Cloffni mewn Gwartheg Llaeth: Effaith gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth ar newid mewn ymddygiad ymysg cynhyrchwyr llaeth ac effaith hynny ar achosion o gloffni yn eu buchesi

Er y bu cynnydd yn y gweithgaredd sy’n ymwneud â chloffni yn yr 20 mlynedd diwethaf, ychydig o welliant a welwyd yn yr achosion o gloffni gydag oddeutu 1 ym mhob 3 buwch yng Nghymru yn gloff ar unrhyw un adeg. Mae gofyn inni weithredu mewn ffordd newydd sy’n cynnig dulliau gwahanol o gyfnewid gwybodaeth a ffyrdd haws i ffermwyr fynd ati i reoli cloffni.

Nod y prosiect yw canfod effaith gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth ar amgyffrediad ffermwyr o gloffni, eu gwybodaeth ac ar y newid yn eu hymddygiad. Yn aml, nid y ffaith na wyddom beth i’w wneud sy’n ein rhwystro rhag gwella, ond sut i roi’r syniadau ar waith yn ymarferol, yn enwedig pan fo amser ac adnoddau’n brin.

Mae pedwar ar hugain o ffermwyr llaeth o dde-ddwyrain Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect dwy flynedd hwn sydd â’r nod o ganfod y dull gorau o ymgysylltu â ffermwyr er mwyn rheoli cloffni.

Grwpiau gweithredu i ffermwyr – cyfarfodydd grŵp dan arweiniad hwylusydd fydd y rhain lle mae’r dull cyfnewid gwybodaeth yn seiliedig ar ddysgu oddi wrth gyfoedion.

Cyngor un-i-un – Bydd hwn yn canolbwyntio ar raglen gloffni AHDB Healthy Feet Programme Lite (HFPLite), a fydd dan ofal milfeddyg y ffermwr. Mae HFPLite yn ddull newydd o reoli cloffni ac mae’n canolbwyntio ar adnabod prif risgiau cloffni ar y fferm a mynd i’r afael â’r risgiau hynny.

 

Rhennir y ffermwyr yn bedwar grŵp:

  1. Rheoli. Ni fyddant yn rhan o’r un ddull cyfnewid gwybodaeth a byddant yn cael eu monitro’n unig. Dim ymyrraeth wedi’i chynllunio oni cheir pryder ynglŷn â lles y buchod oherwydd y lefelau cloffni
  2. Healthy Feet Programme Lite (HFLite). Bydd y ffermwyr yn cael cyngor uniongyrchol, wedi’i dargedu drwy gyfrwng eu milfeddyg hyfforddedig eu hunain (Mentor Symudedd) a fydd yn gweithredu’r rhaglen HFLite.
  3. Grŵp Gweithredu i Ffermwyr. Ni fydd y ffermwyr yn cael dim cyngor arbenigol uniongyrchol ond yn hytrach byddant yn rhannu gwybodaeth drwy grŵp gweithredu a fydd yn cael ei hwyluso. Caiff grŵp WhatsApp ei greu hefyd i ganiatáu i aelodau rannu’r newidiadau y maent wedi’u rhoi ar waith, eu syniadau a’u cwestiynau.
  4. HFPLite a Grŵp Gweithredu i Ffermwyr. Bydd y ffermwyr yn cael cymorth â chloffni drwy gyngor arbenigol wedi’i dargedu drwy’r rhaglen HFPLite a hefyd drwy gymorth drwy gyfrwng Grŵp Gweithredu i Ffermwyr dan ofal hwylusydd. Caiff grŵp WhatsApp ei greu hefyd i ganiatáu i aelodau rannu’r newidiadau y maent wedi’u rhoi ar waith, eu syniadau a’u cwestiynau.

 

Bydd y prosiect yn rhoi inni fwy o wybodaeth am yr effaith y mae gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth yn ei chael ar ymddygiad, agwedd a gwybodaeth o safbwynt rheoli cloffni yn y fuches laeth. Y fantais gyffredinol fydd cael gwell dealltwriaeth o’r dulliau mwyaf effeithiol o drosglwyddo gwybodaeth er mwyn gallu teilwra cynlluniau cloffni i’r dyfodol a sicrhau’r budd gorau am y gost.