Cynhaliwyd gweminar gan Cyswllt Ffermio i ddarganfod cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar gyfer busnesau fferm. Cyflwynodd yr Athro, Davy MacCracken, SRUC a Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio wybodaeth am:
- Opsiwn grantiau bach Glastir
- Yr aml fuddion a'r enillion wrth weithredu opsiynau Glastir i fusnes y fferm
- Sut mae coed yn ymwneud â nwyddau cyhoeddus a phreifat ym musnes y fferm?
- Pwysigrwydd coed a gwrychoedd i’r fferm fel rhan o’r hafaliad i dargedu lleihau allyriadau carbon.
Rhoddodd y cyflwyniadau gyfle i gwestiynu a thrafod y budd all coed ei gynnig, eu gwerth a'r cyfleoedd y gallant eu cynnig i wella perfformiad amgylcheddol ac economaidd y fferm.