Mae Gillian Williams yn gwybod popeth am ddefaid! Wedi ei magu ar fferm ddefaid 22,000 erw, mae bridio, cneifio a gwneud arian o ddefaid yn dod yn naturiol i’r ffermwr defaid a gafodd ei geni ar Ynysoedd Falkland ond sydd bellach yn byw ar y fferm deuluol ger Tywyn. 

Ond wrth geisio rhoi’r holl brofiad a’r wybodaeth ar waith a ffermio defaid yn gynaliadwy yng Nghymru, lle mae’r hinsawdd a’r dopograffeg mor wahanol, roedd Gillian yn teimlo bod ganddi lawer mwy i ddysgu. 

Mae hi’n ddiolchgar i raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio am ei chyflwyno i syniadau newydd ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o wlân y ddiadell o 250 o famogiaid croes Romney Marsh/Mynydd Cymreig yn bennaf, y dechreuodd y pâr ei fridio dair blynedd yn ôl, ar ôl prynu hyrddod Romney.  

I ddarllen hanes Gillian yn llawn ac i ddarganfod mwy am Agrisgôp, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Farms - Wonderful places BUT dangerous play grounds
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
EIP Wales - Uchafbwyntiau - 26/05/2023
Rhwng mis Mai 2017 a mis Mawrth 2023, ariannodd EIP yng Nghymru
Rhithdaith Ryngwladol - Gorchudd Coedwigaeth Parhaus - 17/03/2023
Mae’r Coedwigwr a Fentor Cyswllt Ffermio, Phil Morgan, yn rhannu