa. 

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Lucy yn llawn.

 

Bu John Ceiriog Jones, ffermwr defaid o Sir Ddinbych, yn ymweld â De Iwerddon yn 2016.

Mae John Ceiriog Jones wedi bod yn ffermwr defaid gydol ei oes, ond mae’n dweud fod ei ymweliad Cyfnewidfa Rheolaeth â De Iwerddon yn 2016 wedi ei wneud yn fwy penderfynol i edrych ar ddiffyg cobalt mewn defaid, sy’n gallu cael effaith sylweddol ar gyfraddau twf, cyflwr corff a pherfformiad cyffredinol y ddiadell.

Mae John, sydd hefyd yn aseswr gwarant fferm rhan amser, wedi’i argyhoeddi fod yr hyn a ddysgodd yn mynd i gael effaith sylweddol ar nifer o ffermydd defaid yng Nghymru, sydd angen gwella eu prosesau cyn Brexit.

Mae John yn ffermio daliad ucheldir 250 erw ger Corwen, ble mae’n cadw oddeutu 550 o famogiaid miwl Cymreig yn bennaf wedi’u croesi â defaid Pefrith Beulah, ynghyd â rhai defaid Texel a Suffolk. Mae ŵyn benyw yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid. Mae’n tyfu 10 erw o swêj yn flynyddol ac yn ail hadu hyd at 20 erw bob blwyddyn i sicrhau cynhyrchiant da oddi ar y borfa.

Mae caeau’n cael eu profi bob tair blynedd ac mae calch yn cael ei ychwanegu fel bo’r angen er mwyn gal pH o 6 a throsodd.

“Mae’r fferm wedi gwella ac mae’r defaid yn cael diet digonol yn seiliedig ar y borfa, ond roeddem ni’n gweld nad oedd y stoc, yn enwedig yr ŵyn, yn ffynnu fel yr oeddem wedi’i obeithio gan ein bod wedi darganfod diffyg elfennau hybrin, a chobalt yn benodol, yn cael eu trosglwyddo o’r pridd i’r gwyndonnydd ifanc.

“Saith mlynedd yn ôl, fe wnaethom ni arbrawf er mwyn pesgi ŵyn ar swêj, ond siomedig oedd y canlyniadau gyda chynnydd pwysau byw yn isel.

Gofynnais am gyngor milfeddygol a chefais fy nghynghori i roi bolws cobalt, copr, seleniwm ac ïodin i’r ŵyn.”

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae John wedi bod yn defnyddio Bolysau Mayo Healthcare i gynorthwyo i dyfu a phesgi’r ŵyn. Cafwyd ymateb ar unwaith, gyda’r ŵyn yn ffynnu ac yn magu 2kg ar gyfartaledd heb ddwysfwyd ychwanegol.

“Rydym ni’n defnyddio bolws chwe mis ar gyfer mamogiaid cyn hyrdda, gan roi canlyniadau sganio da a chyfnod ŵyna rhwydd gydag ŵyn bywiog ar enedigaeth,” meddai John.

Diolch i Teagasc, Awdurdod Amaeth a Datblygu Bwyd Iwerddon, cyflwynwyd John i rai o brif arbenigwyr iechyd anifeiliaid Iwerddon, a chafodd y cyfle i ymweld â nifer o fusnesau fferm blaenllaw.

Dysgodd nad oedd samplu pridd, sy’n dueddol o ganolbwyntio ar P a K a pH yn hytrach nag elfennau hybrin a fitaminau, a phrofi gwaed y defaid yn nodi diffyg cobalt o reidrwydd.

Clywodd John ei bod wedi cymryd blynyddoedd lawer i nifer o filfeddygon gytuno gyda’r meddylfryd hwn, ond o’r diwedd, mae’r mwyafrif yn cytuno bod symiau bychain iawn o seleniwm a chobalt mewn triniaethau llyngyr yn annigonol i wneud gwahaniaeth mesuradwy i gynnydd pwysau.

Diolch i’r bolysau sy’n cynnig cyflenwad cobalt rheolaidd, mae John yn cael canlyniadau positif erbyn hyn. Mae’n rhoi bolws micro i’r holl ŵyn tua 5-6 wythnos oed, sy’n gallu cael ei roi yn rhwydd gan ddefnyddio gwn dosio.

Mae pob capsiwl yn costio 24c yn unig ac yn para am 6-8 wythnos.

Ychwanegodd fod bolysau mwy, drytach ar gyfer defaid hŷn yn dal i fod yn hawdd i’r anifeiliaid eu llyncu, a dywed y byddai unrhyw fugail profiadol yn ei chael hi’n hawdd i’w rhoi i’r defaid.

“Mae Iwerddon yn cael ei gydnabod yn arweinydd o fewn y diwydiant cynhyrchu defaid, ac yn dilyn fy ymweliad, a ariannwyd yn llawn fel rhan o’r Gyfnewidfa Rheolaeth, dylem barhau i gael canlyniadau gwell, drwy fynd i’r afael â diffyg cobalt trwy gyflwyno bolysau a gweithredu gwell strategaeth fwydo a rheoli glaswellt.”

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth John yn llawn.

 

Bu Alwyn Phillips, ffermwr bîff a defaid o Wynedd, yn ymweld â Sweden a Denmarc yn 2017

Mae Alwyn Phillips yn ffermwr bîff a defaid o Gaernarfon. Pwrpas ymweliad Cyfnewidfa Rheolaeth Alwyn â Sweden a Denmarc dros chwe diwrnod oedd i ddysgu am wahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir ar gyfer ffrwythloni artiffisial (AI) serfigol yn Nenmarc a Sweden o’i gymharu â’r DU. Roedd Alwyn hefyd eisiau canfod beth fyddai ei angen er mwyn gwella’r rhaglen AI serfigol gan ddefnyddio semen wedi’i rewi, yn enwedig mewn defaid, yng Nghymru.

Roedd Alwyn yn ymwybodol bod Sweden, Denmarc a’r Iseldiroedd ar flaen y gad gyda thechnoleg sy’n defnyddio semen wedi’i rewi ar gyfer AI serfigol mewn defaid. Mae’n arfer sy’n fwy datblygedig a chyffredin yn y gwledydd yma nag yn y DU. Roedd yn awyddus i ddarganfod a fyddai’n system a fyddai’n gallu ei gyflwyno ar gyfer ei ddiadell ei hun o 200 o famogiaid Poll Dorset a 200 o famogiaid Texel, ac yn fwy cyffredinol gan ffermwyr defaid yng Nghymru.

Dywedodd Alwyn fod y ffermwyr a’r arbenigwyr y bu’n ymweld â nhw yn agored iawn o ran rhannu eu harbenigedd, eu llwyddiant, a’r hyn a ddysgwyd o fethiannau, sydd yr un mor bwysig. Dywedodd eu bod hefyd yn gwerthfawrogi ei agwedd onest o ran rhannu ei brofiadau ei hun gyda nhw.

Dysgodd y bydd AI serfigol gan ddefnyddio semen wedi’i rewi’n cael ei fabwysiadu yn y lle cyntaf gan fridwyr pedigri. Hefyd gan gynhyrchwyr ŵyn masnachol os bydd modd i ni gyflawni cyfraddau cenhedlu o 70% gan ddefnyddio semen rhatach megis ‘tarw’r dydd’ gyda gwartheg.

Mae AI wedi gwella perfformiad y diwydiant llaeth trwy wella geneteg, ond mae’r diwydiant defaid wedi bod yn fwy araf yn croesawu AI. Y prif reswm yw bod modd i’r un sy’n ffrwythloni’r gwartheg fynd drwy wddf y groth a rhoi’r semen wedi’i rewi’n uniongyrchol yn yr wterws, ond gyda mamogiaid, mae hi bron yn amhosibl mynd drwy geg y groth gan ei fod yn droellog.

Fodd bynnag, wedi iddo weld â’i lygaid ei hun ba mor llwyddiannus all y dechneg fod, mae Alwyn yn credu y gallai cyrsiau hyfforddiant ar gyfer ffermwyr defaid fod yn un o’r camau cyntaf sydd eu hangen yng Nghymru.

“Mae Cyswllt Ffermio eisoes yn darparu hyfforddiant cymorthdaledig ar gyfer AI mewn gwartheg, felly rydw i’n gobeithio y byddant yn ystyried ehangu hyn i gynnwys ffermwyr defaid hefyd.    

“Ar ôl derbyn hyfforddiant, gall y bridiwr gael fflasg ar y fferm i gadw semen gan wahanol hyrddod sydd wedi’u profi i’w ddefnyddio ar famogiaid penodol,” meddai Alwyn, sy’n glir ynglŷn â manteision AI.

“Mae AI yn cynnig mynediad at eneteg uwchraddol, yn lleihau’r risg o ddod â chlefydau i mewn a dewis ehangach o hyrddod sydd wedi’u profi.”

“Mae’n ein galluogi i brynu semen i wella EBV gwannach y famog unigol, gan osgoi’r risg o fewn fridio”.

Dywedodd Alwyn y byddai’n rhatach prynu semen o hyrddod wedi’u profi na gorfod talu pris uchel am hwrdd stoc na fyddai’n gwella’r ddiadell o reidrwydd, ac mewn rhai achosion, mae’n bosibl mai cyfnod gweithio cymharol fyr fyddai ganddo mewn system fagu naturiol.

Er mwyn gwneud ffermio defaid yn broffidiol, mae ffermwyr angen priddoedd a glaswellt iachus a geneteg uwchraddol, ond mae Alwyn yn credu bod ffrwythloni serfigol gan ddefnyddio semen wedi’i rewi yn elfen bwysig wrth edrych at y dyfodol.  

“Mae angen i ni leihau ein costau cynhyrchu a’n ôl troed carbon fesul kg o gig oen a gynhyrchir. Hefyd, mae ŵyn wedi’u bwydo ar laswellt yn cynnwys mwy o Omega 3.  

“Yn dilyn fy ymweliad, byddwn ni’n defnyddio ffrwythloni serfigol ar ein defaid yr hydref hwn gan ddefnyddio semen wedi’i rewi.”

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Alwyn yn llawn.

 

Bu Gethin Owen, ffermwr defaid a gwartheg bîff o Abergele, yn ymweld â Ffrainc yn 2016/17

Mae Gethin Owen yn cadw 700 o famogiaid a 35 o wartheg sugno mewn partneriaeth â’i rieni yn Nant-yr-Efail ger Abergele. Mae gan y teulu 300 erw o dir sy’n berchen iddynt ac wedi’i rentu, gyda’r mwyafrif yn laswelltir, gydag oddeutu 30 erw o haidd gwanwyn neu geirch yn cael ei dyfu fel cnwd cyflawn ac i’w gombeinio.

Mae’r fferm yn gweithredu system eithaf nodweddiadol o ŵyna’r ddiadell croesfrid dan do ym mis Mawrth a’r ddiadell o famogiaid Cymreig yn yr awyr agored ym mis Ebrill, gan werthu’r ŵyn ar y bach i St. Merryn.

Mae’r gwartheg sugno yn lloea ym mis Ebrill a mis Mai gyda hanner y lloi yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr yn 18 mis, a’r hanner arall yn cael eu pesgi’n 24 mis oed. Mae Gethin yn ceisio sicrhau’r cynhyrchiant gorau o borthiant a dyfir gartref, gan brynu cyn lleied o fewnbynnau â phosibl i mewn.

Wedi iddo dreulio cyfnod sylweddol yn Ffrainc dros nifer o flynyddoedd, ble cafodd ei ysbrydoli gan yr hyn a welodd o’r diwydiant a lefel cydweithio ymysg ffermwyr, defnyddiodd Gethin ei Gyfnewidfa Rheolaeth i ganfod arbedion effeithlonrwydd o fewn y system cynhyrchu defaid a bîff yn Ffrainc gyda’r gobaith y byddai’n gallu rhoi rhai o’r rhain ar waith gartref. Roedd hefyd yn awyddus i astudio rhai o’r dulliau a ddefnyddir i leihau diraddiad pridd a gwella cynhyrchiant dan amodau ymylol.

“Roedd gen i ddau brif fater yr oeddwn i eisiau mynd i’r afael â nhw gartref ac i ddysgu amdanynt yn ystod fy ymweliadau a’r cyntaf oedd sut i dyfu cnydau grawn ar y fferm.  Mae tyfu cnydau grawn ar y cyd â da byw yn helpu’r fferm i fod yn fwy hunangynhaliol ac yn gwella bioamrywiaeth yn sylweddol.

“Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi bod yn tyfu cnydau gwanwyn gan ddefnyddio’r dull aredig confensiynol, ond gyda’n priddoedd creigiog a thenau, er eu bod yn tyfu mewn cylchdro gyda gwndwn glaswellt/meillion, roeddwn i’n dal i fod yn bryderus am ei ddiraddiad hirdymor, yn ogystal â’r ffaith ei fod yn gostus.”

Roedd un o’r ffermydd cyfnewid y bu Gethin yn ymweld â hi wedi’i lleoli ar briddoedd ymylol, ac wedi bod yn defnyddio system o drin y tir cyn lleied â phosibl (min-till) ers 15 mlynedd a oedd yn cynnwys cnwd parhaol o godlysiau, sef system a ddatblygwyd gan Hubert Charpentier. Fy nod oedd canfod elfennau o’r system y byddai modd eu defnyddio ar fy fferm fy hun.

Yn ail, roedd yn pryderu am gynaliadwyedd cynhyrchu bîff a defaid yn y tymor hir ar ein fferm, er ei fod bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella cynhyrchiant drwy reoli’r borfa er enghraifft.

“Gan fod cymaint o’n fferm yn cynnwys tir ymylol creigiog a serth a ddefnyddir fel porfa barhaol, roeddwn i’n ymwybodol y byddai angen i’r fferm gynhyrchu mwy o lai o fewnbwn (yn enwedig ar ffurf bwyd a brynir i mewn, gwrtaith, llafur a pheiriannau), gan wella priddoedd ar yr un pryd, er mwyn paratoi’r fferm ar gyfer y dyfodol.”

Mae Gethin eisoes yn gwneud newidiadau sylweddol o ganlyniad i’w ymweliad cyfnewid, ac mae bellach yn gweithredu system o drin y tir cyn lleied â phosibl (min-till) i dyfu grawn ochr yn ochr â meillion, ac mae modd ei ddefnyddio fel porfa yn yr hydref yn ogystal.

Mae hefyd yn buddsoddi mewn isadeiledd ac offer a fydd yn ei alluogi i bori’r fferm yn ddwys, mabwysiadu system pori grŵp gwirioneddol ar rannau mwy creigiog o’r fferm drwy bori gorchudd uwch a chaniatáu mwy o sathru i adeiladu pridd, ffrwythlondeb a bod yn gallu gwrthsefyll amodau sych yr haf ac amodau gwlyb y gaeaf yn well.

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Gethin yn llawn.

 

Bu Sonia Winder, coedwigwr siartredig o Sir Gâr, yn ymweld â’r Almaen yn 2017

Mae Sonia Winder yn goedwigwr siartredig sydd wedi gweithio i Tilhill Forestry yng Nghymru ers 20 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae’n rheoli 800 hectar o goedwig gymysg, yn ogystal â gwneud gwaith creu coetiroedd a choedwigaeth ar gontract.

Dewisodd Sonia ymweld â’r Almaen gan fod y rhywogaethau a’r arferion coetir yn debyg i’r hyn sydd yng Nghymru, ond maen nhw wedi bod yn defnyddio coedwriaeth gorchudd parhaus ers mwy o amser. Mae gan Gymru 306,000 ha o goetir, ac mae 41% ohono’n eiddo i ac yn cael ei reoli gan y Wladwriaeth, ac mae’r gweddill dan reolaeth breifat. Mae’r goedwig yn y rhanbarth Rhine-Sieg-Erft y bu Sonia yn ymweld â hi yn gorchuddio 60,000 hectar, ond mae’r dadansoddiad yn debyg, sef 43% yn goedwig sy’n berchen i’r wladwriaeth a 57% yn breifat. Mae’r hinsawdd yn debyg hefyd, gyda thymheredd cyfartalog yn yr ardal honno’n 7-10 gradd Celsius a glawiad cyfartalog o 700-1100 y flwyddyn.

Nod cyfnewidfa Sonia oedd gweld sut mae ein cymheiriaid yn yr Almaen yn gofalu am eu coetiroedd ac yn wynebu’r un heriau o ran cyfyngiadau amgylcheddol a bioamrywiaeth, yn ogystal ag wynebu’r un heriau newydd a ddaw gyda newid hinsawdd a phlâu a chlefydau. Ail amcan Sonia oedd edrych ar ddefnydd yr Almaenwyr o gynnyrch nad yw’n goed, megis cig carw, baedd gwyllt, hadau, dail a choed tân, sy’n darparu ffrydiau incwm ychwanegol ar gyfer perchnogion coedwigoedd.

Mae’r Almaen yn falch o’i rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd, a hynny’n haeddiannol, ac mae wedi bod yn rheoli coetiroedd am gannoedd o flynyddoedd tra mai dim ond am ganrif y mae Cymru wedi bod yn gwneud hynny ar raddfa fawr.

“Roeddwn i am weld sut y mae bioamrywiaeth yn cael ei gadw a sut y mae adfywio naturiol ar byrwydd a ffynidwydd yn cael eu hannog, ac i ddysgu sut y maen nhw’n ymdrin â’r bygythiadau oddi wrth blâu ac afiechydon,” meddai Sonia.

Dywed mai un o’r ffeithiau pwysicaf y mae coedwigwyr yr Almaen yn ei gydnabod yw nad er eich budd chi fel perchennog tir mae’r gwaith o ail-stocio heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Gyda choed llydanddail, mae hyd y cylchdro’n 70 mlynedd o leiaf. Y rheswm pam fod gan yr Almaen goetiroedd llydanddail o ansawdd mor uchel heddiw yw am eu bod wedi cael eu rheoli’n ddwys ar ôl y rhyfel.”

Pwysleisiodd y coedwigwyr yn yr Almaen y byddai’r dewisiadau a wneir heddiw ynglŷn â rhywogaethau yn effeithio ar hyfywedd y goedwig dros y ganrif nesaf.

“Dylech blannu’r hyn sy’n addas ar gyfer y safle, nid yr hyn sy’n denu’r grant mwyaf ar hyn o bryd,” oedd y neges a glywais nifer o weithiau.”

Fe wnaeth Sonia hefyd ddysgu bod coed caled o ansawdd uchel angen dechrau o’r flwyddyn gyntaf, gyda bylchau o 2 x 1m nid 2 x 2m neu 3 x 3m.

“Bydd hyn yn dyblu’r costau plannu ond yn galluogi teneuo a chnwd terfynol o ansawdd uwch yn y pen draw.”

Roedd Sonia yn teimlo bod coedwigwyr yn yr Almaen yn ymwybodol iawn o’r ffordd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar wledydd ledled Ewrop, a dywed fod angen addasu’r dewis o rywogaethau a choedamaeth i fod yn fwy goddefgar o amgylchiadau eithafol - gwynt, sychder, llifogydd a thymheredd cynhesach yn y gaeaf, na fydd yn lladd plâu a phathogenau wrth gwrs.

“Roedd llawer i’w ddysgu gan fy nghymheiriaid o’r Almaen, ond roedd hi’n braf clywed fod ganddyn nhw ddiddordeb yn ein dulliau ni hefyd.

“Mae dull y DU i leihau cemegau yn hytrach na gwahardd y defnydd o gemegau yn llwyr yn y goedwig yn amlwg wedi creu argraff arnynt - dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr Almaen - gan fod targedu cemegau yn ofalus yn helpu coed i dyfu.”

Roedd ymweliad Sonia yn cynnwys cyfarfodydd gyda nifer o goedwigwyr llwyddiannus yn ardal Cologne a Bonn, sydd, fel coedwigwyr ledled Ewrop, yn ceisio canfod ffyrdd o ddelio gyda phlâu a chlefydau coetir sydd ar gynnydd o ganlyniad i symud cynnyrch a nwyddau o amgylch y byd.

“Mae fy ymweliad wedi cadarnhau bod lle i goedwigaeth barhaol yng Nghymru.

“Byddwn yn gwella gydag arfer, ac nid ydym wedi bod yn gwneud hyn mor hir â’r Almaenwyr, ond mae gennym ni lawer i’w ddysgu o’u systemau. Felly os byddwn ni’n cadw pethau’n syml, a chadw gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol coetiroedd Cymru, gallwn weithio gyda’n gilydd er budd yr ecosystem coetir cyfan.”

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Sonia yn llawn.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites