Bydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans yn lawnsio rhaglen ddatblygu personol clodfawr Cyswllt Ffermio, sef yr Academi Amaeth, yn ystod brecwast fferm flynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar y 26ain o Ionawr. 

Mae’r Academi Amaeth, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, gyda bron i 80 o gyn-aelodau, yn dod â’r bobl fwyaf addawol yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ynghyd, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr, ac mae'r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig datblygiad busnes a phersonol i gynorthwyo i ymateb i'r her o ffermio yn y dyfodol. Croesewir pobl ifanc rhwng 16-19 mlwydd oed sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau bwyd a ffermio hefyd i ymgeisio ar gyfer Academi’r Ifanc, a gynhelir mewn partneriaeth â CFFI Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, “Mae’r Academi Amaeth eisoes wedi ennill ei blwyf wrth arwain y ffordd i lwyddiant ym myd busnes i’w gyn-aelodau, gyda nifer ohonynt yn rhoi clod i’r rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad am eu llwyddiant presennol a’u cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”

Cymerodd Rhidian Glyn, 30, sy’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf, ran yn y rhaglen Busnes ac Arloesedd yn 2013, ac roedd yr Academi Amaeth yn allweddol wrth ei gynorthwyo i sicrhau tenantiaeth fusnes ar ei fferm ei hun.

Meddai Rhidian: "Rhoddodd yr Academi Amaeth yr hyder a’r hunangred i mi fy mod yn gallu llwyddo. Fe wnaethom gynllun busnes fer ar gyfer astudiaeth achos a fu'n bendant o gymorth wrth i mi wneud cais tendr ar gyfer fy nhenantiaeth fy hun."

Yn ogystal â chadw 900 o ddefaid yn Rhiw Griafol, ger Machynlleth, mae Rhidian hefyd yn magu heffrod llaeth ar gontract, o ganlyniad uniongyrchol i'r Academi Amaeth.

 “Rwy’n magu heffrod ar ran un o aelodau eraill yr Academi Amaeth, a fu'n rhan o'r un rhaglen â mi, felly bu'r rhwydweithio'n bendant o werth ac fe roddodd gysylltiadau da i mi gyda phobl na fydden i wedi'u cyfarfod neu'n gwybod amdanynt fel arall," ychwanegodd.

Magwyd Joy Cornock, 29, ar y fferm 600 erw deuluol, Cefn y Dre, ger Abergwaun, lle mae ei rhieni, ei brawd a'i chwaer yng nghyfraith yn cadw buches o 300 o wartheg llaeth Friesian, 240 o wartheg bîff, a 350 o ddefaid Suffolk a miwl croes.

Mae Joy, sy’n soprano nodedig, yn delynores ac yn gynhyrchydd teledu llawrydd, yn dal i gael amser i gynnig help llaw gyda'r gwaith ar ei fferm deuluol, ac mae'n dweud ei bod hi'r un mor gartrefol ar lwyfan neu'n gweithio o flaen camera ag ydyw pan ddaw ei thro hi ar gyfer dyletswyddau godro cynnar yn eu parlwr godro herringbone32:32. 

Mae Joy yn dweud fod cael ei dewis fel ymgeisydd ar gyfer y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn 2013 wedi rhoi cyfle unigryw iddi gwrdd ag unigolion uchelgeisiol o'r un anian sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant amaeth yng Nghymru.  

 “Cefais fy ysbrydoli gan fy mhrofiad Academi Amaeth mewn sawl ffordd.  Fe wnes i gymaint o gysylltiadau gwych, ac rwy’n dal i gadw cysylltiad â nhw, ac mae wedi bod yn gam gwerthfawr iawn o ran datblygu fy ngyrfa a'm gwybodaeth o'r diwydiant yng Nghymru ac yn Ewrop."

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus eleni, fydd yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr amaethyddol, yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a seminarau heriol dros dri phenwythnos preswyl, gan gynnwys taith astudio tramor ar gyfer y rhaglenni hŷn.

Bydd pob un o aelodau'r Academi eleni yn cael ei gwahodd i seremoni a digwyddiad rhwydweithio yn Ffair Aeaf, Sioe Frenhinol Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 1af o Ebrill 2016. Am fwy o fanylion, meini prawf ac i lawr lwytho ffurflenni cais, ewch i Dudalen yr Academi Amaeth


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y