01 Hydref 2025

Beth am wella lles anifeiliaid ac effeithlonrwydd eich fferm a pharatoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda phum modiwl e-ddysgu newydd gan Cyswllt Ffermio.

Bydd cwblhau modiwlau dysgu ar-lein newydd Cyswllt Ffermio ar Les Anifeiliaid o dymor yr haf 2025 yn cyflawni'r gofyniad hyfforddiant hyfedredd ar gyfer y Weithred Gyffredinol ar Iechyd a Lles Anifeiliaid am y pum mlynedd nesaf. Bydd cwblhau’r modiwl cyn i’r cynllun gael ei lansio yn 2026 yn ffordd ragweithiol o baratoi a bydd yn eich rhyddhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill unwaith y bydd y cynllun ar waith.

Mae'r modiwlau newydd hyn wedi'u cynllunio i ddarparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer arferion ffermio modern, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchiant a chynaliadwyedd:

•    Sgorio symudedd gwartheg bîff ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Mae'r hyfforddiant hwn yn cyflwyno gwerth sgorio symudedd, gan amlinellu arferion gorau a'r gofynion gofynnol ar gyfer Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

•    Sgorio symudedd gwartheg llaeth ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Mae'r hyfforddiant hwn yn trafod sgorio symudedd, gan egluro arferion gorau a’r gofynion gofynnol ar gyfer Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

•    Sgorio symudedd defaid ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Byddwch yn cael dealltwriaeth ymarferol o symudedd defaid i wella lles y ddiadell a chefnogi nodau cynaliadwyedd eich fferm. Mae hyn hefyd yn cwmpasu'r gofynion gofynnol ar gyfer Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

•    Sgorio cyflwr corff defaid (BCS) ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Modiwl hanfodol i bob ffermwr defaid. Mae'r cwrs hwn yn eich dysgu sut i asesu cyflwr corff yn gywir i sicrhau effeithlonrwydd porthiant, ffrwythlondeb ac iechyd gorau posibl y ddiadell. Mae hyn hefyd yn cwmpasu'r gofynion gofynnol ar gyfer Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

•    Sgorio cyflwr corff gwartheg ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Dysgwch y technegau hanfodol ar gyfer sgorio cyflwr corff gwartheg i reoli maeth, gwella effeithlonrwydd atgenhedlu, a sicrhau lles eich buches. Mae hyn hefyd yn cwmpasu'r gofynion gofynnol ar gyfer Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r modiwlau hyn yn adnodd ardderchog i unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a sicrhau bod eu fferm yn barod ar gyfer y dyfodol.

'Mae'r modiwlau hyn yn mynd i'r afael â dau o'r ffynonellau mwyaf arwyddocaol o ran perygl i les ar ffermydd yng Nghymru, sef cloffni a maeth gwael. Bydd y modiwlau'n eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o iechyd a chyflwr eich da byw, a pha arwyddion allweddol i edrych amdanynt sy'n dangos y gallai fod angen ymyrraeth. Bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn eich helpu i leihau'r risg o glefyd, gwella cynhyrchiant eich da byw a gwella lles. Mae hefyd yn helpu i ddangos eich ymrwymiad i safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel i brosesyddion yn y gadwyn gyflenwi bwyd.' Swyddfa Gyffredin y Prif Swyddog Milfeddygol.

Os ydych chi'n berchennog busnes neu'n bartner ac yn cwblhau'r hyfforddiant hwn ar ôl i'r cynllun lansio yn 2026, gall y ddwy awr gyfrif tuag at eich chwe awr ofynnol o DPP y flwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd yr hyfforddiant yn cyfrif tuag at y gofyniad hwn os ydych chi'n weithiwr ac nid ydych yn berchennog busnes, partner na chyfarwyddwr.

Bydd pob modiwl e-ddysgu a gwblheir yn cael ei gofnodi ar gofnod DPP 'Storfa Sgiliau' y defnyddiwr ynghyd â 'thystysgrif cwblhau' Gwobrau Lantra.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol i gael rhagor o wybodaeth.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn