16 Hydref 2025
Gall technoleg wella effeithlonrwydd llafur fferm laeth a lleihau costau cynhyrchu, ond mae astudiaeth i Cyswllt Ffermio wedi dangos na fydd arbedion ac enillion ar fuddsoddiad bob amser yn mantoli ym mhob busnes.
Mae Rhodri a Siwan Jones yn cynhyrchu llaeth o fuches o 197 o wartheg sy'n lloia yn y gwanwyn ar fferm Penparc ger Llanerfyl, ar ôl trawsnewid fferm teulu Siwan o fferm bîff a defaid a buddsoddi mewn isadeiledd pori da.
Mae'r system wedi'i chynllunio i fod yn syml gyda chyfleusterau modern ac effeithlon â gosodiad da, ond a allai technoleg fel coleri canfod pryd mae buwch yn gofyn tarw a phorthwyr lloi awtomatig wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ymhellach?
Mae ymchwil Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio wedi dangos manteision cyfyngedig coleri i fusnes y teulu Jones ei hun, ond enillion uwch ar fuddsoddiad (ROI) a chyfnod ad-dalu cyflymach gyda phorthwyr lloi awtomatig.
Roedd porthwyr yn cynnig ROI o 14%, gan dalu amdanynt eu hunain o fewn saith mlynedd, tra bod y cyfnod ad-dalu yn dyblu ar gyfer coleri gwartheg a gwnaeth yr ROI haneru, ar 7.2%.
Fodd bynnag, cynghorir defnyddio pwyll wrth ddehongli enillion ar goleri, meddai Conor Hogan, Rheolwr Rhaglen Llaeth yn Teagasc Moorepark, Iwerddon, a gynhaliodd yr astudiaeth ar ran Cyswllt Ffermio.
"Os gwireddir gwelliannau yn iechyd a ffrwythlondeb buches, byddai'r ROI yn gwella'n sylweddol o’i gymharu â'r amcangyfrifon hyn," meddai Conor, a gynhaliodd yr astudiaeth yng nghyd-destun gwella perfformiad, effeithlonrwydd llafur, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar ffermydd, a hynny trwy ddefnyddio technolegau.
Roedd ei gyfrifiadau ar gyfer porthwyr lloi yn seiliedig ar system dwy orsaf gyda chost gyfalaf o £11,000 i fwydo o leiaf 45 o loi benyw.
Er iddo ddarganfod na fyddai'r rhain yn cael unrhyw effaith sylweddol ar berfformiad nac iechyd lloi ar fferm Penparc, byddai’r arbedion llafur yn dod i gyfanswm o £1,525 y flwyddyn, a byddai hyblygrwydd ychwanegol yn y system am na fyddai angen bwydo lloi yn syth ar ôl i wartheg gael eu godro.
Ond i'r teulu Jones, byddai anfantais bosib i hyn. "Efallai y byddai angen cadw lloi dan do ac ar laeth am gyfnod hirach gan y gall porthwyr ymestyn y cyfnod magu lloi," nododd Conor.
Ar gyfer coleri gwartheg, seiliodd ei ffigurau ar ddarparu'r rhain ar gyfer 185 o wartheg @ £110 y coler a buddsoddiad untro o £3,500 mewn uned ddarllen, a fyddai’n rhoi cyfanswm o £23,850.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm arbedion llafur blynyddol ar gyfer y cyfnod bridio 12 wythnos presennol fyddai £1,680, gan gynnig cyfnod ad-dalu o 14 mlynedd, er bod Conor wedi cyfrifo y gellid cynyddu arbedion llafur pe bai llafur yn y parlwr godro yn cael ei leihau o ddau unigolyn i un yn ystod y tymor bridio.
Dywedodd na fyddai coleri yn rhoi’r manteision sylweddol i’r teulu Jones y byddai systemau eraill eu rhoi iddynt o bosib, oherwydd, ar 81%, roedd eu cyfradd lloia chwe wythnos eisoes yn gymharol uchel tra mai 13% yw cyfradd buchod gwag y fuches.
"Mae'r perfformiad presennol yn awgrymu y byddai gwelliant ffrwythlondeb cyfyngedig yn cael ei gyflawni trwy fuddsoddi mewn coleri," dywedodd Conor.
Er bod gan goleri fanteision o ran monitro iechyd hefyd, gan fod data ar statws iechyd y fuches yn gyfyngedig ar hyn o bryd, dywedodd nad oedd modd iddo roi ystyriaeth i’r rhain wrth iddo ddadansoddi’r ROI.
Ond nododd: "Lle gellid cyflawni gwelliannau iechyd trwy ddefnyddio coleri, yn ogystal â’r manteision posib o ran gwelliant genetig trwy ddefnyddio semen yn ôl ei ryw yn fwy effeithlon, byddai'r ROI yn gwella'n gyflym.
"Mae'r data i ategu’r buddion o ddefnyddio coleri yn gyfyngedig ar hyn o bryd, a byddai angen cyfrifo'r buddion posib hyn fesul fferm."
Fodd bynnag, byddai coleri yn lleddfu'r baich llafur adeg bridio i Rhodri a'i hwsmon, gan na fyddai angen iddynt arsylwi gwartheg yn barhaus – byddent hefyd yn ychwanegu hyblygrwydd yn ystod y tymor bridio.
Dywedodd Conor fod cynllun a chyfleusterau Penparc yn dda, ac roedd hynny'n dileu'r angen am fuddsoddiad brys mewn technolegau, a ddylai fod yn nod hirdymor yn ei farn ef.
Nododd y gallai grantiau, pan fyddant ar gael, gael effaith sylweddol ar leihau'r gost gyfalaf, gan wella'r buddion ariannol y mae wedi'u cyfrifo ar gyfer y gwahanol dechnolegau.
Er mwyn gwneud y mwyaf o’r enillion o unrhyw wariant, mae Conor yn argymell dilyniant buddsoddi wedi'i gynllunio, gan roi blaenoriaeth i'r hyn a all ddarparu'r budd mwyaf.
Ar gyfer Penparc, mae'n awgrymu y dylid rhoi technoleg awtomeiddio yn drydydd ar y rhestr, islaw gwelliannau yn yr isadeiledd pori a datblygu’r cyfleusterau.
Ei gyngor yw y dylid rhoi blaenoriaeth i wella ffrwythlondeb y pridd, ail-hadu, a buddsoddi mewn traciau gwartheg, gan y gall y rhain ddarparu enillion economaidd cyflym a sylweddol o fuddsoddiad ac iddo gost gymharol isel.
Buddsoddi mewn cyfleusterau yw'r nesaf ar y rhestr, er mwyn lleihau’r amser godro, i wella dulliau trin anifeiliaid, ac i wneud y trefniadau ar gyfer storio slyri’n fwy effeithlon.
Yna gellir ystyried arloesiadau y profwyd eu bod yn lleihau’r llwyth gwaith ac arbed amser, fel porthwyr lloi awtomatig, ffyrdd awtomataidd o ganfod a yw buwch yn gofyn tarw, gatiau didoli, offer tynnu clystyrau awtomatig, offer golchi awtomatig ac unedau rhyddhau batt-latch, meddai Conor.
"Efallai na fydd rhai technolegau awtomeiddio yn lleihau'n sylweddol amser llafur ar y cyfan, ond gallant ddarparu mwy o hyblygrwydd a symleiddio tasgau arferol," ychwanegodd.
"Bydd gwahanol ffermydd ar wahanol gamau datblygu, a bydd rhai buddsoddiadau yn darparu mwy o enillion neu'n fwy buddiol gan ddibynnu ar anghenion y ffermwr."