Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru’n cael eu hannog i sefydlu rhwydwaith o sefydliadau cynhyrchwyr (DPO) ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu eu grym negodi.
Ond fe rybuddiwyd cynhyrchwyr a ddaeth ynghyd yn Aberystwyth yn ddiweddar ar gyfer uwch-gynhadledd arbennig nad ateb tymor byr i brisiau llaeth isel yw Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth.
Fel sy’n nodweddiadol rhwng cynhyrchwr a phrynwr llaeth, nid yw cytundebau rhwng Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth cyfredol a phroseswyr yn cynnwys prisiau llaeth. Mae’n rhaid negodi prisiau ar wahân rhwng y ddwy ochr yn rheolaidd, sydd fel arfer yn cael ei egluro mewn canllaw sydd wedi’i atodi i’r cytundeb.
Mae’r hwb i annog cynhyrchwyr llaeth yng Nghymru i ffurfio Sefydliad Cynhyrchwyr Llaeth sy’n gysylltiedig i’w prynwr eu hunain yn cael ei arwain gan sefydliad o’r enw DPO Cymru, sef grŵp o ffermwr sy’n cyflenwi sawl proseswr ar draws Cymru.
Roedd Aled Jones, aelod o’r grŵp, sydd hefyd yn gadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, un credu mai dyma’r amser gorau i ffermwyr weithredu, pan fo cyflenwad llaeth yn brin. Cafodd y grŵp eu cefnogi a’u hwyluso gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio, a buont hefyd yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid gan AHDB Llaeth i gomisiynu adroddiad yn edrych ar ddichonolrwydd sefydlu sefydliadau DPO yng Nghymru.
“Ffermwyr eu hunain sy’n gallu gwneud sefydliadau cynhyrchwyr yn realiti ac mae’n ddibynnol ar yr unigolyn i gael y dewrder a’r brwdfrydedd i achosi newid,” pwysleisiodd.
“Ar ôl mynd trwy gyfnod mor argyfyngus yn ystod y 18 mis diwethaf, mae sefydliadau cynhyrchwyr yn cynnig cyfle i ffermwyr greu dyfodol mwy sefydlog. A ydyn ni’n barod i newid, neu a ydym am dderbyn yr hyn sydd i ddod?”
Cwestiynau
Rhoddodd y cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth gan Cyswllt Ffermio, gyfle i ffermwyr holi Rory Christie, cadeirydd DPO Lactalis o Stranraer, a Steve Bone, cadeirydd DPO Dairy Crest Direct.
Rhybuddiodd Mr Christie na fyddai DPO yn gallu gwaredu natur gyfnewidiol prisiau.
“Byddwch yn dal i gael eich synnu gan brisiau gan fod popeth yn gysylltiedig â marchnadoedd menyn a phowdwr, ac nid oes modd camu i ffwrdd o hynny.”
“Ond gall DPO gynnig sefydlogrwydd rhwng y cyfnodau brig a chafn.”
"Gall DPO sy’n gweithio’n dda gynhyrchu gwerth ychwanegol ar gyfer holl bartneriaid y gadwyn, o’r ffermwr i’r proseswr hyd at yr adwerthwr."
“Mae sefydliad cynhyrchwr yn ymwneud â llawer mwy na phris yn unig. Mae’n ymwneud â thelerau ac amodau, a’r pŵer negodi i sicrhau’r pris gorau posib y gall eich prynwr ei dalu.”
Trwy gasglu adnoddau ynghyd, gallai ffermwr fforddio talu am well cyngor cyfreithiol i ddadansoddi cytundebau nag y byddent yn gallu ei wneud yn unigol.
“Os bydd telerau’r cytundeb yn wael, gall DPO negodi ar gyfer newid,” meddai Mr Bone.
Bydd cyfarfodydd rhanbarthol nawr yn cael eu cynnal ledled Cymru i roi cyngor i ffermwyr ynglŷn â sut allant ffurfio Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth gyda’u prynwyr eu hunain.