13 Rhagfyr 2022

 

"Diolch i gael mentora gan wenynwr arobryn, mae gen i'r hyder a'r sgiliau i wybod fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu ar gyfer fy ngwenyn du Cymreig a'u lles."

Mae Carys Edwards yn wenynwraig, yn gynhyrchydd mêl ac yn ffermwraig o Feirionydd sydd wedi cael ei chydnabod yn eang fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU ar gadw gwenyn. Mae hi hefyd yn fentor Cyswllt Ffermio cymeradwy ar y pwnc poblogaidd hwn. Mae un o'i mentorai, Sophia Pugh, ffermwraig defaid sy'n byw ger Llandrindod, yn wenynwraig newydd sydd wedi elwa o'i chefnogaeth. 

Yn 2020, penderfynodd Sophia gadw gwenyn. Gyda'i fferm gartref yn gyfoethog o feillion, blodau gwyllt, gwrychoedd toreithiog, nentydd, coetir a detholiad mawr o blanhigion a llwyni sy'n gyfeillgar i wenyn yn ei gardd, roedd hi'n gwybod y gallai ddarparu'r cynefin perffaith.   

"Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol dros ddiogelu ein hamgylchedd trwy annog bioamrywiaeth, felly roedd penderfynu cadw gwenyn, sy'n beillwyr hanfodol ar gyfer popeth rydyn ni'n ei dyfu ar y fferm, yn ymddangos fel y dilyniant naturiol ac mae'r mêl yn fonws ychwanegol."

Ymwelodd Sophia â nifer o ffrindiau sy’n cadw gwenyn, prynu llawlyfr 'gwenyn' uchel ei barch a dechreuodd ymchwilio ar-lein pa offer y byddai angen iddi ei brynu a'r hyn y byddai'n ei gostio.   

Gyda chwch gwenyn a nythfa gnewyllol yn costio y tu hwnt i tua £250, a 'siwt' amddiffynnol gwenynwr a chwythwr mwg yn becyn cychwyn sylfaenol, yna daeth Sophia o hyd i wenynwr lleol oedd yn hapus i werthu ei dau gwch gwenyn newydd a sefydlodd heb fod yn rhy bell o'r ffermdy. Hefyd, gosododd nythfa gnewyllol o 'lawer o filoedd' o wenyn duon Cymreig ym mhob cwch, pob un yn gnewyllyn gyda'i 'brenhines wenynen' holl bwysig sef yr unig wenynen fenywaidd gydag ofarïau sydd wedi datblygu'n llawn. 

"Roeddwn mor falch o wybod bod fy ngwenyn yn frodorol o Gymru oherwydd rwy'n credu'n gryf mewn amddiffyn rhywogaethau cynhenid.

Aeth y cyfan yn dda am y flwyddyn gyntaf, ond roedd Sophia’n siomedig iawn pan oedd un o'i breninesau wedi ffoi o un o'r cychod gwenyn, gan fynd â'i haid gyda hi. Penderfynodd Sophia fynd at Cyswllt Ffermio a gwneud cais am gyngor mentora gan Carys, yr arbenigwr gwenyn. 

Pan ymwelodd Carys â'r fferm am y tro cyntaf, dangosodd hi i Sophia sut i rannu’r nythfa oedd ar ôl a sicrhau bod gan y ddau gwch gwenyn frenhines ddu Gymreig iach i wneud wyau a nytheidiau newydd gyda chymorth gwenyn ‘gweithgar', sydd bellach yn ffynnu eto yn nwy gwch gwenyn Sophia. 

"Mewn gwirionedd mae'n cymryd blynyddoedd o brofiad i ddeall beth mae eich gwenyn eich hun ei angen gennych chi, yn enwedig os yw'r tywydd yn oer ac yn wlyb ac efallai y bydd angen bwydo ychwanegol gyda surop siwgr.

"Roedd gan Carys ffordd mor amyneddgar o esbonio sut mae modd annog gwenyn i gynhyrchu 'breninesau' a sut gallwch chi wedyn eu helpu i aros yn ddigon cryf i oroesi ac fe wnaeth hi fy nysgu i ddeall arwyddion heidio, sydd wedi'i ddylanwadu gan y tywydd.

"Dangosodd sut i drin fy ngwenyn yn gywir, ac rwy'n teimlo fy mod i o'r diwedd yn dechrau eu 'darllen' yn well a gobeithio eu hannog i beidio â heidio, er fel y rhybuddiodd fi, dydy'r gwenynwyr gorau byth yn rhoi'r gorau i ddysgu!"

Mae Carys yn falch iawn o gael y cyfle i fentora gwenynwyr eraill i ddysgu sut i feithrin y peillwyr diwylliedig hyn.

"Mae cadw gwenyn yn denu cefnogwyr newydd ym mhob man wrth i'r byd chwilio am ffyrdd newydd o gynyddu bioamrywiaeth, amddiffyn yr amgylchedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd," meddai Carys, sydd ag angerdd penodol ar ddiogelu dyfodol gwenyn Duon brodorol Cymru, sydd dan fygythiad ar hyn o bryd yn sgil newid mewn patrymau tywydd a phethau annymunol eraill fel cacwn meirch Asiaidd, gwiddon Varroa a chlefydau gwenyn amrywiol sy'n gyffredin yn y DU. 

Mae Carys a Sophia yn credu bod gwenyn yn hoffi pobl yn 'siarad â nhw' yn gwrtais ac yn dawel.

"Mae traddodiadau canrifoedd oed yn ymwneud â chadw gwenyn ac a yw 'dweud wrth y gwenyn' yn ddim ond llên gwerin neu beidio, os yw eich gwenyn wedi arfer â'ch llais, byddant yn fwy cyfarwydd â chi ac yn llai tebygol o gynhyrfu pan fydd angen i chi gael mynediad atynt," meddai Sophia. 

I gael rhagor o wybodaeth am raglen fentora Cyswllt Ffermio, sy'n darparu hyd at 15 awr o gyngor mentora un-i-un wedi'i ariannu'n llawn i ffermwyr cofrestredig ar ystod eang o bynciau, cliciwch yma neu galwch eich swyddog datblygu lleol.  

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter