Dyma weminar addysgiadol ar y farchnad goedwigaeth a phren yng Nghymru.
Mae Iwan Parry, cadeirydd IFC yng Nghymru yn cyflwyno trosolwg o’r cyflenwad a’r galw am bren yng Nghymru a thueddiadau prisiau perthnasol.
Mae'r pynciau isod dan sylw:
- Dadansoddiad o’r galw am fiomas i foncyffion
- Pris pren.
- Effaith ffactorau allanol o fewn y farchnad fyd-eang a’r ddibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio
- Beth yw’r gallu i ddefnyddio pren a dyfir gartref?
- Rhagolwg o'r hyn y gallwn ei ddisgwyl o’r galw yn y dyfodol a'r cyfleoedd ar gyfer busnesau fferm.
Dyma gyfle gwych i ddarganfod a dysgu am strwythur marchnata o fewn y sector coedwigaeth a'r cyfleoedd ar gyfer busnesau fferm.