Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Ebrill 2024

Gellir ystyried tail a slyri yn adnodd gwerthfawr ac yn gynnyrch gwastraff.

Mae sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economïau cylchol yn cynnig cyfle i leihau gwastraff, defnyddio adnoddau mewn modd mwy effeithlon, a gweithredu systemau cynhyrchu mewn modd mwy cynaliadwy.

Mae’r modd y gellir rheoli a defnyddio tail a slyri organig yng Nghymru wedi newid dan y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Gellir sefydlu gwerth tail a slyri mewn amrywiaeth o ffyrdd, a allai gynnwys defnyddio solidau tail wedi’u hailgylchu fel deunydd gorwedd, deunydd crai ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac adennill dŵr.

Un o brif sgil-gynhyrchion systemau cynhyrchu da byw yw gwastraff organig, sef wrin ac ysgarthion. Yn achos anifeiliaid sy’n cael eu magu yn yr awyr agored, mae ysgarthion yn cael eu rhyddhau ar y tir ac yn cael eu diraddio gan ficrobiota ac elfennau’r tywydd. Fodd bynnag, yn achos anifeiliaid sy’n cael eu magu dan do, mae ysgarthion ac wrin yn cael eu rhyddhau mewn amgylcheddau’r siediau ac yn cronni dros amser. O ganlyniad, mae angen rheoli ysgarthion anifeiliaid sy’n cael eu magu dan do, gan olygu bod angen ei symud o siediau’n rheolaidd a’i storio. Gan ddibynnu ar ansawdd a chyfansoddiad yr ysgarthion, gellir ei gategoreiddio naill ai fel tail neu fel slyri. O hyn allan, caiff tail ei ddiffinio fel deunydd organig sy’n cynnwys ysgarthion, wrin a deunydd gorwedd budr, ac mae’n ymddangos yn solid. Caiff slyri ei ddiffinio fel cyfuniad o dail, ysgarthion a dŵr gwastraff, ac mae’n hylifol.

Gellir ystyried tail a slyri organig yn ddeunydd gwastraff ac yn adnodd gwerthfawr. O fewn economi linol, mae tail a slyri yn aml yn cael eu hystyried yn gynnyrch gwastraff. Ond, mewn economïau cylchol, mae tail a slyri yn cael eu hystyried yn ddeunydd crai gwerthfawr y gellir eu defnyddio mewn ystod o wahanol ffyrdd drwy brosesau megis ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer. O ganlyniad, mae sefydlu gwerth tail a slyri yn cynnig cyfle i adfer cyfansoddion oddi mewn iddynt a’u defnyddio mewn prosesau eraill yn y gylchred cynhyrchu. Mae hyn yn fuddiol mewn perthynas â lleihau cyfaint y gwastraff, gwella effeithlonrwydd systemau, ac mae’n ddewis mwy cynaliadwy o’i gymharu â gwaredu gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth am gysyniad economïau llinol a chylchol ar gael mewn erthygl dechnegol flaenorol.

Rheoli Tail a Slyri yng Nghymru

Mae’r ffordd y caiff tail organig a slyri eu rheoli yng Nghymru wedi newid. Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 1 Ebrill 2021 dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 o ran storio a gwasgaru tail organig a slyri ar ffermydd. Nod y ddeddfwriaeth newydd hon yw rhoi rheolau a rheoliadau penodol ar waith i leihau llygredd amaethyddol, lle gall tail a slyri gyfrannu at lygredd amaethyddol yn dilyn colledion maetholion i’r amgylchedd yn ystod y broses o drin, storio a gwasgaru. Un enghraifft o hyn yw colledion  nitrogen a ffosfforws i’r amgylchedd, sy’n gallu cyfrannu at lygredd dŵr. Yn ogystal, mae tail a slyri yn ffynhonnell o allyriadau amonia, sy’n gallu effeithio’n negyddol ar iechyd dynol a da byw, a chyfrannu at ansawdd aer gwael. Yn ogystal, gall amonia hefyd effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd drwy ddyddodiad gwlyb a sych ar y tir, gan gyfrannu at asideiddio priddoedd, ewtroffigedd a cholledion bioamrywiaeth mewn ecosystemau. Mae tail a slyri hefyd yn ffynhonnell o nwyon tŷ gwydr sydd â photensial ar gyfer cynhesu byd-eang. Mae methan a charbon deuocsid yn cael eu cynhyrchu fel sgil-gynhyrchion eplesu deunydd organig mewn tail a slyri yn anaerobig, a gellir cynhyrchu ocsid nitraidd yn dilyn nitreiddiad amoniwm-nitrogen (NH4-N) a dadnitreiddio nitradau (NO3-).

Ers cyhoeddi’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), mae cyfnod pontio graddol o dair blynedd wedi bod er mwyn bodloni’r gofynion, gyda meini prawf penodol angen cael eu cyflawni erbyn pedwar dyddiad allweddol, sef 1 Ebrill 2021, 1 Ionawr 2023, Ionawr 24 - 31 Rhagfyr 2024 ac o 1 Awst 2024. Ceir trosolwg bras o’r rheoliadau a’r dyddiadau gweithredu yma fel y nodwyd gan NFU Cymru. I grynhoi, mae newidiadau i ddeddfwriaeth wedi arwain at ofyniad i gynllunio rheoli maetholion, defnyddio gwrteithiau yn gynaliadwy, defnyddio gwrteithiau yn unol â gofynion cnydau a phorfeydd, diogelu cyrff dŵr a rheoliadau newydd mewn perthynas â safonau storio.

Cyfansoddiad tail a slyri

Mae cyfansoddiad tail a slyri yn cynnwys dŵr, deunydd organig a maetholion megis nitrogen (N), ffosfforws (P), potasiwm (K(potash)), sylffwr (S) a magnesiwm (Mg) (Tabl. 1). Felly, mae adfer y cydrannau hyn drwy ailgylchu ac ailddefnyddio yn cynnig llwybrau posibl er mwyn sefydlu gwerth tail a slyri a’u hintegreiddio mewn economi gylchol. Fodd bynnag, mae cyfansoddiad tail a slyri yn amrywiol ac yn ddibynnol ar ystod o ffactorau megis rhywogaethau da byw, diet da byw, deunydd gorwedd, a’i reolaeth (trin a storio). Felly, wrth ystyried adfer, ailgylchu ac ailddefnyddio’r cyfrannau mewn tail a slyri, mae’n bwysig deall ei gyfansoddiad maethol yn y lle cyntaf.

Bydd deall cyfansoddiad maethol tail a slyri yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau deallus o ran eu rheoli, eu gwasgaru a’u defnyddio, a fydd yn cynorthwyo i hybu effeithlonrwydd. Yn ogystal, wrth ddeall cyfansoddiad maethol tail a slyri ynghyd â’u defnydd, ceir potensial i leihau faint o faetholion sy’n cael eu colli i’r amgylchedd sydd fel arall yn lleihau gwerth tail a slyri fel cynnyrch, ynghyd ag effeithio’n negyddol ar ansawdd aer, dŵr a phridd o ganlyniad i lygredd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwysigrwydd deall cyfansoddiad tail a slyri a’r amrywiaeth o ffyrdd y gellir profi’r maetholion mewn tail a slyri ar ffermydd mewn erthygl dechnegol flaenorol. Bydd gweddill yr erthygl dechnegol hon yn archwilio’r ffyrdd posibl o sefydlu gwerth tail a slyri o fewn economi gylchol.

 

Gwrtaith Organig

Mae defnyddio tail a slyri fel gwrtaith organig yn arfer cyffredin ym maes amaethyddiaeth, lle gellir defnyddio cydrannau oddi mewn iddynt i wella iechyd y pridd a gwella perfformiad porfeydd a chnydau. Gall cyfran deunydd organig tail a slyri wella cynnwys deunydd organig y pridd. Yn ogystal, mae’r gyfran deunydd organig yn ffynhonnell garbon a ellir ei ddefnyddio fel swbstrad gan fiocrobiota'r pridd ar gyfer metaboledd, gan gynorthwyo i ddadelfennu deunydd organig ac arwain at ryddhau maetholion sydd ar gael ar gyfer planhigion. Mae tail a slyri hefyd yn llawn maetholion megis N, P a K sy’n bwysig ar gyfer perfformiad cnydau a phorfeydd. Gall planhigion ddefnyddio nitrogen ar gyfer twf a datblygiad, ac felly maent yn gallu dylanwadu ar gynnyrch ac ansawdd. Mae ffosfforws hefyd yn bwysig ar gyfer twf planhigion ac mae’n rhan o brosesau pwysig sy’n gysylltiedig â metaboledd egni, biosynthesis asidau niwclëig, biosynthesis a sefydlogrwydd pilenni, photosynthesis, glycolysis, resbiradaeth, rheoli ensymatig, adweithiau rhydocs, rhoi signalau, metaboledd carbohydradau, a sefydlogi nitrogen i ryw raddau. Mae potasiwm hefyd yn bwysig ar gyfer twf planhigion, ac mae’n rhan o brosesau megis osmoreolaeth, rheoli potensial pilenni, cyd-gludiant siwgr, addasu i straen, a thwf. Felly, mae hyn yn gwneud tail a slyri yn adnodd gwerthfawr o safbwynt perfformiad porfeydd a chnydau. Yn ogystal, gellir ystyried tail a slyri fel cynnyrch amgen sy’n gallu cymryd lle gwrteithiau synthetig yn llawn neu’n rhannol, gan fod y rhain yn ddrud ac yn cael eu cynhyrchu o adnoddau cyfyngedig. 

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o dail a slyri fel gwrtaith organig, mae’n bwysig eu bod yn cael eu gwasgaru ar yr amser iawn pan mae planhigion yn tyfu, mewn tywydd priodol, ar gyfradd wasgaru briodol a lle bo angen y maetholion. Gall cynlluniau rheoli maetholion helpu i gyflawni hyn, lle mae cynlluniau’n cynnwys gwybodaeth am ddadansoddiad y pridd, gofynion cnydau a’r borfa, cyfansoddiad y gwrtaith organig arfaethedig a lle bo angen gwrteithiau anorganig i wneud iawn am unrhyw ddiffygion. Os bydd tail a slyri yn cael eu gwasgaru ar borfeydd a chnydau lle nad oes unrhyw fudd i berfformiad planhigion, neu pan fo mwy o faetholion yn cael eu darparu nag sydd eu hangen ar blanhigion fel rhan o reoli cyfaint tail a slyri, maent yn cael eu hystyried yn gynnyrch gwastraff. Yn ogystal, gall gor-ddefnyddio tail a slyri fel gwrtaith arwain at golli maetholion i’r amgylchedd drwy brosesau megis erydiad, dŵr ffo, trwytholchi ac anweddiad, gan felly gyfrannu ar ddirywiad o ran ansawdd aer, pridd a dŵr. Felly, mae’n bwysig edrych ar gyfleoedd i sefydlu gwerth i dail a slyri dros ben o fewn systemau amaethyddol. Gallai un opsiwn posibl gynnwys gwerthu tail a slyri dros ben i ffermydd cyfagos nad ydynt yn ei gynhyrchu, neu sefydlu mentrau ar y cyd rhwng ffermydd i gyfnewid tail neu slyri am gynnyrch defnyddiol, er enghraifft cyfnewid tail a slyri gyda ffermydd âr am wellt.

 

Er bod modd ystyried tail a slyri fel gwrtaith organig gwerthfawr i gnydau a phorfeydd, mae rhai heriau’n gysylltiedig â nhw. Mae slyri yn cynnwys llawer o ddŵr sy’n gallu bod yn heriol o safbwynt trin a storio. Yn ogystal, gall cludo slyri i gaeau ar gyfer ei wasgaru fod yn broses gostus, yn enwedig pan fo caeau wedi’u lleoli’n bell oddi wrth storfeydd slyri. Fodd bynnag, ceir technolegau a ellir helpu i oresgyn hyn, gan gynnwys technoleg gwahanu. Mae technoleg gwahanu yn golygu gwahanu cyfansoddion solid a hylifol mewn slyri naill ai drwy ddefnyddio disgyrchiant neu ddulliau peirianyddol. Mae’r solidau sy’n weddill yn cynnwys deunydd sych sydd wedi’i grynodi mewn deunydd organig a ffosfforws y gellir ei storio ar ffermydd mewn tomenni cyn ei wasgaru ar gaeau fel gwrtaith organig. Yn ogystal, mae’r tail sych yn llawer haws i’w drin o’i gymharu â slyri, felly ceir ’’potensial ar gyfer lleihau costau cludiant, yn ogystal â photensial i allu cludo'r tail i leoliadau pellach o’i gymharu â slyri. Mae’r hylif yn cynnwys dŵr a chyfansoddion toddadwy megis deunydd organig a maetholion N a P. Mae’r  hylif yn dal i gael ei gategoreiddio fel slyri, fodd bynnag, mae angen storio llai o gyfaint ar y fferm o’i gymharu â slyri crai. Ceir potensial hefyd i’r hylif gael ei ddefnyddio’n lleol fel gwrtaith organig. Yn ogystal, o ganlyniad i wahanol broffiliau maetholion ffracsiynau solid a hylif y slyri, ceir cyfle i wasgaru gwrtaith mewn modd wedi’i dargedu’n fwy effeithiol o ran maetholion.

Tail sych wedi’i ailgylchu

Ceir potensial i ddefnyddio’r solidau sy’n weddill ar ôl gwahanu’r slyri fel deunydd gorwedd amgen. Gelwir y deunydd gorwedd hwn yn dail sych wedi’i ailgylchu, ond defnyddir enwau eraill yn aml hefyd megis sarn gwyrdd, solidau gwastraff llaeth a solidau tail wedi’u gwahanu. Yn y DU a Chymru, mae’r defnydd o dail sych wedi’i ailgylchu wedi’i gyfyngu i ffermydd llaeth yn unig, a cheir amodau penodol yn amlinellu ei ddefnydd.

Mae tail sych wedi’i ailgylchu yn rhoi gwerth ar ddeunydd organig mewn slyri sy’n bennaf yn cynnwys ffibr nad oes modd ei dreulio. O ganlyniad, gellir ystyried tail sych wedi’i ailgylchu yn ddeunydd gorwedd deniadol oherwydd ei fod yn feddal, heb fod yn sgrafellog, yn gallu newid siâp, ac sy’n cynnwys ychydig iawn o lwch. Mae astudiaethau wedi dangos bod deunydd gorwedd wedi’i greu o dail sych wedi’i ailgylchu yn gallu effeithio’n gadarnhaol ar gysur y fuwch. Fodd bynnag, mae heriau penodol yn gysylltiedig â’i ddefnydd. Gallai heriau o’r fath gynnwys sicrhau cyfansoddiad deunydd sych cyson a digonol, a phryderon am y goblygiadau ar iechyd gwartheg o ran baich pathogenau’r slyri. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd ar gael mewn erthygl dechnegol.

 

Ynni Adnewyddadwy

Gellir defnyddio tail a slyri fel deunydd crai ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn systemau treulio anaerobig. Mae treulio anaerobig yn golygu bod deunydd organig mewn tail a slyri yn cael ei eplesu gan facteria hydrolytig, eplesol, asetogenig a methanogenig. Mae treulio anaerobig yn cynhyrchu bionwy a gweddillion treulio anaerobig.

Mae bionwy yn cynnwys cymysgedd o fethan, carbon deuocsid a nwyon llai amlwg (trace gases). Gellir gwaredu’r carbon deuocsid a’r nwyon llai amlwg i adael biomethan sydd â nodweddion tebyg i nwy naturiol. O ganlyniad, gellir defnyddio biomethan fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan a gwres mewn systemau gwres a phŵer cyfunol neu i'w ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer cerbydau. Yn wir, mae New Holland wedi rhyddhau model o dractor New Holland T6 Methane Power gydag injan nwy naturiol chwe silindr gyda marchnerth (horsepower) o 175 sy’n gallu rhedeg ar fiomethan. 

Mae gweddillion treulio anaerobig yn cynnwys dŵr, nitrogen, ffosfforws, asidau hwmig a deunydd anorganig. Mae nitrogen yn deillio o broteinau nitrogen rhwymedig o fwyd anifeiliaid sy’n cael ei fwyneddio i greu amoniwm-nitrogen, ac mae amonia rhydd a ffosfforws yn deillio o fwyd ac unrhyw ychwanegion anorganig, ac yn bresennol ar ffurf organoffosffad. Mae crynodiadau’n ddibynnol ar ffactorau amrywiol megis math o dda byw, arferion bwydo, dulliau rheoli tail a slyri a’r broses dreulio anaerobig ei hun. O ganlyniad, mae’n bosibl adfer y maetholion o fewn gweddillion treuliad anaerobig a’i ailgylchu fel gwrtaith organig ar gyfer cnydau a phorfeydd. Yn ogystal, mae gweddillion treulio anaerobig yn gallu gweithredu fel cyfrwng tyfu ar gyfer planhigion ac algae penodol sy’n gallu goddef maetholion, wrth iddynt adfer maetholion o’r gweddillion treulio anaerobig a’u defnyddio ar gyfer twf, gan gynhyrchu biomas uchel mewn protein y gellir ei fwydo i dda byw a’i ddefnyddio mewn systemau dyframaeth. Ymhellach, gellir prosesu gweddillion treulio anaerobig unwaith eto drwy ddefnyddio technoleg gwahanu i gynhyrchu ffracsiwn solid a ffracsiwn hylif. Mae’r ffracsiwn solid yn cynnwys deunydd organig a maetholion heb eu treulio, ac mae’r ffracsiwn hylifol yn cynnwys cydrannau toddadwy sy’n cynnwys mwy o faetholion o’i gymharu â’r gyfran solid. Gellir defnyddio ffracsiwn solid o weddillion treulio anaerobig fel addasiad organig. Yn ogystal, ceir potensial i ddefnyddio’r ffracsiwn solid fel deunydd gorwedd ar gyfer da byw, ond ni chaniateir hyn yng Nghymru na’r DU. A gellir defnyddio’r ffracsiwn hylif fel gwrtaith
mwynau-nitrogen.

 

Adfer dŵr

Mae dŵr yn adnodd pwysig mewn systemau amaethyddol, lle caiff ei ddefnyddio gan dda byw ar gyfer yfed, i olchi a glanhau siediau, peiriannau ac ôl-gerbydau, ei ddefnyddio ar gyfer gwanhau ac ar gyfer dyfrhau. Mae slyri’n cynnwys llawer o ddŵr (>90%) ac o ganlyniad, mae modd echdynnu’r dŵr hwn, ei buro a’i ailgylchu neu ei ailddefnyddio o fewn systemau neu ei ryddhau yn ôl i’r amgylchedd gyda thrwyddedau gollwng diogel. Yn ogystal, ceir hefyd potensial i buro gweddillion treulio anaerobig a’r hylif o slyri a gweddillion o’r fath ar ôl defnyddio technoleg gwahanu. Gelwir y broses hon yn adfer dŵr.

Ceir technolegau sy’n cynnig potensial i echdynnu a phuro dŵr mewn slyri. Un enghraifft o hyn yw’r Prosiect Slyri yng Ngholeg Sir Gâr, Cymru. Nod y prosiect hwn yw defnyddio technoleg arloesol i drin slyri crai fel bod modd ei ryddhau’n ddiogel yn ôl i’r amgylchedd. Mae adroddiad terfynol y prosiect yn rhoi manylion datblygiad y fethodoleg a ddefnyddiwyd drwy gydol y prosiect.  Mae’r fethodoleg yn cynnwys gwahanu ffracsiynau solid a hylifol yn y tail drwy ddulliau peirianyddol, prosesu’r ffracsiwn hylifol gan ddefnyddio technegau hidlo ac allgyrchol, a’i drin mewn uned arnofio aer toddedig. Yn ogystal, ceir potensial i’r ffracsiwn hylifol gael ei buro ymhellach o fewn gwelyau cyrs ar ôl cael ei brosesu.

Mae defnyddio planhigion i buro dŵr gwastraff yn dechnoleg werdd a elwir yn ffyto-adferiad. Yn yr achos hwn, defnyddir planhigion i waredu maetholion o ffracsiwn hylifol slyri a gweddillion treulio anaerobig, gan lanhau a phuro’r dŵr. Gellir ystyried y dechnoleg hon yn ddeniadol o safbwynt costau gweithredu isel a chynaliadwyedd. Mae’r planhigyn dyfrol Llinad y Dŵr (Lemna L.) yn enghraifft dda o hyn. Mae Llinad y Dŵr yn blanhigyn dyfrol cynhyrchiol sy’n tyfu’n gyflym ac yn effeithiol ar ddyfroedd yn llawn maetholion. Mae llinad y dŵr wedi dangos potensial i dyfu ar slyri, gweddillion treulio anaerobig ac elifion amaethyddol. Mae’r planhigyn yn gweithredu drwy echdynnu’r maetholion (N a P) o fewn dyfroedd gwastraff a’u trosi yn fiomas. O ganlyniad, mae’r dŵr sy’n weddill yn cael ei buro, a cheir potensial i’w ailddefnyddio o fewn systemau neu ei ryddhau’n ddiogel i’r amgylchedd. Yn ogystal, ceir potensial i roi gwerth ar fiomas llinad y dŵr wrth iddo weithredu fel porthiant uchel mewn protein i dda byw ac mewn systemau dyframaeth neu fel deunydd crai ar gyfer cynhyrchu bio-ynni gan ychwanegu ymhellach at economi gylchol.

 

Crynodeb

Gellir ystyried tail a slyri da byw fel adnodd gwastraff mewn systemau economi linellol. Fodd bynnag, mewn economïau cylchol, gellir ystyried tail a slyri yn adnoddau gwerthfawr. Mae cyfansoddiad tail a slyri yn cynnwys dŵr, deunydd organig a maetholion megis nitrogen, ffosfforws a photasiwm sydd o fudd i berfformiad cnydau a phorfeydd. Felly, gellir ystyried tail a slyri yn wrtaith organig gwerthfawr, a gellir ei ddefnyddio i gymryd lle gwrteithiau synthetig yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Fodd bynnag, os bydd tail a slyri yn cael eu gwasgaru ar borfeydd a chnydau lle nad oes unrhyw fudd i berfformiad planhigion, neu pan fo mwy o faetholion yn cael eu darparu nag sydd eu hangen ar blanhigion fel rhan o reoli cyfaint tail a slyri, maent yn cael eu hystyried yn gynnyrch gwastraff. Yn ogystal, gall gor-ddefnyddio tail a slyri fel gwrtaith arwain at golli maetholion i’r amgylchedd drwy brosesau megis erydiad, dŵr ffo, trwytholchi ac anweddiad, gan felly gyfrannu at ddirywiad o ran ansawdd aer, pridd a dŵr. O ganlyniad, mae heriau’n wynebu ffermydd sy’n cynhyrchu llawer o slyri a thail sy’n uwch na’r hyn sydd ei angen gan blanhigion. Felly, mae’n bwysig edrych ar gyfleoedd i roi gwerth i dail a slyri dros ben o fewn systemau amaethyddol a’u hintegreiddio mewn economi gylchol. Mae rhai o’r ffyrdd y gellir cyflawni hyn yn cynnwys defnyddio technoleg gwahanu i greu cynnyrch solid a chynnyrch hylifol ar gyfer gwasgaru maetholion mewn modd sydd wedi’i dargedu’n fwy effeithiol. Defnyddio cyfran solid mewn slyri fel gwasarn ar gyfer da byw. Defnyddio tail a slyri fel deunydd crai ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Defnyddio slyri a gweddillion treulio anaerobig ar gyfer adfer dŵr mewn prosesau megis ffyto-adferiad. Fodd bynnag, mae angen ystyried y costau sy’n gysylltiedig â phrosesau o’r fath o safbwynt costau cyfalaf, enillion ar fuddsoddiad, costau rhedeg, gwasanaethu a chynnal a chadw.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol