7 Awst 2018
Cymerodd Corinne Matthews, ffermwr o Bowys, bron i chwe mis i wella’n llwyr yn dilyn damwain arswydus ar fferm y teulu ychydig dros bymtheg mis yn ôl. Cafodd Corinne, sy’n gweithio’n lleol fel nyrs rhan amser, ei hyrddio, ei sathru, a’i tharo gan ben buwch oedd wedi bwrw llo yn ddiweddar.
“Mae cymaint o bethau y dylwn i fod wedi’u gwneud yn wahanol y diwrnod hwnnw o edrych yn ôl,” meddai Corinne.
“Ni wnes i sylweddoli faint o risg sydd ynghlwm â gwartheg penrhydd, yn enwedig greddfau gor-amddiffynnol gwartheg sydd newydd fwrw llo.”
Mae Corinne yn awyddus i amlygu pwysigrwydd lleihau’r perygl o ddamweiniau fferm, ac mae hi bellach yn cynnig ei chefnogaeth i ymgyrch a lansiwyd y mis diwethaf gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), cydweithrediad o’r holl brif randdeiliaid amaethyddol yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio, mae’r ymgyrch yn cynnwys dau ddigwyddiad hyfforddi yn ddiweddarach y mis hwn (Maes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd - 28 Awst 2018 a Marchnad Da Byw Rhuthun - 29 Awst 2018); llyfryn ‘awgrymiadau’ diogelwch fferm rhad ac am ddim neu y gellir ei lawrlwytho a hyd at 22.5 awr o arweiniad cyfrinachol ar y fferm, wedi’i ariannu’n llawn gan fentoriaid ‘iechyd a diogelwch fferm’.
Digwyddodd damwain Corinne ar fferm trydedd genhedlaeth y teulu, sef Fferm Bryn yn Howey, fferm bîff a defaid 300 erw. Mae hi'n dweud y bydd y diwrnod yn aros yn ei chof am byth nid yn unig oherwydd na fydd rhai o’i chreithiau corfforol yn diflannu’n llwyr ond oherwydd bod ei chof am yr hyn a ddigwyddodd yr un mor fyw.
Roedd ei gŵr a’i mab wedi mynd i gêm bêl-droed leol felly penderfynodd gerdded dau gi’r teulu. Wrth iddi gerdded heibio’r sied wartheg, gwelodd un fuwch oedd yn amlwg yng nghamau cynnar genedigaeth. Ffoniodd ei gŵr a ddywedodd fod y gêm wedi’i chanslo a’u bod nhw ar eu ffordd gartref i helpu.
"Penderfynais gadw golwg o fynedfa’r sied ac roeddwn yn gallu gweld ei bod wedi geni’r llo’n eithaf hawdd, ond er gwaethaf ei hymdrechion nid oedd unrhyw arwydd o anadlu felly fe es yn nes i ymchwilio.”
Yn ymwybodol iawn y gallai’r anifeiliaid mwyaf digyffro ddychryn pan fyddant newydd roi genedigaeth, cadwodd Corinne lygad barcud ar fam y llo, oedd yn dal i orwedd i lawr. Gan nad oedd hi’n ymddangos yn bryderus nac wedi dychryn gan ei phresenoldeb, penderfynodd ddechrau clirio llwybr aer y llo. Ond wrth iddo ddechrau anadlu, cafodd ei tharo i’r llawr gan fuwch wahanol oedd wedi bwrw llo tuag wythnos yn gynharach, gan ei dychryn gan iddi ddod y tu ôl iddi’n dawel ond yn ddig.
“Fe wnaeth fy nharo i’r llawr a pharhaodd i fy nharo yn fy wyneb gyda’i phen. Roeddwn i mewn cymaint o
sioc ac ofn fel na allaf gofio llawer wedi hynny, felly mae’r meddygon yn meddwl efallai ei bod hi’n bosibl fy mod wedi taro fy mhen ar y wal concrid wrth i mi ddisgyn.”
Brwydrodd Corrine i godi ar ei thraed - daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod y fuwch wedi sathru ei choes hefyd - ond parhaodd yr anifail blin i’w tharo i lawr eto i gornel. Ar ôl beth oedd yn teimlo fel oes ond oedd yn ychydig funudau’n unig, tynnwyd sylw’r fuwch ac fe drodd i ffwrdd am ychydig o eiliadau, gan roi digon o amser iddi godi a hercian i ddiogelwch y tu ôl i’r bar.
“Disgynnais ar fanc gwelltog mewn tomen fwdlyd gyda gwaed yn diferu o fy nhrwyn. Rwy’n credu fy mod i’n dal mewn sioc oherwydd nid oeddwn i’n gallu gweithio allan beth oedd yn brifo, roedd fy ffôn symudol yn fy mhoced o hyd, felly llwyddais i ffonio Robert eto i ddweud bod buwch wedi fy nharo i lawr a gofyn pa mor gyflym y gallai fy nghyrraedd.”
Er gwaethaf bod mewn llawer o boen, llwyddodd Corinne fynd i’r tŷ lle sylweddolodd bod ei thrwyn yn dal i waedu, roedd un ochr i’w wyneb oedd wedi’i grafu’n ofnadwy yn chwyddo’n ddrwg ac roedd ei choes yn ofnadwy o boenus. Pan gyrhaeddodd y bechgyn yn fuan wedyn, fe aethon nhw â hi i’r uned mân lawdriniaethau yn ysbyty Llandrindod, lle cafodd ei chyfeirio ar unwaith, ar ôl archwiliadau, i Ysbyty Henffordd.
Ar ôl archwiliadau pellach a phelydr-x, fe wnaeth y tîm meddygol yn Henffordd roi diagnosis iddi yn ogystal â’r cleisio a’r cywasgu, yr anafiadau mwyaf difrifol oedd torri asgwrn yn nhwll y llygad ac asgwrn y boch yn ogystal â choes oedd wedi’i sathru’n ddrwg ac a oedd wedi chwyddo’n fawr ac yn datblygu pothell fawr.
Roedd Corinne i ffwrdd o’r gwaith am chwe wythnos, a llwyddodd i ddychwelyd yn raddol i’w gwaith. Er y dywedwyd wrthi fod ei llygad wedi syrthio ychydig, penderfynodd beidio cael llawdriniaeth i osod plât, gan nad oedd yn achosi unrhyw broblemau gweld iddi.
“Roedd hi’n daith hir iawn i wella, a wnaeth effeithio ar Robert a Geraint hefyd.
“Ar y dechrau, roeddwn i’n cael ôl-fflachiadau, ac fe wnaeth fy nghorff cyfan gleisio, gan ei gwneud hi’n boenus ac yn anghyfforddus iawn i symud neu i gysgu.”
Cofrestrodd Corinne gyda chlinig coes lleol, a bu i hyn gyflymu’r broses wella, ond bydd ôl bob amser o’r trawma i’w choes ac mae’n profi pinnau bach weithiau i ochr ei wyneb.
Mae hi’n dal i helpu gyda’r ffermio, er bod ei mab Geraint yn gwneud mwy bellach a’i merch Rebecca, sy’n fyfyrwraig, yn helpu pan fydd hi gartref.
“Mae gweld y genhedlaeth nesaf yn ymwneud â ffermio’n un o’r rhesymau pam fy mod mor awyddus i hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch ar y fferm, gan mai dyma’r unig ffordd i leihau’r perygl o ddamweiniau fferm. Mae cymaint y mae’n rhaid i ni i gyd ei wneud i wneud ein ffermydd yn lleoedd mwy diogel i weithio.”
Dywed cadeirydd yr WFSP, Brian Rees, y gellid osgoi nifer o ddamweiniau fferm neu leihau’r risgiau’n sylweddol drwy gadw at ganllawiau iechyd a diogelwch.
“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod yn union pa weithdrefnau diogelwch y dylent eu cael ar waith, ond mae pwysau gwaith a’r galw ar eu hamser yn golygu bod gormod ohonynt yn cymryd y llwybrau byr sy’n cynyddu’r risg o ddamweiniau.
"Mae ystadegau yn dangos bod llawer o ddamweiniau yn cynnwys gweithio gydag anifeiliaid. Mae rhai o'r rhain yn fân ddamweiniau ond mae rhai yn newid bywyd neu hyd yn oed yn angheuol.
"Mae'n hanfodol cael cyfleusterau trin da a llwybr a chraets priodol sy’n addas i’r math o wartheg sydd gennych chi. Yn yr achos penodol hwn, byddai llociau geni unigol wedi helpu,” meddai Mr. Rees.
PRIF AWGRYMIADAU WRTH DRIN ANIFEILIAID MAWR
Daw’r cyngor canlynol ar drin gwartheg yn ddiogel o lyfryn newydd WFSP.
- Rhaid i’r holl bobl sy’n trin da byw gael eu hyfforddi a bod yn gymwys
- Dylid bob amser ddefnyddio cyfleusterau trin priodol, sy’n cael eu cadw mewn cyflwr da
- Dylid defnyddio llwybr a chraets wedi’u dylunio’n briodol sy’n addas ar gyfer yr anifeiliaid rydych chi’n gweithio gyda nhw a’r tasgau rydych chi’n eu cyflawni
- Dylid sicrhau bod polisi difa trylwyr ar gyfer anifeiliaid anwadal
- Ni ddylid anghofio greddfau buwch sydd wedi bwrw llo’n ddiweddar
- Ceisiwch osgoi gweithio ar eich pen eich hun gydag anifeiliaid mawr
I gadw eich lle ar un o ddigwyddiadau hyfforddi’r mis hwn cliciwch yma, neu i lawrlwytho’r llyfryn neu i wneud cais am arweiniad iechyd a diogelwch wedi’i ariannu’n llawn sydd ar gael drwy raglen fentora Cyswllt Ffermio cliciwch yma, neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.