“Roedd bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn brofiad arbennig a roddodd sgiliau newydd, ffrindiau a chysylltiadau busnes newydd i mi ynghyd â rhwydwaith o gefnogaeth i’m galluogi i barhau i anelu’n uchel. Fe fydden i’n annog unrhyw un sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant amaeth, ffermio neu fwyd i ymgeisio,” meddai Gail Lewis, arolygwr siartredig gwledig a fagwyd ar y fferm ddefaid a bîff deuluol yn Llanidloes.

Lansiwyd y rhaglen ddatblygu proffesiynol arloesol hon yn 2012 gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen Academi Amaeth, sydd bellach yn nesáu at ei phedwaredd flwyddyn gyda bron i 80 o gyn aelodau, yn cynnwys tair elfen ar wahân. Dewiswyd Gail i gymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, menter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sy'n anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr gwledig. Mae’r rhaglen Busnes ac Arloesedd hefyd ar gael fel rhan o’r Academi Amaeth sy’n cynnig datblygiad busnes a phersonol, yn ogystal â Rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru, sy’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n dymuno ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu goedwigaeth.

Mae’r tair rhaglen yn dod â rhai o bobl fwyaf addawol y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ynghyd, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd arnynt eu hangen i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

“Roedd fy mhrofiad i yn yr Academi Amaeth o gymorth mawr i mi. Cefais hyder i roi cynnig ar bethau gwahanol, i gwrdd â phobl newydd ac i deithio’r byd er mwyn dysgu mwy am y diwydiant amaeth. Heb yr anogaeth a’r gefnogaeth honno, ni fyddwn wedi ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth Nuffield a fues yn ddigon ffodus i’w ennill yn 2014.

“Dysgais bwysigrwydd rhwydweithio mewn busnes a gwneud cysylltiadau a all fod o gymorth i chi o ddydd i ddydd. Un o nifer o uchafbwyntiau i mi oedd ein taith astudio i Frwsel, lle cawsom gyfle i ddysgu cymaint am brosesau llunio polisïau amaethyddol yr UE. Cwrddais â phobl arbennig, o gefndiroedd gwahanol, ac roedd nifer ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd. Maent wedi dod yn ffrindiau da y gallaf ymddiried ynddynt, ac rwy'n parchu eu barn, ac erbyn hyn rwyf yn gweithio gyda phobl eraill a gwrddais trwy'r Academi." meddai Gail.

Eglurodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes, fod fformat yr Academi Amaeth o gynnig tri chyfnod astudio byr ond dwys, a hynny fel arfer dros benwythnos, bellach wedi profi'n ddefnyddiol iawn o ran arwain y ffordd i lwyddiant at gyfer ei gyn-aelodau. Mae nifer ohonynt yn rhoi clod i'r rhaglen lawn o sgiliau a hyfforddiant cyfryngau, mentora busnes, teithiau astudio, cefnogaeth ac arweiniad am eu llwyddiant presennol ynghyd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm