27 Awst 2020
Gall pwysau’r ddafad pan gaiff ei throi at yr hwrdd gael dylanwad pwysig ar gyfraddau beichiogi mewn ŵyn benyw, yn ôl astudiaeth ar fferm yng Nghymru.
Mae David Lewis yn bridio o'i ŵyn benyw i wella effeithlonrwydd ei ddiadell – mae'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr defaid yng Nghymru yn cadw ŵyn benyw am flwyddyn i'w bridio fel hesbinod ond mae hyn yn golygu colli 12 mis o incwm.
Fodd bynnag, mae angen cydbwyso hyn â chyfradd ffrwythlondeb ac epiligarwch is yr anifeiliaid hyn o’u cymharu â mamogiaid aeddfed oherwydd cyfraddau ofyliad is a mwy o embryonau’n marw.
Mae Mr Lewis, sy'n ffermio yn Halghton Hall ger Bangor Is-coed, yn gobeithio cynyddu cyfraddau beichiogi trwy ddechrau prosiect yn ei rôl fel ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio er mwyn canfod y pwysau a'r cyflwr gorau ar gyfer hyn.
Yn y blynyddoedd a fu, y gyfradd llwyddiant o ran beichiogrwydd ŵyn benyw oedd 60% ar gyfartaledd, ond mae'n anelu at gynyddu hyn i 85% yn ystod y prosiect tair blynedd.
Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosibl yn nhymor ŵyna 2020 gan fod angen iddo orffen ŵyna'n gynnar, felly dim ond am un cylch y rhoddwyd yr hwrdd gyda'r ŵyn benyw, yn hytrach na'r ddau arferol.
Arweiniodd hyn at gyfradd feichiogi o 57% ond yr hyn a ddangosodd yr astudiaeth oedd patrwm pendant gyda’r anifeiliaid trymach yn perfformio’n well.
Ar gyfer yr arbrawf, rhannwyd yr ŵyn yn dri grŵp pwysau ar wahân - o dan 41kg, 41 – 45kg a dros 45kg, ond rhoddwyd yr hwrdd gyda’r holl grwpiau heb eu rhannu.
Gyda chanran sganio o 98% a chyfradd genhedlu o 76%, yr anifeiliaid trymach a berfformiodd orau o'r holl grwpiau.
Canran sganio’r grŵp 41-45kg oedd 62% a’r gyfradd feichiogi oedd 49%. Canran sganio’r grŵp ysgafnaf oedd 44% a’r gyfradd feichiogi oedd 39%.
Dywedodd Kate Phillips, yr arbenigwr defaid annibynnol, a osododd y dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y prosiect Cyswllt Ffermio, y byddai ŵyn benyw oedd wedi methu â chyrraedd pwysau targed o 45kg wrth gael eu troi at yr hwrdd wedi cyfrannu at y cyfraddau beichiogi is.
Dywedodd fod angen i ŵyn benyw fod wedi tyfu'n dda er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd oed aeddfedrwydd - 60-70% o bwysau eu corff aeddfed – felly mae'n argymell dewis yr ŵyn cryfaf, efallai o blith efeilliaid sydd wedi'u tyfu'n dda.
Rhaid i'r ŵyn hyn fagu 200-250g y dydd hyd at chwe wythnos ar ôl eu troi at yr hwrdd.
"Mae angen iddyn nhw fod yn tyfu ar gyflymder ŵyn pesgi, naill ai ar gnydau gwraidd neu borfa o ansawdd da,” dywed Mrs Phillips.
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael swm rhesymol o borthiant o'u blaenau, allwch chi ddim eu gadael ar lechwedd neu ar borfa wael.”
Mae'n bwysig sganio ar ôl wyth i ddeg wythnos ar ôl eu troi at yr hwrdd, i weld pa anifeiliaid sy'n cario mwy nag un oen, ond dylai ffermwyr hefyd ddisgwyl canran uwch o rai gweigion mewn grŵp o ŵyn benyw.
"Yn realistig, fyddech chi ddim yn disgwyl i fwy na 80% fod yn feichiog ond efallai llai na hynny os mai dim ond am un cylch maen nhw gyda'r hwrdd,” medd Mrs Phillips.
Bydd y data o dymor hwrdda 2019 yn Halghton Hall yn cael ei ddefnyddio fel meincnod i adeiladu arno ar gyfer y rhaglen fridio nesaf ym mis Hydref.
Er mai gan yr ŵyn benyw trymach oedd y cyfraddau beichiogi gorau, dywed Mr Lewis fod yna resymau pam nad y rhain yw'r rhai gorau ar gyfer cyfnewid y ddiadell ar gyfer y dyfodol o reidrwydd.
Mae'r ŵyn trymach yn tueddu i fod yn ŵyn sengl ac felly efallai nad ydynt mor epilgar, awgryma.
"Mae oen sengl yn dueddol o gael ŵyn sengl bob tro mae hi’n ŵyna, felly mae'n rhaid i hynny gael ei ystyried ar gyfer epilgarwch ein diadell. '
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.