18 Awst 2021

 

Mae Gillian Williams yn gwybod popeth am ddefaid! Mae bridio, cneifio a gwneud arian o ddefaid yn dod yn naturiol i’r ffermwr defaid a gafodd ei geni ar Ynysoedd Falkland ond sydd bellach yn byw ar y fferm deuluol ger Tywyn. 

Ond wrth geisio rhoi’r holl brofiad a’r wybodaeth ar waith a ffermio defaid yn gynaliadwy yng Nghymru, lle mae’r hinsawdd a’r dopograffeg mor wahanol, roedd Gillian yn teimlo bod ganddi lawer mwy i ddysgu. Mae hi’n ddiolchgar i raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio am ei chyflwyno i syniadau newydd ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o wlân y ddiadell o 250 o famogiaid croes Romney Marsh/Mynydd Cymreig yn bennaf, y dechreuodd y pâr ei fridio dair blynedd yn ôl, ar ôl prynu hyrddod Romney.  

“Rydyn ni wedi symud i ffwrdd o gadw diadell o ddefaid Mynydd Cymreig yn bennaf i’r hyn rydw i’n eu galw’n ddefaid ‘deubwrpas’ – hynny yw, mae’r cnu yn cael ei ystyried yr un mor werthfawr â’r cig oen Cymreig. 

“Mae pethau’n mynd yn dda hyd yma ac mae’r defaid croes yn ymdopi’n dda â thywydd Cymru, heb effeithio ar ansawdd a chyflwr y cnu gwlân main sy’n nodweddiadol o’r defaid Romney; hefyd, mae gennym brynwyr sy’n barod i dalu pris teg.”

Mae Gillian yn briod â John, cneifiwr contract sy’n bartner yn y fferm deuluol ger Rhoslefain, ac mae’r ddau yn rhentu fferm tua 300 erw yn y pentref nesaf. Cyfarfu’r ddau yn 1999 pan oedd John yn cneifio ar fferm ddefaid adnabyddus brawd Gillian ar Ynysoedd Falkland. Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn 2008, ac ar ôl blynyddoedd lawer o deithio rhwng Cymru ac Ynysoedd Falkland – roedd y pâr ifanc yn arfer gweithio mewn gangiau yn dilyn y tymhorau cneifio defaid – gwnaethon nhw briodi a dychwelyd i Gymru i adeiladu tŷ ar fferm y teulu. Mae’r gweddill yn hanes ac mae eu dau fab wedi tyfu i fyny yng Nghymru, ac yn siarad Cymraeg fel eu tad a’u neiniau a theidiau. 

“Does dim syndod fy mod i wedi dod yn ffermwr defaid,” meddai Gillian a gafodd ei magu ar fferm ddefaid 22,000 erw ar Ynysoedd Falkland. Erbyn hyn mae ei brawd wedi ehangu’r busnes i greu fferm enfawr 50,000 erw ac mae’r cnu a gynhyrchir yn flynyddol o’r ddiadell o tua 10,000 o ddefaid Merino yn ffynhonnell incwm allweddol. 

“Y gwahaniaeth rhwng ffermio defaid yng Nghymru ac Ynysoedd y Falkland, ac Ynys Tasmania lle es i’r coleg amaethyddol, yw maint y diadelloedd – mae miloedd o ddefaid i bob fferm yn arferol draw yna – a hefyd yr amodau hinsawdd gwahanol iawn sy’n rhoi llawer llai o law a llawer mwy o wynt, gan ychwanegu llawer at ansawdd arbennig gwlân main y defaid Merino.

“Mae fy mrawd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr ar gael yr elw gorau o gnu Merino ac er ei fod yn gwerthu rhywfaint o gig i’r lladd-dy lleol, mae’n gweithredu mewn marchnad wahanol iawn i’r un yng Nghymru. 

“Mae gwlân gorau fy mrawd yn cael ei werthu’n bennaf i’r Weriniaeth Tsiec a’r Eidal, drwy warws Falklands Wool Growers yn Bradford, a hynny am bris da, ond yng Nghymru, mae cig oen Cymreig yn cael ei ystyried fel y cynnyrch gorau ac mae’r cnu sydd fel arfer yn frâs, ac yn ddelfrydol ar gyfer ein tywydd gwlyb, bron yn ddiwerth.”

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ffermwyr Cymreig wedi gorfod dinistrio’r cnu,  y mae’n rhaid eu cneifio’n flynyddol am resymau yn ymwneud â lles anifeiliaid, yn hytrach na gwario mwy ar eu paratoi ar gyfer eu marchnata na’r 30 neu 40 ceiniog y cnu sef y gyfradd bresennol yn aml iawn.  

Mae Gillian, a arferai weithio fel uwch weinyddydd yng ngweinyddiaeth amaeth Ynysoedd Falkland, bellach wedi cyfuno ei sgiliau ffermio a busnes â’i sgiliau ymarferol i greu eitemau crefft bach o wlân Cymreig. Gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i werthu ei dewis eang o gynnyrch cartref ffelt bychan a rygiau o dan yr enw ‘Welsh Woolshed’ yn ogystal â chnu cyfan i grefftwyr eraill ar draws y DU, mae Gillian wedi sefydlu busnes proffidiol.  

Dechreuodd taith Gillian gydag Agrisgôp ar ddechrau 2019 pan gynigiodd yr arweinydd lleol Jess Williams, hwyluso grŵp ‘gwlân Cymreig’ arbenigol ar gyfer Gillian a John ynghyd â nifer o gymdogion o’r un anian.

Yn ystod trafodaethau gonest ac agored y grŵp am yr heriau o gadw gwerth defaid ar gyfer cig a gwlân, sylweddolodd Jess yn fuan fod yr aelodau yn awyddus i gyfarfod unigolion a fyddai’n gallu sôn wrthynt am y costau o fewnforio defaid neu embryonau a’r marchnadoedd posibl ar gyfer bridiau a fyddai’n gwneud yn dda yng Nghymru ac yn cynnig yr elw gorau o ran cig oen, cig dafad a chnu gwlân.  

Trefnodd Jess ymweliadau â sawl ffermwr yn y Deyrnas Unedig sydd wedi canolbwyntio ar fridiau niferus ac sy’n adnabyddus am ansawdd eu cnu, gan gynnwys un ffermwr sy’n mewnforio defaid ac embryonau Merino o Awstralia. 

“Fe wnes i hefyd drefnu cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain a gwahanol sefydliadau sy’n prynu gwlân yn y DU, er mwyn i’r grŵp gael safbwynt diduedd a chyffredinol o’r holl brosesau yn y gadwyn gyflenwi, y bioddiogelwch, rheolau a rheoliadau yn ogystal â’r costau a’r ymrwymiad amser,” meddai Jess.   

“Aethon nhw i ymweld â chwmni Haworth Scouring yn Bradford, lle cawson nhw eu rhyfeddu i weld y cnu yn dod i mewn o’r warysau casglu, gan sylwi sut roedden nhw’n cael eu sgwrio a’u cribo ar raddfa ddiwydiannol a dysgu pa fathau o wlân a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnyrch gwahanol, o ddillad hardd i garpedi a matresi moethus.” 

Yn ôl Gillian, heb yr ymchwil a’r cysylltiadau a wnaeth drwy grŵp Agrisgôp Jess, byddai hi wedi bod yn ddall i’r dulliau gorau o fuddsoddi ei harian yn ddoeth er mwyn datblygu ei diwydiant cartref presennol yn rhywbeth mwy proffidiol.

“Cefais fy ysbrydoli’n fawr gan ein hymweliad â fferm Lesley Prior, ffermwr defaid adnabyddus yn ne Lloegr sy’n cadw defaid Merino i gynhyrchu’r gwlân drutaf yn y Deyrnas Unedig. Yna aethon ni i Fernhill Farms i gyfarfod yr ysgolhaig o Nuffield Jennifer Hunter a’i phartner, pencampwr cneifio â llafn, sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus iawn yn ychwanegu gwerth i’r gwlân arbenigol mae hi’n ei baratoi, ei raddio a’i werthu’n broffidiol o nifer o fridiau. 

“Gan fod pris gwlân yn dibynnu’n llwyr ar frid y ddafad, diolch i’r cymorth ac arweiniad a ariennir yn llawn a gafwyd gan Agrisgôp, rwy’n credu fy mod i’n symud y busnes gwlân ymlaen mewn cyfeiriad mwy cynaliadwy ac mae’r teulu cyfan yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn llawn cyffro, ” meddai Gillian.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Prosiect garddwriaeth y cyfnod clo yn blodeuo’n fenter casglu eich hun lwyddiannus
25 Mai 2022 Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect teuluol yn y
Mae rheolwr Folly Farm, Kim Brickell, bob amser yn troi at Cyswllt Ffermio pan mae hi eisiau dysgu sgil newydd!
16 Mai 2022 “Mae ffermio yn ddiwydiant blaengar sy'n symud yn
Ffermwyr defaid llaeth Cymru yn gwneud y mwyaf o gymorth Cyswllt Ffermio
12 Mai 2022 Nid yw dyfodiad defaid godro fel un o fentrau ffermio