A yw eich busnes fferm yn cyflawni ei botensial? A oes gennych chi'r amser, yr egni a'r adnoddau i sicrhau ei fod yn gryf, yn gynaliadwy ac yn broffidiol wrth i'r diwydiant symud tuag at gyfnod ansicr yn economaidd? Os ddim, mae’n bosibl y byddech yn dymuno mynychu un o weithdai Mentro Cyswllt Ffermio. Mae’r rhaglen Mentro eisoes wedi denu dros 170 o ymgeiswyr ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2015, a gydag ymgyrch recriwtio newydd dros yr hydref a fydd yn debygol o gynyddu'r niferoedd ymhellach, gallai nawr fod yn gyfle gwych i ddarganfod eich partner busnes!

Os ydych chi’n dirfeddiannwr neu'n ffermwr yng Nghymru a’ch bod yn ystyried gadael y diwydiant neu gymryd cam yn ôl mewn unrhyw ffordd, a allech chi fod yn un o ‘ddarparwyr' rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio?

Neu efallai eich bod yn un o’r nifer o unigolion medrus hynny sy’n wybodus iawn am ffermio ond yn methu â chael cyfle i gamu i’r diwydiant, neu ennill bywoliaeth ddigonol ohono? Os felly, a allech chi fod yn un o ‘geiswyr’ y rhaglen Mentro?

Erbyn hyn mae nifer o unigolion neu grwpiau wedi paru ledled Cymru sydd eisoes yn rhedeg busnesau llwyddiannus iawn gyda’i gilydd, yn llawer mwy proffidiol na chyn iddynt ddod ynghyd. Mae llawer mwy yn gweithio gyda’u hymgynghorydd dewisol a chyfreithiwr gwledig arbenigol i ymchwilio i botensial menter ar y cyd o’r newydd.

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o chwe gweithdy rhanbarthol sy’n dechrau ar ddiwedd mis Medi, i ddod â thirfeddianwyr a ffermwyr sy’n dymuno gadael neu gymryd cam yn ôl o'r diwydiant a'r rhai hynny sy'n ceisio cael y cyfle cyntaf hwnnw neu'n dymuno edrych ar drefniant ffermio cyfran neu gyfleoedd menter ar y cyd at ei gilydd.

“Byddem yn annog yr holl 'ddarparwyr' a 'cheiswyr' posibl i archebu lle yn un o'n gweithdai, lle bydd cyfle i chi ddysgu am y camau allweddol i'w cymryd wrth sefydlu menter ar y cyd, i benderfynu a yw’n llwybr addas i chi, ac yn fwy na hynny, i gwrdd â phartneriaid busnes posibl o’ch ardal chi,” meddai Einir Davies, rheolwr mentora a datblygu gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru. 

“Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar eich cynorthwyo i bwyso a mesur eich asedau a’ch sgiliau a’ch cynorthwyo i adnabod unrhyw heriau neu gyfleoedd penodol. Bydd siaradwyr arbenigol yn egluro sut all Mentro eich cynorthwyo i ganfod y pâr cywir, trwy ganfod y cyfuniad cywir o dir, pobl, sgiliau a nodau cytûn, sy’n sylfaen hanfodol ar gyfer pob menter ar y cyd.

Bydd y gweithdai hefyd yn darparu cyfle i ddarganfod mwy am raglen Cyswllt Ffermio a'r gwasanaethau a gynigir, cyn i'r cyflwyniadau pwysig gael eu gwneud a chyn dechrau ar y trafodaethau cychwynnol. Cliciwch yma am fanylion dyddiadau a lleoliadau.   

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda Mentro ac yn mynychu gweithdy, bydd Cyswllt Ffermio yn gallu darparu cefnogaeth wedi’i deilwra i’r ddwy ochr trwy amrywiaeth o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ynghyd â gwasanaethau cynghori a mentora cyfrinachol, gyda llawer ohonynt yn cael eu hariannu’n llawn neu hyd at 80%.

Bydd gweithdai’r hydref yn dechrau am 6.00yh ac yn gorffen am 9.30yh.

  • Dydd Mawrth 26 Medi - Gwesty’r Brecon Castle, Sgwâr y Castell, Aberhonddu, Powys, LD3 9DB
  • Dydd Mercher 27 Medi - Canolfan Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, Powys SY21 8SR
  • Dydd Mawrth 3 Hydref - Llety Cynin, Heol Llangynin, Sanclêr, Sir Gâr, SA33 4JR
  • Dydd Mercher 4 Hydref - Gwesty’r Feathers, Sgwâr Alban, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0AQ
  • Dydd Mawrth 10 Hydref - Gwesty’r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon LL55 1AY
  • Dydd Mercher 11 - Marchnad Da Byw Rhuthun, Parc Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1PB

Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw trwy gysylltu â Gwen Davies ar 01745 770039 neu gwen.davies@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi llawlyfr Mentro newydd. I hawlio eich copi, cysylltwch â Gwen Davies gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites