25 November 2019

 

Astudiaethau Achos:

 

Morris Gwyn Parry, Orsedd Fawr

Mae Gwyn yn rhedeg fferm biff a defaid organig 235 hectar ar Benrhyn Llŷn. Mae'r fferm wedi'i rhannu'n nifer o flociau ac o ran y math o dir mae rhyw hanner yn dir isel a hanner yn dir uchel. 

Ar hyn o bryd mae Gwyn yn rhedeg 360 o famogiaid, sef defaid Cymreig a chroesiadau Cymreig sy’n wyna y tu allan yn bennaf, gan sganio yn ôl 170% gan besgi’r ŵyn i gyd ar borfa cyn diwedd mis Medi. Mae Gwyn hefyd yn rhedeg 61 o fuchod sugno Stabiliser, gan werthu stoc ifanc oddi ar y fferm yn 18 mis oed. Mae polisi’r fferm wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn canolbwyntio ar systemau syml sy’n creu allbwn da heb fawr o gostau mewnbwn, i sicrhau mwy o elw. 

Gwyn gynigiodd y croeso i gyfarfod olaf grŵp lefel uwch 'Rhagori ar Bori' yn y gogledd-ddwyrain lle dangosodd rai o'r newidiadau newydd y mae wedi'u gwneud ers ymuno â'r grŵp.  Gwelodd aelodau'r grŵp sut mae Gwyn wrthi ar hyn o bryd yn pori ei famogiaid sy’n gofyn hwrdd a'i wartheg sy'n tyfu ar gylchdro, gan ddefnyddio ffensys trydan i rannu ei gaeau presennol.  Roedd symud y grwpiau ddwy neu dair gwaith yr wythnos yn caniatáu iddo bori'n dda y tu allan heb fawr o ddifrod yn ystod tywydd gwlyb a pharatoi’r porfeydd i dyfu glaswellt o safon yn y gwanwyn. 

Mae ffensys trydan parhaol wedi’u defnyddio hefyd yn lle ffensys terfyn oedd yn mynd â’u pen iddynt ac i adfer llinellau perthi hanesyddol, gan greu padogau llai faint, sef rhyw 1-2 hectar.  Mae pibellau dŵr wedi'u hymestyn hefyd i gyflenwi'r padogau newydd drwy gyfrwng cafnau parhaol a symudol.  Mae hyn wedi caniatáu i’r stoc gael ei symud yn fwy rheolaidd, gan gynyddu'r cynhyrchiant sy’n bosibl ar y porfeydd heb gost ychwanegol o ran llafur. 

Fel rhan o'r rhaglen, roedd yn ofynnol i aelodau'r grŵp gasglu gwybodaeth allweddol cyn pob cyfarfod, gan gynnwys mesur y gorchudd glaswellt ar gyfartaledd ar eu ffermydd, cyfraddau twf y glaswellt a'r galw yn ogystal â phwysau'r stoc. Dywedodd Gwyn: "Mi wnaeth y grŵp fy annog i ganolbwyntio ar ba ddata y dylwn i fod yn ei gasglu yn ogystal ag amser i adolygu, cymharu a gwneud penderfyniadau rheoli efo'r wybodaeth yma." 

Un o'r manteision allweddol a gafodd Gwyn drwy fod yn rhan o'r grŵp oedd hyfforddiant i ddefnyddio meddalwedd FARMAX a deall y wybodaeth y gall ei darparu i'w system ffermio. Dywedodd Gwyn: "Un o'r pethau mwyaf diddorol welais i efo FARMAX yw ei allu fo i ddefnyddio ffigurau a mesuriadau i’m helpu i wneud penderfyniadau ar y fferm a'r ffigurau perfformiad allweddol mae'n eu creu sydd wedi bod yn fodd imi gymharu fy musnes i â busnesau pobl eraill." 

O safbwynt Gwyn, cafodd ei annog gan y grŵp i ddefnyddio mwy o bori ar gylchdro ar y fferm yn ogystal â deall effaith hirdymor ei benderfyniadau presennol.  "Mae wedi bod yn werthfawr iawn cael barn a chyngor gan ffermwyr sy’n meddwl yr un ffordd ar sut i redeg y busnes ac yn gyfle i weld sut mae gwahanol ffermydd yn gweithredu. Mae’r grŵp wedi gwneud imi adolygu fy musnes ac wedi fy herio i feddwl sut fedra i barhau i wella; byddwn i’n argymell y dylai pobl eraill fanteisio ar bob cyfle i fod yn rhan o'r grŵp," meddai Gwyn. 


Ianto Pari, Fferm Carreg Plas

Mae Ianto Pari yn ffermio yn Carreg Plas ar Benrhyn Llŷn.  Uned gymysg biff a defaid yw’r fferm; mae 300 o famogiaid Suffolk yn ŵyna ddechrau Chwefror ar ôl cael eu troi at hwrdd Texel.  Mae’r ddiadell yn sganio 160%, gydag ŵyn gwryw yn cael eu pesgi yn 40kg a mwy a benywod yn 38kg a mwy.  Mae'r fenter bîff yn cynnwys 140 o fuchod Stabiliser, ac ar hyn o bryd mae’n gwerthu teirw bîff yn 14 mis oed ac yn gwerthu heffrod cyflo. 

Mae gan Fferm Carreg Plas briddoedd lôm cleiog a chaeau mawr sy'n 25 erw ar gyfartaledd.  Mae profion pridd, gwaith i gywiro’r PH ac i wella’r borfa wedi’i wneud yn y 10 mlynedd diwethaf.  Yn ddiweddar, dychwelodd Ianto i weithio'n amser llawn ar y fferm a bu’n arbrofi â phorfeydd ar gylchdro yn 2018, gan geisio gwneud y defnydd gorau o botensial y fferm i dyfu porfa.  Gwnaeth gais i'r rhaglen Rhagori ar Bori i gynyddu ei wybodaeth am reoli porfeydd ac i chwilio am gyfleoedd i wella. 

Mae Ianto'n dweud ei fod wedi mwynhau'n arbennig "siarad a thrafod gyda ffermwyr eraill, deall sut i leihau costau a chynyddu'r defnydd o laswellt".  Aeth ati’n gyflym i ddefnyddio'r cymorth a roddwyd i ddefnyddio'r feddalwedd FARMAX a bu’n gweithio gyda Rhys Williams o Precision Grazing i greu model i’r fferm.  Dangosodd hwn mai dim ond 50% o gyflenwad posibl y fferm oedd yn cael ei fwyta gan y da byw presennol ar y borfa.  Golygai hyn na fyddai angen dim gwrtaith nitrogen na dwysfwyd yn 2019, pe bai rheolaeth y porfeydd yn gwella. 

Drwy’r wybodaeth a’r cymorth yma gan y grŵp, cafodd y busnes ei annog i fuddsoddi i isrannu ei gae mwyaf drwy osod system TechnoGrazing 26 hectar (64 erw).  Mae'r systemau hyn yn defnyddio ffensys trydan parhaol i rannu'r cae yn lonydd.  Caiff y lonydd eu hisrannu'n badogau drwy ddefnyddio ffensys trydan dros dro sy'n symud gyda'r grwpiau o anifeiliaid.  Cafodd system ddŵr newydd ei gosod gyda phibellau ar yr wyneb, ac mae cafnau symudol yn cysylltu â hydrantau sy’n agor yn gyflym gan ganiatáu cyflenwad dŵr i unrhyw ran o'r system.

Mae wedi defnyddio mesurydd plât i fesur y borfa yn wythnosol, gan fwydo’r wybodaeth hon i Agrinet a FARMAX.  Dywedodd Ianto: "Fedra i ddim dychmygu ffermio heb ddefnyddio'r teclynnau rheoli yma erbyn hyn. Maen nhw’n help at fonitro a chynllunio, ac yn rhoi hyder i mi wneud penderfyniadau; dwi'n eu gweld nhw’n hanfodol i'r busnes at y dyfodol."

Gan ddefnyddio'r data ynghylch twf y borfa yr oedd Ianto wedi bod yn ei gasglu, cafodd FARMAX ei ddefnyddio i fodelu gwahanol gyfraddau stocio a gwahanol senarios ar gyfer y fenter gwartheg er mwyn cynyddu twf posibl y borfa.  Dangosodd y model fod gan y fferm ddigon o borthiant i besgi’r lloi gwryw ar laswellt erbyn eu 18 mis; mae’r gyllideb wedi’i threfnu fel bod hyn yn creu elw net positif hyd yn oed y ôl prisiau presennol cig eidion.  Mae 47ha (118 erw) arall o TechnoGrazing wedi'i osod yr hydref hwn yn barod ar gyfer gwanwyn 2020.   

Mae'r grŵp wedi rhoi'r hyder a'r dulliau i Ianto ganolbwyntio ar reoli ei borfeydd i wella perfformiad yr anifeiliaid ac i leihau costau’r mewnbynnau.  Dywedodd Ianto; "Buaswn i’n argymell y grŵp lefel uwch yn llawn i unrhyw ffermwr sydd am gynyddu ei broffidioldeb o'i borfeydd."


Huw Jones, Fferm Wholehouse 

Mae gan Huw Jones o Dalgarth ym Mhowys fferm defaid a bîff 223 hectar gyda chymysgedd o dir sy’n perthyn i’r fferm a thir ar rent.  Mae'n rhedeg 1250 o famogiaid – sef NZ Romney ac Aberfield – ar hyn o bryd ynghyd â 34 o loi bîff.  Mae’r mamogiaid yn treulio’r gaeaf ar fetys porthiant, yn wyna y tu allan ym mis Ebrill ac yn pori ar gylchdro drwy gydol y tymor tyfu porfa gyda’r ŵyn, sydd wedyn yn cael eu pesgi ar borfa a gwndwn llysieuol yn unig.  Mae Huw yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ddatblygu system ddefaid sy’n isel ei mewnbwn, gan ddileu’r angen i brynu porthiant.

Lleihau maint y grwpiau oedd un o brif fanteision y rhaglen, gan ganiatáu mwy o ryngweithio rhwng y ffermwyr i drafod amryw o bynciau. Dywedodd Huw: "Defnyddio profiad a gwybodaeth pobl eraill yn y grŵp, a harneisio cyngor arbenigol i’w drosglwyddo i'm busnes i, oedd un o fy hoff rannau o'r grŵp lefel uwch."

Drwy drefnu pedwar cyfarfod y flwyddyn gallai’r aelodau nodi a chanolbwyntio ar y ffactorau allweddol i’w busnesau wrth i'r tymhorau newid.  Roedd y dylanwadau allweddol a welodd Huw yn y prosiect yn cynnwys pwysigrwydd Sgorio Cyflwr Corff mamogiaid adeg eu sganio a chwe wythnos cyn ŵyna.  "Fe ddysges i fod cynnal y BCS yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad o golostrwm o safon, a hwnnw yn ei dro yn cynyddu nifer yr ŵyn sy'n goroesi a’u potensial i dyfu yn y dyfodol," meddai Huw.

Llwyddodd Huw hefyd i wella’i wybodaeth am reolaeth porfeydd. Mae wedi gweld y bydd lleihau nifer cyfartalog y dyddiau y mae’r anifeiliaid yn eu treulio mewn un cae neu badog yn cynyddu'r borfa sy’n cael ei chynhyrchu a’i defnyddio.  Dyma un dull y mae'n ei ddefnyddio cyn ac yn ystod y cyfnod hyrdda er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o borfa ar gael ar y fferm, gan ohirio'r newid i'r cnydau porthiant.

Roedd casglu, deall a rhannu data yn rhan allweddol o'r grŵp uwch.  Gwelodd Huw fod y grŵp yn darparu'r wybodaeth, y dulliau a'r cymorth i'w alluogi i gynllunio ymlaen a pharatoi cyllidebau bwyd i’w fentrau defaid a biff.  Mae hyn yn golygu bod ganddo gynllun at y gaeaf hwn a dyddiad pendant pan fydd yn rhoi'r gorau i bori er mwyn rhoi'r cyfnod gorffwys angenrheidiol i’r borfa i sicrhau bod ganddo ddigon o orchudd glaswellt ar y fferm yn y gwanwyn.

Gan fod elw'n allweddol i lawer o fusnesau, dywedodd Huw fod y grŵp wedi newid y ffordd yr oedd yn edrych ar ei fusnes, nid yn unig o ran cynhyrchu ond hefyd o safbwynt ariannol: "Mae'r holl gostau’n cael eu hystyried yn ofalus bellach.  Nawr byddwn ni’n rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiadau cyfalaf (ffensys a dŵr) er mwyn lleihau’n costau porthiant a gwrtaith.  Mae fy musnes i wedi cael ei ailwampio, ac mae'r grŵp wedi rhoi'r hyder imi wneud penderfyniadau."

Dywedodd Huw fod perthyn i’r lefel uwch yn y cynllun Rhagori ar Bori wedi bod yn "amhrisiadwy i'm busnes i" ac mae'n cynghori ei gyd-ffermwyr da byw i "fwynhau dysgu a pheidio ofni newid".


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter