1 Ebrill 2020

 

David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. 

 

  • Cloffni yw’r trydydd yn y rhestr o glefydau sy’n effeithio fwyaf ar wartheg godro, o safbwynt economaidd a lles anifeiliaid
  • Nid un clefyd yn unig yw cloffni; mae nifer o bethau yn ei achosi, ac oherwydd hynny, mae’n anodd ei asesu, gwneud diagnosis ohono a’i drin yn effeithiol
  • Er fod technolegau newydd i wneud diagnosis o gloffni ar gael (neu’n cael eu cynhyrchu), un ffactor allweddol o ran lleihau nifer yr achosion o gloffni ledled y DU yw newid gofynnol o ran persbectif a diwygio’r arferion rheoli a ddefnyddir yn gyffredin yn y sector llaeth

 

Beth yw cloffni?

Caiff cloffni ei ystyried yn un o’r clefydau mwyaf niweidiol (wedi anawsterau atgenhedlu a mastitis) sy’n effeithio ar y diwydiant llaeth yn fyd-eang. Mae colledion economaidd cysylltiedig yn cynnwys gostyngiad yng nghyfanswm y llaeth a gynhyrchir, perfformiad atgenhedlu cyfyngedig a chynnydd o ran marwoldeb anifeiliaid, sy’n cael ei effeithio gan gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu difa. Caiff cloffni ymhlith gwartheg ei ddiffinio fel unrhyw amrywiad/diffyg sy’n achosi abnormaleddau mewn symudedd buwch a gall gynnwys amrywiaeth o gyflyrau’r coesau a’r traed. Fodd bynnag, mae astudiaethau yn awgrymu fod gan 90% o achosion o gloffni gysylltiad uniongyrchol â chlefydau’r traed. Caiff clefydau’r traed eu rhannu yn glefydau heintus a rhai nad ydynt yn heintus, ac o’u plith, mae ymchwil blaenorol wedi awgrymu mai’r clefydau mwyaf cyffredin yw wlserau ar wadnau, ac amcangyfrifir fod cost unigol pob achos o hyn yn £518.73, a dilynir hynny gan glefyd y llinell wen, â chost o £300.05 fesul achos. Ar y llaw arall, awgrymir mai dermatitis carnol yw’r clefyd mwyaf cyffredin, ac er fod y gost amcangyfrifedig fesul achos, sef £75.57, yn isel yn yr achos hwn, mae’n hynod o heintus, ac felly mae’n peri risg ychwanegol i’r fuches gyfan.

 

Mynychter ac effaith economaidd 

Mae mynychter cloffni ymhlith gwartheg godro wedi bod yn anodd ei asesu; fodd bynnag, er gwaethaf cynnydd yn y ddealltwriaeth o’r effeithiau economaidd, mae tueddiadau’n awgrymu fod y nifer sy’n mabwysiadu strategaethau i leihau cloffni yn isel, ac mae’r lefelau cyfartalog ar draws Cymru a Lloegr yn amlygu gostyngiadau bychan iawn yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf (36.8% yn 2010 a 31.6% yn 2018). Mewn cymhariaeth, mae tystiolaeth o nifer o astudiaethau gwyddonol wedi amlygu amrywiad o ran mynychter cloffni yn fyd-eang, yn amrywio o <5% yn Norwy i >50% mewn rhannau o’r Unol Daleithiau, ac awgrymir fod y gostyngiad byd-eang cyfartalog yn 25% fwy neu lai. Fel y cyfryw, mae’n amlwg fod cloffni yn dal yn broblem bwysig yn y DU, ac mae mynychter cloffni yn y sector gwartheg yn uwch na’r cyfartaledd byd-eang. Yn ychwanegol, ar draws nifer o astudiaethau yn y DU, gwelwyd amrywiaeth sylweddol o ran lefelau mynychter rhwng ffermydd, yn amrywio o ffigur mor isel â 6% mewn un fferm i 65% mewn un arall. Mae hyn yn awgrymu fod strategaethau rheoli ffermydd unigol yn gwneud cyfraniad allweddol at y gwaith o atal cloffni fwy na thebyg.

Mae asesiadau economaidd o gloffni ymhlith gwartheg godro, neu wartheg yn gyffredinol, yn gysyniad anodd i’w fesur yn fanwl gywir, oherwydd mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gloffni yn amrywiol. Fodd bynnag, caiff astudiaethau i bennu gwariant a cholledion eu perfformio’n rheolaidd, ac mae’n hawdd cael gafael arnynt. Mae gwariant yn cynnwys cynnydd o ran llafur, y gofyniad i wneud defnydd o amser arbenigwyr (tocwyr traed neu filfeddygon), prynu triniaethau therapiwtig, costau posibl gwneud diagnosis a chostau gweithredu strategaethau rheoli ac atal. Mae costau sy’n ymwneud â chloffni yn gysylltiedig â gostyngiad o ran elw, gan gynnwys colledion o ran cynhyrchu llaeth, llaeth o ansawdd is, llaeth na ellir ei werthu (oherwydd y defnydd o foddion gwrthfiotig), gostyngiad o ran perfformiad atgynhyrchu, gorfod difa mwy o stoc, dirywiad o ran lles anifeiliaid a dirywiad cyffredinol o ran iechyd, sy’n golygu fod anifeiliaid cloff yn fwy agored i glefydau neu gymhlethdodau eraill. Fe wnaeth ffigurau a luniwyd yn 2009 gyfrifo fod gwerth y colledion i’r diwydiant gwartheg yn y DU yn >£127 miliwn, bod achosion unigol yn costio £323.47 yr un ar gyfartaledd, a bod oddeutu 10% o’r achosion o ddifa gwartheg yn gysylltiedig â chloffni. Un anhawster sydd eisoes wedi cael ei amlygu yw’r diffyg dealltwriaeth ymhlith ffermwyr a chynhyrchwyr o’r costau gwirioneddol sy’n gysylltiedig â chloffni; awgrymir fod hyn yn arwain at gylch o leihau’r ymdrechion i atal a rheoli cloffni, ac felly, effeithiau economaidd gwaeth. 

 

Ffactorau sy’n gysylltiedig â chloffni

Trwy werthuso effeithiau cloffni yn y diwydiant llaeth, mae cyfanswm sylweddol o ddata wedi cael ei gasglu a’i ddadansoddi i asesu ffactorau a allai fod yn dylanwadu ar gloffni.

 

Ffactorau a all gynyddu nifer yr achosion o gloffni:

  • Concrit wedi’i ddifrodi ar fuarthau ffermydd
  • Buchod yn gwthio/troi’n gyflym ger mynedfeydd neu allanfeydd parlyrau godro
  • Gwartheg yn pori ar borfeydd sydd wedi’u pori gan ddefaid
  • Defnyddio sgrafelli awtomatig
  • Gwartheg ddim yn cael eu trin o fewn 48 ar ôl canfod cloffni
  • Cadw gwartheg dan do am gyfnodau estynedig (≥61 diwrnod)
  • Cynnydd cyflym yng nghyfanswm y dwysfwydydd a roddir i wartheg
  • Sgorau cyflwr corfforol isel
  • Caniatáu i ewinedd carnau dyfu’n rhy hir
  • 120 diwrnod cyntaf y cyfnod llaetha
  • Buchesi mwy eu maint 
  • Lloea mewn bloc yn ystod yr hydref
  • Bod â buchod Holstein-Friesian yn unig

Ffactorau a all leihau cloffni:

  • Defnyddio deunydd gorwedd trwchus (>5cm)
  • Tocio ewinedd y carnau yn gynnar yn ystod y cyfnod llaetha
  • Cynyddu amlder gwaith tocio ewinedd arferol
  • Cynyddu’r defnydd arferol o faddonau traed
  • Deunydd lloriau sy’n lleihau croniad slyri ar fuarthau neu’n atal hynny
  • Buchesi sydd â llai na 30 o anifeiliaid
  • Anifeiliaid sy’n fwy gwastad
  • Arferion ffermio organig
  • Trin cloffni o fewn 48 awr ar ôl gwneud diagnosis 
  • Lefelau uchel o lendid y coesau
  • Cynnwys bridiau cymysg mewn systemau cynhyrchu llaeth

Gall deall ffactorau a all effeithio ar gloffni gynnig awgrym i ymchwilwyr o’r elfennau y dylid eu hymchwilio yn fanylach a gwybodaeth i ffermwyr am newidiadau y gellid eu gweithredu ar lefel y fferm.

 

Strategaethau i fynd i’r afael â chloffni 

Yn sgil y ddealltwriaeth fod cloffni yn effeithio mor sylweddol ar les a lefelau cynhyrchedd gwartheg, mae nifer o arbrofion ymchwil wedi ceisio mynd ati i ganfod strategaethau effeithiol a newydd i’w frwydro. Mae ymchwil yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf wedi ystyried effeithiau ychwanegu biotin at ddietau gwartheg er mwyn gwella iechyd y traed. Mae nifer o astudiaethau wedi canfod cydberthnasau cadarnhaol rhwng dietau yr ychwanegir biotin atynt a lleihad yn nifer yr achosion o ddermatitis carnol, yn ogystal â chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â chloffni. Gwelwyd hefyd fod cyfanswm y llaeth a gynhyrchir yn cynyddu o dan yr amgylchiadau hyn. Oherwydd yr effeithiau llesol hyn, mae ychwanegion biotin bellach ar gael yn gyffredin i’w prynu er mwyn cryfhau porthiant traddodiadol.

Mae strategaeth gweddol newydd sydd wedi’i chynnig ynghylch mynd i’r afael â chloffni sy’n gysylltiedig â dermatitis carnol yn ymwneud â phorthi elfennau hybrin (megis sinc) i wartheg. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw werthusiad penodol wedi cael ei gynnal i fesur lefelau dermatitis carnol mewn buchod mewn perthynas â chymeriant mwynau. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi profi y ceir cydberthynas gadarnhaol yn achos bustych. Yn achos o leiaf tri o’r astudiaethau, profwyd fod ychwanegu cymysgeddau o elfennau hybrin at borthiant, gan ddarparu lefelau uwch o fwynau hybrin, yn effeithiol o ran lleihau nifer yr achosion o anafiadau yn sgil dermatitis carnol. Mae buddion eilaidd hefyd yn gysylltiedig â’r strategaeth hon, oherwydd mae astudiaethau ymchwil eraill yn awgrymu fod cynyddu lefelau mwynau hybrin hefyd yn symbylu cynnydd o ran cyfanswm y llaeth a gynhyrchir. Yn olaf, gwnaed astudiaethau o’r strategaeth hon wedi’i chyfuno â’r defnydd o ychwanegion biotin ac mewn arbrofion triniaethau deublyg, ac arsylwyd buddion o ran iechyd y carnau a chynhyrchu llaeth ar yr un pryd.

Mae bioddiogelwch yn dod yn fater sy’n cael sylw amlycach yn y diwydiant amaeth, yn enwedig, yn achos gwartheg, mewn perthynas â lleihau nifer yr achosion o glefydau megis twbercwlosis buchol. Fodd bynnag, fel y nodwyd, mae cyfran sylweddol o’r achosion o gloffni ymhlith gwartheg godro yn gysylltiedig â chyfryngau heintus. Fel y cyfryw, gallai defnyddio mesurau biodiogelwch i leihau gallu heintiau i drosglwyddo mewn systemau ffermydd arwain at welliant sylweddol o ran rheoli cloffni. Mae astudiaethau wedi amlygu’r ‘peryglon a’r pwyntiau rheoli critigol’ (HACCP) cysylltiedig â chloffni y dylid eu hystyried, gan gynnwys: diffyg o ran rheoli gwendidau bioddiogelwch trwy beidio defnyddio system buches gaeedig, diffyg bioddiogelwch rhwng grwpiau oedran, offer yn cael ei halogi a diffyg hylendid/defnydd o ddiheintydd rhwng triniaethau cloffni.

Caiff gwella diagnosteg ei nodi mewn nifer o astudiaethau ynghylch coffni fel gofyniad hanfodol o ran gwella effeithlonedd triniaethau, ac yn sgil hynny, lleihau beichiau iechyd anifeiliaid ac economaidd. Un canfyddiad rheolaidd yn sgil ymchwil diagnostig o wartheg godro yw bod ffermwyr yn amcangyfrif lefel presenoldeb cloffni yn rhy isel, hyd yn oed pan wneir dadansoddiadau rheolaidd dyddiol neu wythnosol. Gall amcangyfrif y risgiau yn rhy isel fod yn gysylltiedig â thuedd gyffredinol i oramcangyfrif effeithiolrwydd technegau diagnostic newydd neu rai sy’n bodoli’n barod, yn aml ble ceir diffyg prawf cyfeirio cyson ynghylch y “gorau sydd ar gael” at ddibenion gwneud cymhariaeth. Oherwydd y ffactorau amrywiol sy’n gysylltiedig â chloffni, mae’n annhebygol y bydd unrhyw brawf unigol yn ddigon cadarn o safbwynt yr holl glefydau sy’n gysylltiedig â chloffni. Fodd bynnag, un gwelliant sydd wedi’i nodi o ran gwneud diagnosis yw tocio ewinedd yn rheolaidd a sgorio ymsymudiad yn rheolaidd, â chyfyngau byrrach rhwng digwyddiadau profi yn dangos lleihad mwy sylweddol yn nifer yr achosion o gloffni. Mae tocio ewinedd yn cynnig cyfle i wneud archwiliad gweledol, gan ganiatáu i anafiadau gael eu diagnosio a’u trin yn ystod eu camau cynnar, a bydd sgorio ymsymudiad yn aml yn arwain at ddiagnosis camarweiniol ar gyfer yr achosion gwaethaf o gloffni yn unig. Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth yn nodi y dylid cydbwyso cost effeithiolrwydd tocio rheolaidd yn erbyn y nifer benodol o achosion o gloffni ym mhob fferm. Yn ychwanegol, mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i geisio defnyddio technolegau newydd i leihau’r baich llafur a’r camgymeriadau dynol anochel sy’n gysylltiedig ag asesiadau â llaw. Bydd technolegau awtomataidd yn dal i wynebu anawsterau o ran aneffeithiolrwydd oherwydd diffyg prawf cyfeirio “gorau sydd ar gael”; serch hynny, mae astudiaethau wedi awgrymu effeithiau llesol. Dyma dri phrif gategori technolegau awtomatic i ganfod cloffni: (1) cinetig (sy’n mesur grymoedd a weithredir); (2) cinematig (sy’n mesur mecaneg symudiadau anifeiliaid) neu (3) dulliau auniongyrchol (sy’n aml yn ystyried y newidiadau mewn patrymau o’r sensoriaid a weithredir). Mae enghreifftiau cinetig yn cynnwys y defnydd o blatiau neu blatfformau pwysau mewn parlyrau neu wedi’u hintegreiddio mewn systemau godro awtomatig; gall y rhain ganfod anifeiliaid sy’n cario’u pwysau yn annormal. Mae systemau cinematig yn defnyddio camerâu sy’n gysylltiedig ag algorithmau a all ganfod symudedd annormal gan fuchod yn awtomatig a’u hamlygu. Mae dulliau anuniongyrchol yn cynnwys technolegau megis thermograffi isgoch (yn mesur llid sy’n achosi newidiadau tymheredd mewn carnau), olrhain GPS (a all arsywi newidiadau mewn ymddygiad), a monitorau anifeiliaid ar gyfer gwartheg (SCR Heatime, Silent Herdman a Rumiwatch). Mae systemau anuniongyrchol yn mesur amrywiaeth o baramedrau a gallant ddefnyddio patrwm sy’n wahanol i’r ymddygiad arferol i amlygu salwch posibl, gan gynnwys cloffni.

 

Yn sgil cynnydd yn y ddealltwriaeth o gostau cloffni o safbwynt economaidd a lles, un strategaeth sydd wedi dod i’r amlwg yw lansio rhaglenni carnau/traed iach â chefnogaeth cyrff allweddol y diwydiant. Mae’r rhaglenni yn darparu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer ffermwyr, er mwyn eu cynorthwyo i leihau mynychter cloffni. Yn aml iawn, caiff rhaglenni o’r fath eu hwyluso gan fentoriaid/arbenigwyr sy’n gallu cynnig cyngor neu hyfforddiant pwrpasol. Mae enghreifftiau o raglenni yn cynnwys rhaglen ‘Healthy Feet’ (y DU - AHDB), ‘Healthy Hoof’ (Seland Newydd - DairyNZ) a ‘Master Hoof Care’ (yr Unol Daleithiau – Coleg Prifysgol Milfeddygaeth Talaith Iowa). Er mae’n debygol y bydd strategaethau sydd wedi’i hanelu at fynd i’r afael â chloffni yn llesol, hyd yn hyn, ceir diffyg asesiad uniongyrchol o effeithiau meintiol y rhaglenni hyn ar gloffni ymhlith gwartheg godro yn eu rhanbarthau.

Yn olaf, un strategaeth bosibl i fynd i’r afael â chloffni mewn buchesi llaeth yw cyflwyno cymhellion a chosbau ariannol; hyderir y gall y rhain annog mwy o ymdrechion i wneud diagnosis o gloffni a’i drin. Er enghraifft, yn yr Iseldiroedd, cafodd llaeth gan fuchod difrifol o gloff ei atal rhag cael ei gasglu i’w werthu, yn gysylltiedig â rheoliad EC 853/2004 Senedd Ewrop, oddi wrth Gyngor Lles Anifeiliaid Fferm (FAWC). O ganlyniad, ar hyn o bryd, yr Iseldiroedd yw un o’r gwledydd sydd ag un o’r lefelau isaf o fynychter cloffni, sy’n awgrymu y gall strategaethau fel hon fod wedi gwneud cyfraniad pwysig o ran newid agweddau at reoli cloffni. Yn y DU ar hyn o bryd, mae’n ymddangos fod strategaethau tebyg yn effeithio ar ddiagnosis o fastitis a lefel y driniaeth o’r clefyd hwnnw, oherwydd mae deddfwriaeth debyg yn ei lle o ran ansawdd llaeth (mae cyfrifiad celloedd somatig uchel yn gysylltiedig â phresenoldeb mastitis) ble caiff llaeth sydd dros drothwyon penodol ei ystyried yn “anaddas i’w yfed gan bobl”. 

 

Crynodeb

Mae cloffni ymhlith gwartheg godro yn glefyd sy’n destun pryder ym mhob rhan o’r DU ac ar y lefel fyd-eang. Mae mynychter yn y DU yn dal yn uwch na’r cyfraddau cyfartalog byd-eang, ar waethaf tystiolaeth o ostyngiadau yn ystod y 10 mlynedd ddiweddaf, a chynnydd o ran yr ymwybyddiaeth o effaith y cyflwr hwn ar wartheg o safbwynt economaidd a lles anifeiliaid. Mae cloffni yn her sylweddol oherwydd y ffactorau niferus sy’n gysylltiedig â’r clefyd, ac felly, bydd yn rhaid i bob achos gael ei asesu’n benodol er mwyn sicrhau’r driniaeth orau a hysbysu ymatebion rheolaeth fferm yn briodol. Er fod tystiolaeth yn awgrymu fod mwy o gyfathrebu yn digwydd ynghylch pwysigrwydd rheoli cloffni (trwy raglenni penodol), mae’n ymddangos fod diffyg ymwybyddiaeth serch hynny o gostau gwirioneddol cloffni, o safbwyntiau economaidd a lles anifeiliaid, yn y diwydiant. Er fod rhywfaint o driniaethau a dulliau gwneud diagnosis newydd yn cael eu datblygu i gynorthwyo ffermwyr i reoli cloffni, mae tystiolaeth yn awgrymu y gall newidiadau syml i amledd a chywirder arsylwadau o gloffni, ynghyd â gwaith rheolaidd i ofalu am garnau, wireddu’r gostyngiad mwyaf yn y nifer o achosion am y buddsoddiad ariannol lleiaf.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth