Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi atgyfnerthu ei hymrwymiad i amddiffyn da byw yng Nghymru rhag y Tafod Glas, sef clefyd firaol difrifol, gyda mesurau rheoli clefyd newydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf. Hyd yma, mae Cymru wedi llwyddo i atal y Tafod Glas (BTV-3) rhag lledaenu’n lleol ac mae’n parhau i fod yn rhydd o BTV-3.
Gan gydnabod bod Lloegr Gyfan yn Barth Dan Gyfyngiadau o 1 Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mesurau diweddaraf ar symud anifeiliaid ar waith i ddiogelu da byw Cymru.
Er mwyn sicrhau bod busnesau fferm yng Nghymru yn wybodus am y clefyd hwn, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal gweminar ddydd Llun 30 Mehefin am 7:30pm. I gofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio, neu cofrestrwch ar-lein drwy wasgu yma.
Mae’r tafod glas yn glefyd firaol hysbysadwy sy’n effeithio ar ddefaid, gwartheg, geifr, ceirw, alpaca a lama a gall arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd a lles anifeiliaid ac incwm y fferm, gan achosi salwch, marwolaeth, erthylu a nam geni, ochr yn ochr â chyfyngiadau sylweddol ar symud anifeiliaid a heriau masnach. Mae’n cael ei ledaenu’n bennaf gan wybed sy’n brathu sydd fwyaf actif yn ystod y misoedd cynhesach rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd. Gall y clefyd hefyd ledaenu drwy symud anifeiliaid sydd wedi’u heintio. Mae brechlynnau i amddiffyn da byw rhag effeithiau gwaethaf y Tafod Glas ar gael ac fe anogir ffermwyr i drafod â’u milfeddyg p’un a ydynt yn addas i’w buchesi a’u diadelloedd.
Nodiadau i Olygyddion
Newidiadau Allweddol i Symudiadau Da Byw o Barth Dan Gyfyngiadau Lloegr Gyfan i Gymru:
- O 20 Mehefin 2025: Bydd angen prawf cyn symud negyddol ar gyfer symud da byw i Gymru o'r Parth Dan Gyfyngiadau.
- O 1 Orffennaf 2025: Rhaid symud da byw i'w lladd o'r Parth Dan Gyfyngiadau yn uniongyrchol i ladd-dai dynodedig yn unig.
Mae’r amserlenni hyn wedi’u cynllunio i roi digon o amser i fusnesau baratoi ac addasu i’r gofynion newydd.
Canllawiau i Ffermwyr a Cheidwaid Da Byw yng Nghymru:
Mae brechu’n adnodd allweddol ar gyfer rheoli effaith BTV-3 ar dda byw yng Nghymru. Mae gwyliadwriaeth a bioddiogelwch cryf yn parhau i fod yn hollbwysig. Anogir pob ceidwad da byw yng Nghymru i:
- Fod yn wyliadwrus iawn am unrhyw arwyddion o salwch ymhlith eu hanifeiliaid
- Ystyried yn gryf i frechu anifeiliaid sydd mewn perygl
- Ymarfer hylendid a bioddiogelwch rhagorol ar eu ffermydd
- Trafod unrhyw bryderon gyda’u milfeddyg preifat
- Dod o hyd i dda byw yn gyfrifol, gan sicrhau eu statws iechyd
- Rhoi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith am unrhyw amheuaeth o glefyd y Tafod Glas, drwy ffonio 0300 303 8268
Lladd-dai dynodedig ar gyfer Symudiadau i Ladd-dy (o 1 Gorffennaf):
- Dunbia, Llanybydder
- Euro Farms Wales, Hwlffordd
- Farmers Fresh, Wrecsam
- Pilgrims UK Lamb, Llanidloes
- Kepak/St Merryn, Merthyr Tudful
Nid yw’n hysbys bod y Tafod Glas yn effeithio ar bobl ac nid yw’n peri unrhyw risg i gynnyrch llaeth na chig. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob ceidwad da byw i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy wirio’r canllawiau swyddogol diweddaraf yn rheolaidd.