13 Ebrill 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae cloffni ymysg y clefydau sy’n effeithio fwyaf ar fuchod llaeth yn y DU yn gyson.
  • Mae lefelau cloffni cyfartalog wedi parhau’n uchel er gwaetha’r adnoddau a’r rhaglenni sy’n anelu at reoli a hyfforddi er mwyn ei leihau ar ffermydd.
  • Mae angen mwy o ystyriaeth a dadansoddiad o ran dulliau cyfnewid gwybodaeth amaethyddol er mwyn gwella adnoddau a negeseuon sydd wedi’u hanelu at effeithio ar arferion ar lefel y fferm.

 

Cloffni – y broblem

Gwyddwn mai cloffni yw un o’r clefydau mwyaf cyffredin o fewn y diwydiant llaeth; mae’n effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant a lles anifeiliaid, yn ogystal â’r agwedd economaidd wrth gwrs. Yn anuniongyrchol, mae cloffni a chlefydau eraill hefyd yn effeithio ar effeithlonrwydd amgylcheddol ac ôl troed carbon ar ffermydd, gan awgrymu bod rheoli clefydau’n ystyriaeth gynyddol ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Yn seiliedig ar wahanol effeithiau, mae AHDB yn amcangyfrif bod cloffni’n costio oddeutu £180 y fuwch ar hyn o bryd. Er gwaethaf ffigyrau o’r fath, nodwyd fod dadansoddiad cywir o’r gost hyd yn oed yn fwy cymhleth, gydag achosion unigol o gloffni yn amrywio o ran costau o oddeutu £50 - £400 gan ddibynnu ar leoliad a’r dulliau cyfrifo. Mae hyn yn awgrymu y gallai’r effeithiau ariannol fod fwy na dwywaith y rhai a nodwyd gan AHDB. Yn ddiweddar, mae llenyddiaeth wedi canolbwyntio ar  werthuso’r dulliau gorau ar gyfer canfod a chategoreiddio cloffni, gan gynnwys technolegau, tuag at leihau llafur a gwella dulliau awtomeiddio. Mae cloffni fel term yn cyfeirio at arwydd clinigol yn hytrach na chlefyd unigol ac felly mae’n achosi problemau o ran cydsyniadoli. Mae hyn yn cael ei gymhlethu wrth ystyried y gwahanol resymau a ffynonellau sy’n gysylltiedig â chloffni. o ganlyniad, mae hyn yn effeithio ar y cymhlethdod yn ymwneud â dewis y triniaethau a’r strategaethau rheoli i’w defnyddio. Mae cloffni mor gymhleth, ac yn dilyn dadansoddiad diweddar, cafodd dros 128 gwahanol ffactor sy’n effeithio neu’n arwain at gloffni eu canfod.  Mae un o’r meysydd diddordeb eraill sy’n codi dro ar ôl tro yn ymwneud â deall a gwella gwybodaeth, hyfforddiant, ymwybyddiaeth a gallu’r ffermwr i wneud penderfyniadau ynglŷn â chloffni ar ffermydd. Nodwyd pan fo hyn yn cael ei flaenoriaethu gan ffermwyr, y gallai gynyddu’r defnydd o strategaethau rheoli cloffni effeithlon a gwella iechyd anifeiliaid, yn ogystal â hybu lles ar lefel y fferm.

 

Atebion yr ydym yn ymwybodol ohonynt

Ceir nifer o gamau gweithredu ac atebion sy’n gysylltiedig â rheoli cloffni mewn gwartheg, ac mae nifer ohonynt, gan gynnwys technolegau, eisoes wedi cael eu trafod. Yn gyffredinol mae darparu arwynebau o ansawdd da mewn siediau, ardaloedd godro ac iardiau, gwella hylendid a bioddiogelwch, yn ogystal â chynnal safonau iechyd anifeiliaid yn gyffredinol, yn effeithiol ar y cyfan er mwyn lleihau nifer yr achosion o gloffni. Fodd bynnag, mae llawer o waith ymchwil blaenorol wedi nodi bod ffermwyr yn aml yn tan-amcangyfrif gwir sefyllfa cloffni ar eu ffermydd trwy arsylwadau arferol. Mae nifer o’r systemau a awgrymir mewn rhaglenni iechyd cloffni yn anelu at leihau’r broblem o danamcangyfrif trwy gydweithio ar ganfod cloffni’n uniongyrchol neu drwy hyfforddi ffermwyr mewn dulliau mwy cadarn o ganfod cloffni. Mae hyn yn awgrymu y gallai systemau sy’n sicrhau bod ffermwyr yn derbyn gwybodaeth wedi’i dargedu helpu ffermwyr i deimlo anogaeth a’u bod yn gallu ymddiried mewn cyngor a’i roi ar waith, lle bo angen, er mwyn gwella lles anifeiliaid a lleihau risgiau clefydau ar y fferm. Rhaglen Traed Iach AHDB yw’r rhaglen reoli cloffni allweddol yn y DU. Mae’r rhaglen yn ymgorffori camau gweithredu a chyngor gan Fentoriaid Symudedd cymeradwy sydd wedi’u hyfforddi, ynghyd ag adnoddau asesu i allu gwneud newidiadau rheolaeth ar fferm. Er bod y cynlluniau hyn ac eraill o’u math yn gallu cael eu hystyried yn gam cadarnhaol o ran cloffni, ai dyma sut mae ffermwyr yn dysgu orau mewn gwirionedd?

 

Cyfnewid gwybodaeth ac ymwybyddiaeth

Mae’r broses o gyfnewid a datblygu gwybodaeth mewn modd rhagweithiol yn un cymhleth sy’n digwydd ar sawl lefel o fewn sector neu system, er enghraifft rhwng y rhai sy’n llunio polisi ac ymchwilwyr gwyddonol neu rhwng ffermwyr a milfeddygon.  Er ei fod yn hanfodol bod negeseuon a gwybodaeth am gloffni yn cael eu trosglwyddo ar draws y sector amaethyddol, mae’r diffyg newid cysylltiedig mewn ffigyrau cloffni ar draws y DU dros amser yn awgrymu efallai nad yw strategaethau presennol yn gwneud hynny’n effeithiol. Mae rhwystrau rhag cyflwyno unrhyw newid i arferion ar lefel ffermydd unigol, ynghyd â dealltwriaeth a derbyniad o ddulliau cyfnewid gwybodaeth wedi cael eu nodi dro ar ôl tro ym maes amaethyddiaeth da byw; ac mae astudiaethau penodol ar iechyd buchod llaeth yn dangos gwahanol effeithiau ac agwedd ymysg ffermwyr wrth gymharu’r defnydd o wobrwyo a chosbi. At hynny, gall ffactorau megis ansicrwydd ffermwyr yn eu gallu eu hunain i asesu arwyddion clinigol, diffyg ymddiriedaeth ac anfodlonrwydd gyda pholisïau awdurdodau iechyd anifeiliaid, a’r gred y byddai dulliau rheoli a awgrymir yn aneffeithiol, fod yn rhwystrau rhag rheoli clefydau. Mae rhwystrau eang a allai fod yn effeithio ar gyfnewid gwybodaeth yn llwyddiannus wedi cael eu nodi, gyda rhai o’r rhain yn cael eu rhannu’n gryno i broblemau sy’n effeithio ar y canlynol;

  1. Ar lefel yr unigolyn
    • Profiad personol a’r gallu i asesu tystiolaeth
    • Ymddiriedaeth yn y person arall sy’n rhan o unrhyw broses gyfnewid gwybodaeth
    • Agwedd negyddol tuag at  newid yn gyffredinol
  2. Ar lefel sefydliadol
  • Diwylliant anghefnogol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth
  • Gwrthdaro buddion ar wahanol lefelau o’r broses gyfnewid gwybodaeth
  1. Yn ymwneud yn uniongyrchol â chyfathrebu
  • Dewis gwael o’r negesydd a ddefnyddir
  • Gormod o wybodaeth
  • Geirfa ac iaith a ddefnyddir
  • Diffyg negeseuon gweithredu uniongyrchol o fewn y wybodaeth
  1. Yn ymwneud ag amser neu amseru
  • Gwahaniaethau yn yr amserlen gyfathrebu
  • Yr angen i wneud penderfyniadau ar unwaith mewn rhai achosion

 

Er bod y lefelau uchod ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth yn ymwneud â chyfnewid rhwng ymchwilwyr a chynhyrchwyr mewn sefyllfa gofal dynol, maent yn dangos goblygiadau pwysig o ran cyfnewid gwybodaeth ym myd amaeth. Mae atal clefydau da byw yn golygu cydbwyso nodau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a lles o ystyried yr incwm, llafur, adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr. Ochr yn ochr â materion mor gyffredinol, mae’n amlwg bod angen gwybodaeth wedi’i theilwra o amgylch systemau ymarfer penodol yn y DU, megis systemau awyr agored,  systemau llaeth sy’n ddibynnol iawn ar bori, o’i gymharu â systemau sy’n cadw stoc dan do yn fwy cyson, neu systemau confensiynol o’i gymharu ag organig; a bydd goblygiadau clefydau’n wahanol ar bob un o’r rhain. Mae astudiaethau’n amlygu rhwystrau penodol rhag cyfnewid gwybodaeth yn llwyddiannus ym maes cloffni mewn gwartheg llaeth yn cynnwys astudiaeth ar ffermwyr, milfeddygon a’r rhai sy’n trimio traed yn yr Unol Daleithiau.  Yn yr astudiaeth, nodwyd fod ffermwyr yn teimlo nad oedd digon o gyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth rhwng gwahanol gynghorwyr fferm (yn yr achos hwn, milfeddygon a’r rhai sy’n trimio traed anifeiliaid) er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyflwyno i ffermwyr am y dulliau rheoli gorau. Cafodd hyn ei amlygu yn y map o ddadansoddiad thematig o fewn yr astudiaeth ar ffurf ‘amrywiaeth rhwng ffermydd’ a ‘gwahanol ddiffiniadau’ fel heriau allweddol yn y maes hwn (gweler isod). Mae hyn yn ddiddorol gan fod astudiaeth o ffermwyr llaeth yn y DU a Sbaen hefyd wedi amlygu mai gwerth gwybodaeth gan filfeddygon oedd bwysicaf o safbwynt ffermwyr dros unrhyw lefelau eraill o ryngweithiadau cyfnewid gwybodaeth (megis y rhyngrwyd). Felly, mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y ffaith bod angen i farn a negeseuon arbenigwyr milfeddygol fod yn gyson a chael eu hadleisio ar draws fframwaith o gyfnewid gwybodaeth

 

Wynands et al 2021

 Mae strategaethau penodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth sydd wedi cael eu defnyddio’n helaeth a’u hasesu o safbwynt gweithgaredd amaethyddol yn cynnwys y canlynol:


O’r dulliau hyn, nodwyd fod ysgolion stabl yn cynnig potensial ar gyfer cyfnewid gwybodaeth am glefydau aml-ffactor cymhleth, ac y dylai weithio’n dda o ran cloffni. At hynny, roedd gwaith ymchwil yn edrych ar sut yr oedd ffermwyr yn mabwysiadu strategaethau atal a rheoli clefydau yn dangos cynnydd mewn gweithrediad pan fo dulliau mwy personol, megis cymryd rhan mewn digwyddiadau dysgu neu gyfathrebu uniongyrchol gyda chynghorwyr fferm yn cael eu cynnwys. Er gwaetha’r darnau cychwynnol o dystiolaeth, roedd arolwg diweddar yn edrych ar bwysigrwydd prosesau cydweithredol ar gyfer trosi gwybodaeth ac arferion drwy gyfnewid gwybodaeth yn nodi nad oedd digon o wybodaeth am y strategaethau gorau o safbwynt amaethyddiaeth. Yn yr un modd, roedd astudiaeth ar newid ymddygiad ffermwyr yn ymwneud â chlefydau gwartheg yn 2021 yn amlygu diffyg cadernid mewn llenyddiaeth Cyfnewid Gwybodaeth flaenorol a’r angen i waith ymchwil y dyfodol ddefnyddio fframweithiau dadansoddi mwy diffiniedig. Dylai gwella dadansoddiad o’r fath alluogi gwaith ymchwil y dyfodol i werthuso’r dulliau gorau o gyfathrebu gyda ffermwyr ynglŷn â rheoli clefydau.  Er mwyn asesu rôl strategaethau o’r fath ymhellach, mae prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru yn edrych sut all trafodaethau ffermwyr ar sail cymheiriaid i gymheiriaid weithio’n unigol neu ynghyd â chyngor arbenigol (yn debyg i ddull ysgol stabl). Gallai canfyddiadau’r prosiect helpu cyrff amaethyddol a gwneuthurwyr polisi i fireinio rhaglenni iechyd a lles anifeiliaid y dyfodol tuag at wella canlyniadau. Er bod yr erthygl yn canolbwyntio ar gloffni, maes arall allweddol lle byddai modd gwella cyfnewid gwybodaeth a rhyngweithio o fewn y diwydiant llaeth yn y DU yw rheoli lloi. Gwyddwn fod cyfraddau marwolaeth lloi yn fater hollbwysig o safbwynt lles ac yn economaidd o fewn y sector. Fodd bynnag, mae astudiaethau wedi awgrymu prinder ffermwyr yn gofyn am gymorth milfeddygol wrth wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd am iechyd stoc ifanc. Gallai unrhyw wersi o ran gwella dulliau cyfnewid gwybodaeth a hwyluso gwell rhyngweithio rhwng ffermwyr a chynghorwyr fferm felly chwarae rhan bwysig wrth lunio ac ystyried adnoddau a rhaglenni cyngor iechyd lloi yn ogystal.

 

Crynodeb

Mae cloffni yn glefyd niweidiol pwysig o safbwynt lles ac yn economaidd o fewn y sector gwartheg llaeth. Mae mentrau, rhaglenni a pholisïau wedi ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn yn gymharol aflwyddiannus. Mae gwaith ymchwil wedi trafod rhwystrau rhag cyfnewid gwybodaeth rhwng lefelau o’r gadwyn amaethyddol gan gynnwys gwneuthurwyr polisi, cyrff cynghori, cynghorwyr fferm a ffermwyr eu hunain.  Pe byddai modd datblygu gwell dealltwriaeth o’r dulliau trosglwyddo gwybodaeth a’r rhwystrau, dylai hyn helpu llwyddiant strategaethau sy’n ceisio trechu’r clefyd aml-ffactor hwn o fewn y sector hwn at y dyfodol, gan allu trosglwyddo i feysydd eraill o bwys yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth mewn amaeth yn fwy cyffredinol o bosibl.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth