Siaradwyr: Rhodri Jones, Agri Advisor a Matthew Jackson, ffermwr sy’n rhedeg menter ar y cyd
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mentrau ffermio ar y cyd, mae’r weminar hon yn addas i chi. Ymunwch â Cyswllt Ffermio, Rhodri Jones o gwmni Agri Advisor a Matthew Jackson, ffermwr sy’n rhedeg menter ar y cyd, am gymorth ac arweiniad ar sut i ddechrau ar eich taith o redeg menter ar y cyd.
Mae Rhodri Jones yn trafod gwahanol strwythurau y gellir eu sefydlu ar gyfer mentrau ar y cyd a sut mae’r partneriaethau hyn yn gweithio. Mae hefyd yn trafod y berthynas ddynamig o ran taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol, strategaeth ymadael a materion ymarferol eraill.
Mae Matthew Jackson yn trafod ei lwybr i’r diwydiant amaeth o gefndir nad oedd yn ymwneud â ffermio. Mae'n rhannu cyngor ac arweiniad ynglŷn â sut y bu iddo ddechrau ar ei daith drwy wahanol drefniadau menter ar y cyd cyn bod mewn sefyllfa yn y pen draw i gynnig cyfle i eraill gamu i mewn i’r diwydiant.
Mae yna wybodaeth ynglŷn â rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio a’r camau nesaf hefyd ar gael.