11 Hydref 2023

 

Mae tymor prynu hyrddod bellach ar ei anterth. Mae hyrddod yn cael eu dewis yn bennaf ar yr olwg gyntaf, gyda phrynwyr yn rhoi blaenoriaeth i gadernid corfforol yn ogystal â math o frid wrth ddewis eu hyrddod, gyda’r nod o drosglwyddo’r nodweddion ffisegol hyn i ŵyn y dyfodol.

Mae dewis hyrddod ar sut maent yn edrych bob amser yn gyfiawn, ond beth am ychwanegu haen arall o ddiogelwch at yr hyn y bydd yr hwrdd penodol hwnnw’n ei gynhyrchu? Dyma le mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) yn berthnasol.

Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi clywed am werthoedd bridio a bydd llawer ohonom yn meddwl ein bod ni'n gwybod beth mae'n ei olygu - ond ydych chi WIR wedi edrych i mewn iddynt yn iawn, a sut gallai ychwanegu'r haen hon o ddiogelwch wrth brynu hyrddod effeithio ar EICH diadell?

Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu cofnodi perfformiad eich diadell gyfan (er bod gwneud hyn yn fuddiol iawn hefyd), gallwch barhau i brynu hyrddod â gwerthoedd bridio sy’n uwch na chyfartaledd y brid, sy’n golygu y gallwch gynyddu proffidioldeb eich diadell yn sylweddol, mewn gwirionedd, yn eithaf hawdd.

Erbyn hyn, mae’r dull o fynegi’r mynegai mynydd yng Nghymru wedi newid. Mae'r mynegai mynydd bellach yn cynrychioli gwerth economaidd manteision genynnol pob hwrdd ar gyfer nodweddion sy'n dylanwadu ar berfformiad mamogiaid. Dyma enghraifft:

Mae hwrdd A yn hwrdd ar gyfartaledd y brid, ac mae ganddo fynegai o £2.44, tra bod Hwrdd B o fewn y 10% uchaf o’r brid gyda mynegai o £12.47, sy’n cyfateb i wahaniaeth o dros £10. Bydd hanner eu geneteg yn cael ei drosglwyddo i'w ŵyn, felly byddech chi'n rhagweld y byddai merched Hwrdd B yn cynhyrchu £5 ychwanegol yn flynyddol am bob blwyddyn y byddan nhw'n aros yn y ddiadell.

Yn yr achos hwn, mae gwerthoedd bridio yn dangos y byddai merched Hwrdd B yn magu mwy o ŵyn, a fyddai’n tyfu’n gyflymach ac â gwell cyfansoddiad o’i gymharu â merched Hwrdd A.

Felly, beth ydych chi'n ei feddwl? Efallai ei bod yn werth rhoi cynnig arni? Os felly, dyma rai awgrymiadau gan Sam Boon, Uwch Reolwr Bridio Anifeiliaid yn AHDB-Signet.

1.    Gosodwch amcanion bridio wnaiff optimeiddio proffidioldeb eich diadell. Siaradwch â’r bridiwr hyrddod am eich anghenion.
2.    Dewiswch hyrddod gyda’r gwerthoedd EBV perthnasol er mwyn cwrdd â’r amcanion hyn.
3.    Ewch draw i wefan Signet (www.signetdata.com) i weld gwerthoedd bridio diweddaraf yr hwrdd. Cymharwch werthoedd EBV yr hwrdd yn erbyn meincnod y brid er mwyn darganfod eu cryfderau a’u gwendidau.
4.    Cofiwch fod modd cymharu gwerthoedd EBV rhwng diadelloedd, ond nid rhwng bridiau.
5.    Prynwch yn fuan er mwyn sicrhau dewis eang o hyrddod wedi eu cofnodi.
6.    Mae’n talu i fuddsoddi. Gall y gwahaniaeth rhwng hwrdd cyfartalog ac un gyda gwerthoedd EBV uchel fod werth £800 yn ystod ei fywyd.
7.    Edrychwch ar ôl iechyd ac anghenion maeth eich hwrdd i sicrhau y caiff fywyd hir a cynhyrchiol.
8.    Peidiwch ag anghofio dilyn y protocolau bioddiogelwch cywir wrth brynu hyrddod, er mwyn lleihau'r risg o brynu clefydau/problemau iechyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am werthoedd bridio, cysylltwch â Thîm Geneteg Cyswllt Ffermio. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites