Bydd Cyswllt Ffermio yn hyrwyddo manteision datblygiad busnes strategol ac yn arddangos nifer o syniadau a mentrau newydd sydd eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ffermwyr a choedwigwyr ledled Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (Gorffennaf 18 - 21).

Cefnogaeth ar gyfer perchnogion coetir...

Yn ogystal â’r presenoldeb arferol yn adeilad Lantra (Rhodfa K), bydd Cyswllt Ffermio yn hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer busnesau coedwigaeth, gan gynnwys cyngor busnes a thechnegol sydd ar gael fel rhan o'r Gwasanaeth Cynghori.

Eglurodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig ym Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, y byddai Cyswllt Ffermio hefyd yn rhannu stondin gyda Coed Cymru, Confor a Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnig sesiynau galw heibio rhwng 10yb -12yp dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, gyda sesiwn terfynol ar yr un amser yn adeilad Lantra ar y dydd Iau.

“Bydd swyddog technegol coetir Cyswllt Ffermio, Geraint Jones, wrth law drwy gydol y sioe, yn mynychu'r diwrnod coedwigaeth ar y stondin Confor dydd Mawrth, Gorffennaf 19, a bydd hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth panel agored rhwng 12 a 2yp.                                                   

…a garddwriaethwyr

Bydd gwybodaeth ar gael hefyd am yr ystod eang o wasanaethau Cyswllt Ffermio sydd ar gael i arddwriaethwyr yn y Sioe Flodau (Rhodfa A).

Grwpiau Trafod Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio yn awyddus i recriwtio aelodau Grwpiau Trafod newydd, a fydd yn cael eu cefnogi gan swyddogion datblygu lleol i gasglu a chofnodi data ffisegol ac ariannol yn ymwneud â’u busnesau, gyda’r nod o feincnodi eu perfformiad i arwain effeithlonrwydd o fewn y busnes. Galwch heibio i Adeilad Lantra yn ystod y sioe am fanylion pellach.

Llwyddiannau Agrisgôp - cyfleoedd newydd yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni’n cynnig cyfle hyrwyddo arbennig ar gyfer dau grŵp Agrisgôp sy’n ffynnu.  O ganlyniad i gefnogaeth gan Agrisgôp, rhaglen datblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio sy’n dod â grwpiau o unigolion o’r un anian ynghyd, mae grŵp o gynhyrchwyr Cig Oen Cymreig o Ogledd Cymru yn datblygu detholiad o gynnyrch Cig Oen Cymreig PGI. Byddant yn dod â'r cynnyrch i’r sioe ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher i gasglu ymchwil i’r farchnad, felly sicrhewch eich bod yn galw heibio i flasu’r cynnyrch ar Stondin 66 a 67 yn y Neuadd Fwyd.

Yn ogystal, mae grŵp Agrisgôp sy’n cynnwys ffermwyr llaeth o ledled Cymru sydd wedi derbyn nawdd annibynnol, wedi comisiynu adroddiad yn ddiweddar ar ddichonolrwydd a hyfywedd strwythurau Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth yng Nghymru fel modd o atgyfnerthu a gwella'r gadwyn gyflenwi ‘o’r fferm i’r siop’.  Maent wedi cyhoeddi eu hargymhellion mewn taflen ffeithiau newydd a gallwch gasglu copi gan Cyswllt Ffermio yn Adeilad Lantra. 

Fforwm Lab Amaeth - arwain y ffordd ar gyfer arloesedd a thechnoleg

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn bresennol mewn lleoliad ychwanegol eleni ar y balconi uwch ben y corlannau defaid - arddangosfa'r Lab Amaeth.  Mae’r fenter newydd hon, a lansiwyd y gwanwyn diwethaf, yn cymryd lle arddangosfa Yfory Heddiw, gan ddod ag amrediad o gwmnïau sy'n arwain y ffordd o ran arloesedd a thechnoleg o fewn y diwydiant ynghyd.   Bydd prosiectau sy’n cael eu cynnwys eleni’n amrywio o systemau godro robotaidd, technoleg gwarchod tanc a thechnoleg llaeth arall i eneteg, genomeg, technoleg canfod buwch yn gofyn tarw neu wasanaethau sydd wedi'u llunio i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

‘Cwrdd â mentor’ - hyd at 22.5 awr o gefnogaeth ac arweiniad wedi’i ariannu'n llawn

 Pwysleisiodd Eirwen Williams fanteision galw i mewn i siarad gyda staff sy’n gallu egluro beth sydd ar gael fel rhan o’r rhaglen, yn ogystal â chwrdd â rhai o'r 'mentoriaid' sydd wedi'u cymeradwyo, fel rhan o raglen fentora Cyswllt Ffermio sydd wedi'i ariannu'n llawn.  Bydd yr unigolion deallus a phrofiadol yma sy’n dod o bob cwr o Gymru yn hyrwyddo manteision y gefnogaeth 'un-i-un' yma rhwng 3yp a 4yp yn yr adeilad Lantra trwy gydol yr wythnos.

Meini prawf newydd

“Mae Cyswllt Ffermio yn darparu arweiniad, hyfforddiant a chyngor - amrediad o wasanaethau a digwyddiadau sydd wedi’u llywio tuag at gefnogi datblygiad busnes cynaliadwy a gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol. Mae nifer o’r gwasanaethau wedi’u hariannu’n llawn, ac mae eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori, yn gymorthdaledig hyd at 80% i fusnesau cymwys, neu wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer ceisiadau grŵp. 

“Mae Cyswllt Ffermio wedi newid, a gall hyd yn oed mwy o bobl elwa o ganlyniad i ehangu'r meini prawf cymhwysedd.  Bydd ein staff ar gael trwy gydol y sioe a byddant yn hapus i'ch cyfeirio at gyfuniad o wasanaethau, hyfforddiant a chyfleoedd e-ddysgu a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a all eich cynorthwyo i ganfod ffyrdd mwy effeithlon o weithio, dod o hyd i broblemau a nodi unrhyw feysydd gwelliant.

“Byddwn hefyd yn atgoffa ymwelwyr  i ail gofrestru, hyd yn oed os oeddent wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen flaenorol. Os nad ydynt wedi cofrestru ers mis Hydref 2015, gallant fod yn colli cyfle i fanteisio ar rai o'r gwasanaethau cefnogi eang a all wneud gwahaniaeth i’w datblygiad personol a’u busnes, mewn cyfnod sy’n dal i fod yn heriol yn economaidd.

“Hoffem estyn allan i unrhyw fusnesau nad ydynt  yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael erbyn hyn, gan gynnwys newydd ddyfodiaid neu rai sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant, busnesau sy’n ystyried newid cyfeiriad neu fenter arallgyfeirio, ychwanegu gwerth neu ehangu yn ogystal ag unigolion sy'n meddwl gadael y diwydiant neu gymryd cam yn ôl," meddai Mrs Williams.  

Cyhoeddiadau newydd

Mae Cyswllt Ffermio wedi creu nifer o gyhoeddiadau newydd gan gynnwys taflen wybodaeth gyffredinol ynghyd â thaflen am y Gwasanaeth Cynghori. Bydd y rhain ar gael yn Sioe Frenhinol Cymru neu gallwch eu lawr lwytho oddi ar y dudalen cyhoeddiadau. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites