04 Medi 2024

 

Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio wedi galluogi perchnogion fferm ym Mhowys i gymryd cam yn ôl o’r busnes, a chyfle i newydd-ddyfodiaid adeiladu cyfalaf yn y diwydiant.

Mae Dai a Liz Williams wedi ffermio yn Alltmawr Isaf, fferm sydd â 260-erw ger 
Llanfair-ym-Muallt ar hyd eu bywyd gwaith.

A hwythau bellach yn eu saithdegau a heb unrhyw olynwyr, roeddent yn awyddus i gael rôl lai corfforol ym musnes ffermio o ddydd i ddydd ond nid oeddent am ymddeol yn llwyr.

Ffurfio menter ar y cyd gyda Dewi Jones, mab fferm 24 oed o Erwyd, sydd wedi darparu'r ateb hwnnw.

Ar ôl astudio amaeth yng Ngholeg Walford, roedd Dewi wedi gweithio ar ffermydd gan gynnwys Alltmawr Isaf, yn wyna ac yn cneifio'r ddiadell o ddefaid Penfrith Beulah.

Daeth y teulu Williams i adnabod Dewi dros y ddwy flynedd nesaf. “Roedden ni'n gallu gweld ei fod yn ddyn ifanc mentrus ac y gallai menter ar y cyd fod yn gam nesaf naturiol,'' mae Liz yn cofio.

Fe wnaethon nhw ofyn am gymorth gan fenter Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio i helpu gyda’r broses honno.

Roedd yn rhaglen yr oedd Dewi eisoes yn gyfarwydd â hi. “Roedd gen i ffrindiau a oedd mewn mentrau ar y cyd ar ôl mynd trwy'r broses honno,'' meddai.

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio i baru tirfeddianwyr sy'n bwriadu camu'n ôl o'r diwydiant gyda newydd-ddyfodiaid ac mae'n cynnig cyllid ar gyfer cynllunio busnes a chanllawiau cyfreithiol.

Dywedodd Liz fod eu mewnbwn yn amhrisiadwy. “Fydden ni ddim yn gwybod lle i ddechrau,'' mae'n cyfaddef. “Roedd yn annog pawb dan sylw i drafod yr hyn roedden nhw ei eisiau o gytundeb ac i ddod o hyd i un a oedd yn gweithio i bawb.''

Sefydlwyd cytundeb ffermio contract ym mis Ebrill 2024, am gyfnod o dair blynedd i ddechrau.

Gyda'i gilydd, mae Dewi a'r teulu Williams yn cryfhau'r gwaith ffermio, gan gynnwys canolbwyntio ar nodweddion cynhyrchiant yn y ddiadell o ddefaid.

Mae'r fferm yn cynnal 680 o famogiaid, Penfrith Beulah yn bennaf ond gyda rhywfaint o ddefaid croesfrid a Miwl.

Mae Dewi hefyd wedi gallu dod â’i ddiadell ei hun o 40 o Cheviots i Alltmawr Isaf, diadell a gychwynnodd yn fachgen ifanc.

Mae ffurfio menter ar y cyd wedi rhoi mwy o sicrwydd i Dai a Liz ar gyfeiriad eu busnes i’r dyfodol ac mae’n rhoi boddhad mawr iddynt wrth wylio Dewi yn rhoi rhai o’i syniadau ei hun ar waith.

“Mae ganddo lygad da iawn am ddefaid ac mae bob amser yn mynd gam ymhellach, nid yw byth yn gadael unrhyw dasg heb ei gorffen,” meddai Dai.

Mae Dewi yn ddiolchgar am y cyfle i gael troed i mewn yn y diwydiant.

“Mae menter ar y cyd yn rhoi dechrau da iawn i chi, mae'n gymhelliant gwych i barhau i wneud gwelliannau oherwydd mae er budd pawb i'r fferm wneud yn dda,” meddai.

Mae gan Cyswllt Ffermio nifer o gyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd ar eu tudalen we Dechrau Ffermio a gallant ddarparu cyngor cynllunio busnes a chyfreithiol i sefydlu menter ar y cyd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio
Modiwlau e-ddysgu am ddim yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar fferm deuluol
27 Awst 2024 Mae bioamrywiaeth yn ganolog i ddull Peter a Cathryn