27 Hydref 2022

 

Ydych chi eisiau mentro i redeg busnes fferm? Busnes lle bydd eich sgiliau, gwybodaeth ac ymdrechion yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo? Hoffech chi gael y cyfle i fod yn bartner cyfran gan helpu i ddatblygu'r busnes hwnnw?

Mae tîm Mentro ar hyn o bryd yn chwilio am ffermwr brwd, galluog a chymwys a fydd yn darparu'r paru priodol - partner busnes gyda'r cyfuniad cywir o sgiliau, gwybodaeth ac uchelgais. Mae perchnogion yr hyn sydd heddiw yn fferm organig 575 erw ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, sydd â buches o dros 70 o wartheg sugno Simmental a’u lloi, yn dymuno canolbwyntio ar eu busnes gosod gwyliau llewyrchus. A allech chi fod yr unigolyn y maent yn gobeithio y bydd yn camu ymlaen? 

Gadawodd David Colledge, cyfrifydd, a’i wraig Angela – y ffermwraig bellach – ogledd Llundain i symud i Gwarmacwydd, ger Clunderwen, ym 1985. Fe brynon nhw’r tŷ cerrig hanesyddol gyda nifer o adeiladau allanol cerrig traddodiadol, gan ddechrau gyda 106 erw o dir isel wedi’i ffensio’n wael a phrynu 50 o wartheg godro Friesian. 

“Doedd gennym ni ddim profiad o ffermio, ond roedd y ddau ohonom yn bobl ymarferol weithgar a fagwyd mewn amgylchedd gwledig, yn ymroddedig i ddysgu ac yn benderfynol o wneud ffermio yn llwyddiant,” meddai Angela.

Heddiw, bron i 37 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwpl, sydd bellach yn cael cymorth gan eu merch sy’n siarad Cymraeg, Amy (29) a gweithwyr fferm, wedi adeiladu eu busnes fferm organig mawr. Ochr yn ochr â hyn, maent wedi datblygu menter twristiaeth gwyliau lwyddiannus, gan drosi adeiladau fferm traddodiadol yn bum uned llety o’r radd flaenaf.  Bydd un o'r bythynnod gwyliau nawr yn cael ei gynnig i'w partner busnes newydd, sy'n rhan o'r cytundeb 'ffermio cyfran' arfaethedig.

Yn raddol, mae'r cwpl wedi datblygu a gwella tir, seilwaith a da byw y fferm. Ar ôl symud i ffwrdd o ffermio llaeth a defaid, maen nhw bellach yn rhedeg buches sugno gaeedig o wartheg Simmental, sy'n ddof ac yn lloia’n hawdd sy'n addas ar gyfer hinsawdd Cymru.   

Mae'r fenter ffermio yn hunangynhaliol heb unrhyw borthiant wedi'i brynu i mewn. Mae hanner can erw o gnwd cyfunadwy (ceirch a phys) gyda'r codlysiau yn ychwanegu maetholion at y cnwd sy'n tyfu, sy'n cynyddu cynnwys protein y porthiant. 

Mae Angela ac Amy ill dwy wedi manteisio ar ystod eang o wasanaethau Cyswllt Ffermio gan gynnwys hyfforddiant, yn ogystal â derbyn yn ddiolchgar gyngor ac arweiniad gan lawer o ffermwyr da byw lleol cefnogol. 

Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Roedd angen i mi ddysgu popeth o fewn fy ngallu am ffermio, yn enwedig yr ochr da byw, yn gyflym iawn, cyn i mi wneud unrhyw gamgymeriadau drud, ac mae Amy wedi canolbwyntio i’r un graddau,” meddai Angela.

Dros y blynyddoedd, mae'r teulu wedi neilltuo amser ac adnoddau'n gyson i'r fferm i gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes. Mae samplu pridd yn rheolaidd wedi helpu i wella'r glaswelltir. Maent wedi buddsoddi'n sylweddol mewn seilwaith a chyfleusterau trin ac mae ganddynt ystod eang o beiriannau modern. Heddiw, nid yn unig y maent yn ffermwyr profiadol, proffesiynol sy'n gweithredu i'r safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchaf, ond ers dros 20 mlynedd, maent wedi ymrwymo'n gadarn i ffermio organig cynaliadwy, hunangynhaliol a chynhyrchu bwyd proffidiol. Mae hyn yn gydnaws â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfrannu at yr heriau hinsawdd a bioamrywiaeth byd-eang. Bydd angen i’w partner busnes newydd fod yr un mor angerddol am ffermio organig a chynaliadwyedd a bod â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ochr farchnata a hyrwyddo hefyd.  

“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, ond mae capasiti i ddatblygu’r fferm ymhellach, er enghraifft, drwy ychwanegu diadell ddefaid neu fentrau ffermio cydnaws eraill. 

“Mae ein hadeiladau da byw newydd wedi'u cynllunio i'n galluogi i wneud cynnydd wrth symud i ffwrdd o system sy'n seiliedig ar slyri i siediau â gwely o naddion pren a gaiff eu compostio. 

“Mae gennym ni dros 40 erw o goetir, ardaloedd cynefin diddorol, pyllau, nentydd a milltiroedd o lannau’r afon Taf. Mae cyfleoedd eraill megis gwerthu blychau cig yn uniongyrchol nad ydym wedi cael amser i ymchwilio iddynt.

“Rydym wedi mynd heibio’r oedran ymddeol arferol, ond yn dal i fod yn weithgar a gyda’r fenter dwristiaeth yn cymryd mwy o’n hamser, rydym yn teimlo bod lle i gydweithio â phartner busnes newydd egnïol sydd â ffocws, er mwyn gwneud y mwyaf o botensial y fferm.

“Fel teulu, rydyn ni i gyd yn teimlo'n barod i gymryd cam yn ôl o ffermio o ddydd i ddydd ac i gyflawni hynny, mae angen gwaed newydd, a phersbectif newydd gan rywun sydd mor ymroddedig â ni nid yn unig i ffermio organig ond hefyd i ffermio cynaliadwy, hunangynhaliol.” 

I fynegi diddordeb yn y cyfle hwn, lawrlwythwch ffurflen gais o dudalen we Mentro. Fel arall, ffoniwch Delyth Jones, Swyddog Mentro, ar 07985 155670 neu e-bostiwch delyth.jones@menterabusnes.co.uk  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o