23 Hydref 2020

 

Yr wythnos hon, mae Cyswllt Ffermio’n dechrau ar ymgyrch newydd i annog busnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru i ofyn am y cyngor sydd arnynt ei angen nawr, er mwyn bod yn barod i fanteisio ar dros £11.5 miliwn o gyllid grant Llywodraeth Cymru a fydd ar gael i’r economi wledig dros y misoedd nesaf o dan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy a’r cynllun newydd, Grant Busnes i Ffermydd - Cynllun Gorchuddio Iardiau.

Mae'r cynllun Grant Busnes i Ffermydd  - Y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn gynllun grant cyfalaf, a fydd yn cefnogi gwelliannau ym mhob agwedd ar reoli maetholion trwy gryfhau'r isadeiledd presennol ar y fferm. 

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu pob elfen o'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, fod ffermwyr yn gallu cael gafael ar gyngor Cynllunio Busnes ac Isadeiledd trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

“Mae’n bwysig gofyn am gyngor annibynnol arbenigol nawr, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o’r gwelliannau sydd eu hangen ar eich busnes cyn gwneud cais am gyllid grant,” meddai Mrs Williams.

Trwy’r Gwasanaeth Cynghori, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyllid o hyd at 80% tuag at gost cyngor un i un ar y fferm, sydd ar gael gan nifer o gynghorwyr cymeradwy, wedi’u lleoli ledled Cymru. 

Bydd y cynllun Grant Busnes i Ffermydd - Y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn cefnogi’r gwaith o osod to ar unrhyw ardaloedd bwydo da byw presennol, ardaloedd casglu anifeiliaid, storfeydd tail, a storfeydd slyri a storfeydd silwair presennol. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi rhai eitemau eilaidd, gan gynnwys nwyddau dŵr glaw ar gyfer adeiladau presennol, systemau cynaeafu dŵr glaw a phecynnau dadansoddi slyri. 

Bydd y cynllun yn seiliedig ar y model Grant Busnes i Ffermydd presennol ond gyda gofyniad ychwanegol i gyflwyno lluniau gyda thagiau daearyddol o’r ardaloedd cyn ac ar ôl y gwaith fel rhan o’r broses ymgeisio a hawlio. Bydd canllawiau manwl yn ymwneud â’r cymorth grant a’r meini prawf cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru’n fuan.

Nid oes gofyniad erbyn hyn i ddarparu tystiolaeth o fynychu digwyddiad ymwybyddiaeth strategol Cyswllt Ffermio cyn ymgeisio am gyllid. Ond bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal gweminar ar-lein ar 4 Tachwedd, lle bydd yr ymgynghorydd amgylcheddol, Keith Owen, cyfarwyddwr cwmni ymgynghorol blaenllaw Kebek Ltd, sy’n un o gynghorwyr cymeradwy Cyswllt Ffermio ar isadeiledd fferm, yn ymuno â Richard Evans, Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y cynlluniau newydd.  

“Gallai cais grant llwyddiannus gynnig cyfle gwych i chi, i’ch busnes ac ar gyfer proffesiynoli a moderneiddio’r diwydiant ffermio a choedwigaeth yng Nghymru at y dyfodol,” meddai Mrs Williams.

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gofynnir i ffermwyr gysylltu â'u swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000813

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o