Cynhaliwyd gweminar awr o hyd gan Cyswllt Ffermio gyda’r ymgynghorydd defaid annibynnol, Lesley Stubbings a John Richards, Hybu Cig Cymru. Mae gan y ddau siaradwr brofiad a dealltwriaeth helaeth o’r sector defaid, ac yn ystod y weminar, fe wnaethant ganolbwyntio ar besgi ŵyn.
Mae’r marchnadoedd ar gyfer ŵyn ar gyfer 2021 yn parhau’n ansicr ac mae sicrhau bod ŵyn yn cael eu pesgi’n effeithlon dros y misoedd nesaf yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed.
Trafododd Lesley:
- Risgiau a phrisiau amrywiol
- Prif ffactorau sy’n arwain proffidioldeb ar gyfer pesgi ŵyn dros y gaeaf, gan gynnwys;
- Costau
- Ansawdd bwyd
- Ffactorau iechyd
- Geneteg
Trafododd John:
- Tueddiadau cyffredinol o ran prisiau ŵyn
- Gwerthiannau allforio
- Effaith COVID-19 ar werthiannau
- Prisiau ŵyn - edrych tua’r dyfodol