Siaradwyr: Keith Owen, KeBek, Ymgynghorydd Amgylcheddol a Richard Evans, Llywodraeth Cymru
Mae'r weminar hon yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun grant cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru.
Cafodd pwysigrwydd a manteision isadeiledd eu trafod yn ystod y weminar.
Nod y cynllun yw cefnogi gwelliannau mewn rheoli maethynnau ar y fferm trwy wella’r seilwaith presennol.
Bydd y cynllun yn cefnogi adeiladu to dros ardaloedd bwydo anifeiliaid, mannau casglu anifeiliaid, mannau storio tail, storfeydd slyri a storfeydd silwair sydd eisoes yn bodoli, nad oedd wedi’u gorchuddio’n flaenorol. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi rhai eitemau eilradd, gan gynnwys nwyddau dŵr glaw ar gyfer adeiladau presennol, systemau casglu a hidlo dŵr glaw a thechnoleg dadansoddi slyri.
I fod yn gymwys, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth (yn ystod y cam hawlio) bod trosiant y busnes yn £1.0m neu lai.