27 Mai 2020

 

Chris Duller, Arbenigwr Priddoedd a Glaswelltir

 

Fel arfer ar ddiwedd mis Mai byddai twf y borfa yn ei hanterth, gyda chyfraddau twf o dros 100kgDM/ha/y diwrnod a byddai’r pryderon yn ymwneud â chynhyrchu gormodedd o laswellt. Y realiti eleni mewn sawl rhan o Gymru yw bod cyfnod hir o sychder wedi arwain at ostyngiad sylweddol yng nghyfraddau twf i lai na 30kgDM/ha/y diwrnod. 

Cyn dechrau mynd i banig am brinder porthiant, dylid nodi bod hanner y tymor tyfu yn weddill, felly mae digon o gyfleoedd i unioni’r sefyllfa. Ond gallai’r camau a gymerir dros yr wythnosau nesaf gael effaith fawr os bydd y cyfnod sych hwn yn ymestyn i fis Gorffennaf. 

 

1)    Rheoli pori

Byddwch yn ofalus nad ydych yn cyflwyno’r stoc yn ôl i’r borfa’n rhy sydyn. Wrth i gyfraddau twf ostwng, mae perygl y bydd cyfnodau pori cylchdro yn byrhau a bydd gorchudd porfa ffermydd yn brin gan arafu adferiad y borfa pan ddaw’r glaw yn y pen draw. 

Dylid dechrau porthi ‘byffer’ yn awr i gadw hyd y cylchdro dros 16 diwrnod.

Gosodwch ffensys y tu ôl i’r stoc i’w hatal rhag pori ar unrhyw ddail newydd. Os byddant yn pori’r tyfiant newydd yn rhy fuan bydd yn lleihau nifer y gwreiddiau; y peth olaf rydych eisiau ei wneud mewn cyfnod sych.

Ceisiwch gyrraedd eich targedau gweddilliol drwy beidio â phori’n rhy dynn oherwydd byddwch yn cynyddu faint o leithder sy’n cael ei golli o’r pridd ac yn arafu aildyfiant. Fodd bynnag, ar yr adeg hon o’r flwyddyn pan fydd y glaswellt yn blaguro, mae angen i chi bori hyd at 1,500kgDM/ha o hyd i sicrhau ansawdd yn y cylchoedd pori dilynol.   

Dim ond os mae gorchudd o dan 3,500kgDM/ha y mae ychwanegu rhagor o dir i’r ardal bori drwy bori caeau silwair yn opsiwn go iawn. Unwaith y bydd y gorchudd yn tyfu’n rhy gryf bydd y lefel gwastraff yn saethu i fyny; y peth olaf sydd ei angen ar adeg pan mae porthiant yn brin yw llawer o wastraff. 

Peidiwch ag anghofio bod glaswellt sy’n cael ei bori yn hanner pris silwair. Peidiwch â chael eich temtio i borthi gyda byrnau pan fyddech yn gallu dewis pori cnwd silwair ysgafn (cyn belled ag y bod gwastraff yn cael ei gadw’n isel).

 

2)    Materion yn ymwneud â silwair

Gall y rheini sydd wedi torri cnydau digonol ar ddechrau mis Mai deimlo’n ddigon bodlon, eto i gyd, mae aildyfiant yn araf iawn, gall yr ail doriad fod yn arafach a bydd y glaswellt yn blaguro’n gryf mewn sawl adlodd. 

Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio gwrtaith ar yr adlodd. Pan fydd y ddaear yn sych ac wedi cracio, mae perygl bob amser y daw’r cyfnod sych i ben gyda storm fawr o fellt a tharanau a gall nitrogen gael ei golli’n gyflym ar ffurf dŵr ffo a llif osgoi (i lawr y craciau ac i’r draeniau), felly, cadwch unrhyw gyfraddau yn isel (<40kgN/ha). Yn ddelfrydol, arhoswch nes bod rhagolygon am law cyson, ni fydd cyflenwadau nitrogen y pridd yn isel felly does dim angen rhuthro allan gyda’r troellwr.

Mae’r cyngor yn debyg i’r rheini a fyddai fel arfer yn cau’r caeau ym mis Mai er mwyn torri ar ddiwedd mis Mehefin/Gorffennaf. Os bydd y rhagolygon yn sôn am rai milimetrau o law yna manteisiwch ar y cyfle i ddod â’r gwrtaith allan – os nad oes sôn am law, peidiwch â gwneud dim.

Er gwaethaf y sychder, mae’r nitrogen yn y pridd wedi parhau i gael ei fwyneiddio, felly bydd lefelau N y pridd yn weddol uchel.

Mae’n bosibl y gwelir ymchwydd o nitrogen i’r cnydau pan ddaw’r glaw, felly, byddem yn dueddol o’ch cynghori i ostwng eich cyfradd safonol i 20-30kgN/ha (16-24 uned/erw).

Cymerwch ofal gydag unrhyw slyri/dŵr budr sy’n gollwng. Mae’r gwerth dyfrhau yn isel ac mae colledion nitrogen yn sylweddol yn ystod tywydd sych. Hefyd, mae’r perygl o halogi dail yn uchel. Byddai bar diferion/esgid lusg yn hanfodol.

 

3)    Caeau wedi’u hail-hadu a rheoli cnydau

Nid oes llawer y gallwn ei wneud ynghylch cnydau sydd eisoes yn y ddaear, heblaw aros. Mae’r rhan fwyaf o gnydau a blannwyd ar ddechrau/canol mis Ebrill wedi sefydlu digon i oroesi ond efallai bydd unrhyw gnydau a gafodd eu plannu yn ystod yr wythnosau diwethaf yn cael trafferth. 

Os ydych yn ystyried ail-hadu neu blannu cnydau fel swêds yn y ddaear yn ystod yr wythnosau nesaf, dylai unrhyw waith a wneir i baratoi’r gwely hadau ganolbwyntio ar gadw lleithder yn y pridd. Dylid osgoi gorweithio’r pridd, rholio a rholio eto. Mae perygl y gall yr hadau fynd yn rhy ddwfn mewn gwely hadau sych a gall priddoedd sydd wedi cael eu trin mewn amodau sych gapio neu symud pan ddaw’r glaw. Os nad ydych wedi penderfynu eto ym mha gae y byddwch yn plannu’r swêds… peidiwch â dewis yr un â’r llethr serth a’r priddoedd ysgafn.

Mae digon o amser yn weddill i sefydlu cnydau swêds. Yn 2018, gwelsom gnydau a blannwyd yn hwyr yn ymddangos ym mis Awst a chynhyrchu cnwd eithaf da.

Os ydych yn credu y gall cyflenwadau silwair fod yn brin yna gall cnydau Rhygwellt Eidalaidd/Westerwold fod yn ddewis posibl er mwyn rhoi hwb i’ch cyflenwadau porthiant gan gadw’r ail-hau parhaol tan y flwyddyn nesaf. Efallai bydd cyfle hefyd dros y misoedd nesaf i sefydlu cnydau porthiant ar gyfer tir pori yn y gaeaf; gan leihau’r galw am silwair. Cynlluniwch yn awr gan brynu’r hadau’n gynnar gan y bydd llawer o ffermwyr eraill yn cael yr un syniad.

Does dim diben hau dros ben cnydau presennol yn ystod tywydd sych. Does dim cyfle i gadw’r haen o bridd rhywiog mân, bas yn ddigon gwlyb ar gyfer yr hadau a bydd slotiau hau yn tueddu i agor gan adael yr eginblanhigion yn hongian yn yr awyr. Gadewch yr hadau yn yr ysgubor am rai wythnosau ychwanegol.

 

4)    Rheoli stoc

Dylai’r bygythiad o brinder porthiant posibl arwain ar unwaith at benderfyniadau ynghylch sut i leihau gofynion ar y fferm.

  • Gwerthwch yr anifeiliaid hysb yn awr, byddwch yn barod i dderbyn pris is a’u gwaredu. 
  • Diddyfnwch yn gynnar a thynhau’r stoc sych.
  • Sgoriwch gyflwr popeth a nodwch unrhyw beth a allai fynd ar dir salach.
  • Porthwch ddwysfwyd a gwerthwch y stoc yn gynnar. Pan fydd anifeiliaid yn ifanc mae eu cyfradd trosi porthiant yn ei gwneud yn economaidd i roi dwysfwyd ond ni fydd hyn yn wir erbyn i ni gyrraedd diwedd yr haf.

Mae cyflenwadau dŵr naturiol yn isel mewn sawl ardal ac mae deunydd porfa sych ymhell dros 25%, felly, bydd stoc yn chwilio am ddŵr a gall hyn gael effaith fawr ar gynhyrchiant llaeth. Gwnewch yn siŵr fod y cafnau yn lân a bod dŵr yn rhedeg ynddynt.

Bydd lefel twf porthiant eisoes wedi gostwng 10-20% oherwydd lefelau lleithder isel y pridd a gall waethygu i rai. Gweithredwch yn awr i ddiogelu’r porthiant sydd gennych a chynlluniwch ar gyfer hybu eich cyflenwadau porthiant yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Glaswellt cynnar tymor 2021
8 Chwefror 2021 Ysgrifennwyd gan Chris Duller, Ymgynghorydd
Blog – Plannu tatws â Puffin Produce
01 Mai 2020 Mae’r gwaith plannu tatws yn mynd rhagddo ers tro yn
Pethau i’w hystyried ynglŷn â’r isadeiledd pori yn ystod cyfnodau y tu hwnt i’r drefn arferol
1 Mai 2020 Simon Pitt, Swyddog Technegol Llaeth Nid oes gan