Ymunwch â Cyswllt Ffermio a Sara Pedersen, arbenigwraig mewn iechyd a cynhyrchiant gwartheg mewn gweminar sy’n canolbwyntio ar iechyd gwartheg llaeth. Mae’n cael ei gydnabod bod traed iach yn arwain at well lefelau o gynhyrchiant, ond er mwyn gwneud gwahaniaeth mae angen sicrhau eich bod ar y trywydd cywir.
Yn ystod y weminar, mae Sara yn trafod:
- Costau yn sgil cloffni
- Prif resymau dros gloffni
- Targedu ymyrraeth i’r problemau ar eich fferm chi
- Triniaeth - sicrhau eich bod yn cael y canlyniad cywir