Mae Iorwerth Williams o gyfrifwyr Dunn & Ellis yn darparu cyngor ac awgrymiadau ar sut i edrych ar yr ochr ariannol o’ch busnes ffermio.
Yn ystod y weminar mae Iorwerth yn trafod y canlynol:
- Y pwysigrwydd o edrych ar y fferm fel busnes yn hytrach na fel ffordd o fyw
- Sut i ddadansoddi’r cyfrifon yr ydych yn eu derbyn gan eich cyfrifydd
- Sut i gadw cofnodion ar wahân o’ch costau cynhyrchu defaid/gwartheg
- Meddwl ddwywaith cyn prynu peiriant newydd - cymharu’r pris gyda thâl contractiwr a gweld pa un yw’r gorau
- Beth fyddai’r goblygiadau ariannol o ffermio cyfran / rhentu tir o’u gymharu â chadw anifeiliaid eich hun