Yn y Ffair Aeaf heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, ddwy fenter bwysig, ar gael drwy'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, fydd yn cefnogi'r math o newid trawsnewidiol fydd yn cynorthwyo i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru am ddiwydiant amaeth gynaliadwy a phroffidiol yng Nghymru.

Yng nghwmni rhanddeiliaid, ffermwyr a choedwigwyr yn adeilad Lantra ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, lansiodd y Dirprwy Weinidog raglen 'Buddsoddi mewn sgiliau a mentora', rhaglen dysgu a datblygu gydol oes newydd Cyswllt Ffermio. Mae hyn yn dilyn lansiad y rhaglen 'Datblygu eich Busnes' yn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin fis Hydref, gan gynrychioli ail ran darparu gwasanaethau o fewn rhaglen newydd Cyswllt Ffermio. 

Bydd y pecyn sgiliau newydd hwn yn canolbwyntio’n gryf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ac e-ddysgu yn ogystal â chynnig cyrsiau hyfforddiant cymorthdaledig mewn amrywiaeth eang o bynciau a sgiliau ymarferol fydd yn cael eu darparu gan Lantra.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog “Rydw i eisiau i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant i sylweddoli bod datblygiad personol a busnes o'r math sydd bellach ar gael drwy'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn eu busnesau, a gallai chwarae rôl allweddol mewn diogelu eu twf a'u llwyddiant at y dyfodol.”

“Mae croesawu syniadau newydd ac arloesedd a manteisio ar gyfleoedd newydd yn hanfodol os yw busnesau am fod yn fwy proffidiol a chynaliadwy. Bydd y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn cefnogi'r diwydiant bob cam o'r ffordd os yw'n cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol,"

Datgelodd y Dirprwy Weinidog hefyd gynlluniau ar gyfer menter flaengar a elwir yn 'Mentro' fydd hefyd ar gael drwy Cyswllt Ffermio. 

Meddai: “Rydw i’n falch iawn i gyhoeddi’r gwasanaeth newydd hwn, sydd yn seiliedig ar un o’r argymhellion allweddol yn adroddiad Malcolm Thomas ar Ddenu’r Genhedlaeth Nesaf o Ffermwyr, a gomisiynwyd gennyf y llynedd, a oedd yn nodi’r angen i sefydlu Platfform Cyfleoedd ar y Cyd newydd i gefnogi cyfleoedd busnes newydd.

Wedi’i ddarparu gan Menter a Busnes ar ran Cyswllt Ffermio, bydd y gwasanaeth newydd hwn sydd wedi’i deilwra yn adnabod ac yn paru tirfeddianwyr profiadol sy’n dymuno cychwyn trefniant ffermio cytundeb neu gyfran gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am lwybr i mewn i'r diwydiant. Bydd yn cydweddu'r rhai sy’n dymuno cychwyn ar drefniant menter ar y cyd ac yn ystyried cysondeb rhwng y ddwy ochr ynglŷn ag amrywiaeth o ffactorau pwysig.

“Bydd cefnogaeth wedi’i deilwra yn cael ei ddarparu i’r ddwy ochr trwy amrywiaeth o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r mater o gydweddu'r rhai sy'n dymuno lleihau eu rôl o ran trefn ffermio o ddydd i ddydd, gyda'r rhai ar y pegwn arall sy’n dymuno cymryd eu camau cyntaf yn y diwydiant.

“Rwyf yn ddiolchgar i Malcolm am ei holl waith ac yn falch bod un o'i argymhellion pwysicaf yn nhyb nifer bellach yn gonglfaen ar gyfer y ddarpariaeth Cyswllt Ffermio newydd."

Mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn galluogi ffermwyr sydd wedi cofrestru - bydd angen i'r rhai a gofrestrodd gyda’r hen raglen ail-gofrestru - i fanteisio ar yr amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau a digwyddiadau i gefnogi datblygiad diwydiant modern, proffesiynol, proffidiol a chadarn.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y