12 Ebrill 2019

 

 

rheolir oen syn tyfu managing the growing lamb 0

Bydd cyfle i gynhyrchwyr ŵyn dderbyn cyngor ymarferol gan arbenigwr defaid blaengar yn ymwneud â rheoli ŵyn sy’n tyfu yn ystod cyfres o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio a gynhelir ledled Cymru ym mis Ebrill a Mai.

Bydd yr ymgynghorydd annibynnol, John Vipond, yn arwain trafodaeth ar ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar gynhyrchiant, o reoli’r borfa’n effeithiol i reoli llyngyr.

Dywedodd Mr Vipond for y digwyddiadau ‘Rheoli’r Oen sy’n Tyfu’ yn dod ar gyfnod hollbwysig ar gyfer cynhyrchiant ŵyn.

“Mae diffyg incwm o ganlyniad i newid i gymorthdaliadau’n ffocysu’r meddwl,” meddai. “Pan fo hynny’n digwydd ynghyd â gostyngiad sylweddol mewn prisiau ŵyn, mae’n amser gwneud cynlluniau.’’

Mae nifer y dyddiau hyd lladd yn cyfrannu 45% tuag ar broffidioldeb busnes a bydd Mr Vipond yn canolbwyntio ar rai o’r prif flaenoriaethau technegol allweddol sy’n sylfaen i hynny, gan gynnwys rheoli ansawdd y borfa a chyfateb y galw am laswellt gyda’r hyn sydd ar gael.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ym Marchnad Da Byw Y Trallwng ar 29 Ebrill am 9.30yb.

 

Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:

Dyddiad

Amser

Lleoliad

29/04/19

09:30 - 11:00

Marchnad Da Byw Y Trallwng, Y Trallwng, Powys, SY21 8SR

30/04/19

14:00 - 16:00

Cae'r Ffynnon, Dyffryn Ardudwy, Harlech, Gwynedd LL44 2HZ

01/05/19

14:00 - 16:00

Castellior, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, ynys Môn LL59 5RR

02/05/19

10:30 - 13:00

Hendrephillip, Tregaron, Ceredigion SY25 6QB

02/05/19

17:30 - 19:30

Gludy Isaf, Aberhonddu, Powys, LD3 9PE

03/05/19

11:00 - 13:00

Fferm Bryntail, Rhydyfelin, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5LJ

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o