30 Ebrill 2025

Mae Anna Bowen wedi'i phenodi'n arweinydd newydd Rhaglen Hŷn yr Academi Amaeth 2025!

Ochr yn ochr â'i gwaith llawrydd, mae Anna yn gweithio fel ymgynghorydd busnes fferm i The Andersons Centre. Mae hefyd yn rheoli buches laeth â 300 o wartheg yng Ngheredigion sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn. Er mai llaeth yw ei harbenigedd, mae ganddi brofiad helaeth mewn gwahanol feysydd ac mae'n edrych ymlaen at allu rhannu arferion da o sectorau eraill gyda rhaglen yr Academi Amaeth. Cyn hynny, mae hi wedi gweithio mewn cwmni cynnyrch ffres, gan fasnachu ym marchnadoedd Llundain trwy fewnforwyr yn Rotterdam a thyfwyr yn y DU, y sector cig coch fel genetegydd bîff a defaid i Signet Breeding Services i enwi ond ychydig.

Mae ei llwyddiant wrth adeiladu a rheoli ei menter laeth ‘Menter ar y Cyd’ ffyniannus yn tanio ei brwdfrydedd ymhellach dros gefnogi datblygiad pobl eraill yn y diwydiant. Mae Anna wedi llwyddo i adeiladu'r busnes o'r sylfaen ac wedi gallu goresgyn heriau ac ennill gwytnwch busnes y mae hi'n awyddus i'w rannu trwy'r rhaglen wedi'i theilwra.

Mae rhai o gyflawniadau mwy diweddar Anna yn cynnwys ennill Menyw y Flwyddyn yn y Diwydiant Llaeth RABDF yn 2024, yn ogystal â dod yn ymddiriedolwr ar gyfer Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield yn 2023. Trwy ysgoloriaeth Nuffield, cafodd gyfle i deithio i 11 gwlad a chasglu syniadau arloesol o bob cwr o'r byd. Mae'r profiadau hyn wedi cryfhau ymhellach gysylltiadau helaeth Anna o fewn y diwydiant amaethyddol yn y DU ac yn rhyngwladol, sef cysylltiadau y mae'n hyderus a fydd yn cefnogi ymgeiswyr llwyddiannus ymhellach.

"Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn rhan allweddol o fy ngyrfa ymgynghori," dywed Anna, sy'n frwdfrydig am ddechrau ei rôl lawrydd wrth gyflwyno'r rhaglen. A hithau’n credu'n gryf mewn 'Rheoli'r hyn y gellir ei reoli,' mae Anna yn awyddus i rannu strategaethau effeithiol ar gyfer llywio heriau busnes yn llwyddiannus i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, yn ogystal â dod â siaradwyr blaenllaw'r diwydiant i ysbrydoli a herio fel rhan o'i rhaglen.

Mae Anna yn rhagweld profiad cadarnhaol a chydweithredol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus. Ei nod yw meithrin amgylchedd cefnogol lle gall aelodau’r academi ddysgu gan ei gilydd ac elwa o gyfleoedd i deithio dramor a chael mewnwelediadau o arferion amaethyddol rhyngwladol. "Rwy'n awyddus i gysylltu pobl, hwyluso rhannu syniadau ar draws gwahanol sectorau, ac edrych ar gyfleoedd busnes cyffrous gyda'n gilydd," dywed Anna.

Mae ceisiadau Academi Amaeth 2025 (y Rhaglen Hŷn ac Academi’r Ifanc, 16-21) yn cau ar 20 Mai 2025. Gwnewch gais nawr am fentora, hyfforddiant, rhwydweithio, a thwf gyrfa! Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i gael gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd, gwybodaeth am yr hyn y mae'r rhaglen yn ei gynnwys eleni, ac i wneud cais! 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr da byw yn llwyddo i dyfu mwy gan ddefnyddio llai o wrtaith diolch i agronomeg
15 Mai 2025 Mae ffermwr o Gymru sy’n cynhyrchu cig eidion a chig
Gosod safonau uchel… ffermwr o Faesyfed yn cyflawni nodau gydol oes diolch i gymorth Cyswllt Ffermio
13 Mai 2025 Mae’r ffermwr trydedd genhedlaeth, John Goodwin o
Dyddiad i’w nodi: Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i dyfwyr a ffermwyr yng Ngŵyl y Gwanwyn
12 Mai 2025 Dyddiad i’w nodi: Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i