Mae 6 fferm wedi bod yn darparu data wythnosol ynglŷn â thwf glaswellt ar eu ffermydd a'r penderfyniadau rheolaeth a wnaed ganddynt fel rhan o Brosiect Porfa Cyswllt Ffermio. Nod y prosiect yw amlygu manteision posib mesur glaswellt ar systemau ffermio amrywiol ac i gynnig adnodd sy'n dangos twf glaswellt yn wythnosol mewn amser real ar uchderau gwahanol ac mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Gellir edrych ar ddata ffermydd unigol trwy glicio ar y map rhyngweithiol sy’n dangos y gyfradd twf dyddiol (KgDM/Ha/Dydd) a gorchudd y fferm ar gyfartaledd (KgDM/Ha). Mae’r graff isod yn dangos twf glaswellt ar gyfartaledd ar y 6 fferm yn fisol. Er bod ambell debygrwydd yn y patrymau a'r tueddiadau, mae'r graff yn amlygu'r amrediad o ran twf rhwng ffermydd ar gyfer yr un cyfnod.

Gall gwybod cyfraddau twf a gorchudd glaswellt eich fferm fod o gymorth wrth wneud penderfyniadau. Bydd cofnod o dwf y flwyddyn flaenorol hefyd yn cynnig cipolwg defnyddiol i gynnyrch silwair glaswellt posib, cyfraddau stocio neu le i dargedu unrhyw welliannau i'r gwndwn.

Bob blwyddyn mae pob ffrynt tywydd yn dod â her wahanol ar gyfer rheoli twf glaswelltir a doedd 2016 yn ddim gwahanol. Ar y cyfan mae twf glaswellt wedi bod yn dda ar draws Cymru. Dilynwyd y dechreuad oer i’r flwyddyn gyda chyfnod o dwf dyddiol sydyn ac er bod y gorchudd yno i'w bori'n fuan yn y tymor, nid oedd yr amodau ar y ddaear yn caniatáu pori effeithiol neu byddai'r caeau'n cael eu niweidio. Mae’n hanfodol bod porfa’r gwanwyn yn cael ei bori’n dda’n gynnar yn y tymor fel ei fod yn gosod cynsail ar gyfer twf gweddill y tymor.

 

prosiect porfa

 

 

Bala

Roedd effaith rhaglen ail hadu drwyddi draw’n ddiweddar yn amlwg ar y safle yn y Bala gan fod y fferm wedi sicrhau rhai o gyfraddau twf uchaf y prosiect (101 KgDM/Ha/Dydd) er gwaetha’r ffaith ei fod yn un o’r safleoedd uchaf ar y prosiect (640tr). Cafodd hyd y cylchdroadau pori eu lleihau i 18 diwrnod pan oedd y twf ar ei uchaf.

 

Llanrwst

Ar uchder o 940tr, nid oedd y gwndwn yn tyfu yn ystod misoedd Chwefror hyd Ebrill, ond gwelwyd  ychydig o dwf ym mis Mai ac uchafbwynt o 45.6 KgDM/Ha/Dydd ar ddechrau Mehefin. Fel y rhan fwyaf o ffermydd defaid gyda thopograffeg debyg, defnyddiodd y safle yn Llanrwst ychydig o Nitrogen (20 Kg/Ha N) dros ddau gyfnod o wasgaru.

 

Llandeilo

Ar uchder o 66tr, llwyddodd y safle yn Llandeilo i sicrhau’r gorchudd uchaf ym mis Medi gydag ychydig dros 2300 KgDM/Ha yn ystod ail wythnos mis Hydref. Mae angen rheoli gorchudd uchel yn yr hydref yn ofalus wrth gynllunio ar gyfer porfeydd y gwanwyn canlynol. Cymerwyd toriad silwair hwyr ar ddechrau mis Hydref.

 

Hwlffordd

Cofnodwyd twf dyddiol uchaf y prosiect yn 2016 ar y safle yn Hwlffordd yn ystod trydedd wythnos mis Mai. Gwnaed rhai penderfyniadau pwysig yn ystod yr wythnosau i ddilyn gan gynnwys torri rhai padogau cyn pori a lleihad yng nghyfnod cylchdro’r gwndwn i gynnal ansawdd a threuliadwyedd.

 

Caernarfon

Roedd y gorchudd ar ei uchaf yn ystod wythnos gyntaf mis Mai (2844 Kg/DM/Ha) gydag uchafbwynt o ran tyfiant ychydig dros 100 Kg/DM/Ha/Diwrnod yn ystod canol mis Ebrill. Roedd y safle’n enghraifft dda i sut y bu i dyfiant glaswellt yng Nghymru dyfu’n sydyn o ychydig o Kg/DM/Ha/Dydd yn unig i dyfiant eang o fewn cyfnod byr.

 

Pwllheli

Roedd gorchudd y glaswellt eisoes dros 2300 KgDM/Ha ar ddechrau’r cyfnod mesur. Roedd lefel isel y tir a’r tymheredd uwch yn golygu mai safle Pwllheli oedd y fferm a dyfodd gynharaf yn ystod y prosiect gyda 16.1/Ha/Dydd ar gyfer mis Mawrth. Gwelwyd lleihad yn y twf dyddiol tua diwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf i 46 KgDM/Ha/Dydd gan arwain at benderfyniadau ynglŷn â darparu bwyd ychwanegol i’r gwartheg.  

 

Mae’r mesur ar gyfer 2016 bellach wedi dod i ben a bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn dechrau mesur glaswellt o ddifrif unwaith eto yn y gwanwyn. Ni fydd unrhyw ddata newydd yn cael ei ychwanegu at y wefan nes fis Chwefror nesaf. Bydd ffermydd newydd yn cymryd rhan yn y prosiect yn y gwanwyn gan ychwanegu at yr amrediad o leoliadau a systemau a fydd yn eich galluogi i feincnodi eich cyfraddau twf eich hunain yn erbyn y ffermydd sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Mae mesur y gorchudd glaswellt ar y dechrau (dwysedd glaswellt ar ddechrau’r flwyddyn) yn hanfodol yn ogystal â monitro tymheredd pridd a chyflwr  y tir cyn penderfynu ar ddefnyddio unrhyw wrtaith er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o faethynnau.

Am fwy o fanylion neu er mwyn cymryd rhan yn y prosiect yn ystod y gwanwyn nesaf, cysylltwch â Rhys Davies ar 07985379880

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd
Mae ffermwr ucheldir yn cynyddu ei incwm o werthiannau ŵyn drwy gofnodi perfformiad ei ddiadell gaeedig o famogiaid Mynydd Cymreig.
10 Gorffenaf 2024 O fewn pum mlynedd, mae pwysau cyfartalog yr