16 Gorffennaf 2025

O iechyd y pridd i strategaeth werthu, mae Cyswllt Ffermio yn helpu garddwriaeth fasnachol yng Nghymru i ffynnu. Ewch i'r Ganolfan Garddwriaeth yn y Pentref Garddwriaeth (Rhodfa A) yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (21 – 24 Gorffennaf) ac archwiliwch gyngor, adnoddau a syniadau arbenigol i dyfu eich busnes.

“P’un a ydych chi’n dyfwr masnachol sefydledig neu’n newydd-ddyfodiad gyda chynlluniau i arallgyfeirio i dyfu ffrwythau, llysiau, coed brodorol, planhigion addurniadol neu flodau – fe gewch gyngor arbenigol, adnoddau o’r radd flaenaf a syniadau ysbrydoledig yng Nghanolfan Garddwriaeth Cyswllt Ffermio – gallwn ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i lwyddo,” meddai Sarah Gould, rheolwr rhaglen arddwriaeth Cyswllt Ffermio.

Bydd Sarah a'i thîm yn rhannu sut y gall ffermwyr a thyddynwyr Cymru arallgyfeirio i faes garddwriaeth fel rhan o strategaeth rheoli tir yn gynaliadwy – yn enwedig y rhai sydd eisoes yn manteisio ar dwristiaeth neu lety, lle gall ychwanegu profiadau i ymwelwyr fel 'menter casglu eich hun', llwybrau Calan Gaeaf neu weithdai blodau greu incwm newydd gwerthfawr.

Yn ogystal â nifer gynyddol o opsiynau sgiliau a hyfforddiant sector-benodol, un o lwyddiannau diweddar y rhaglen arddwriaeth fu'r cynnydd mewn rhwydweithiau tyfwyr.

Gan weithredu ledled Cymru, a chyda dros 400 o aelodau ar draws 19 rhwydwaith – mae pynciau arbenigol yn amrywio o blanhigfeydd blodau i lysiau ar raddfa cae ac o reoli plâu i ganfod coed brodorol a thyfu cynnyrch ar gyfer prynwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – mae'r rhwydweithiau hyn i gyd yn cynnig canllawiau arbenigol, cyngor arbenigol ar agronomeg, ymweliadau astudio a gweithdai ymarferol.

“Mae rhwydweithiau tyfwyr yn ffordd wych o rannu syniadau, cael mynediad at wybodaeth dechnegol a datblygu’r hyder i dyfu, rheoli a hyrwyddo eich busnes,” meddai Sarah.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a dewisiadau hyfforddiant sy'n benodol i'r sector ac sydd wedi'u hariannu'n llawn neu’n helaeth i bob tyfwr cofrestredig.

A beth am yr unigolion iau sy’n ymweld â'r sioe? Gall plant ifanc edrych yn fanwl ar y creaduriaid bach gyda'n microsgopau bach neu hela am lysiau cudd yn ein berfa sy’n llawn tywod!

“Ychwanegwch ni at eich rhestr o stondinau ‘y mae’n rhaid i chi ymweld â nhw’ meddai Sarah!

Cymeradwyaeth arbennig gan Adam Jones (@Adam yn yr Ardd), Cyfarwyddwr Anrhydeddus Garddwriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

“Mae garddwriaeth yng Nghymru ar gynnydd – ac mae Cyswllt Ffermio ar y blaen!

“Dylai unrhyw un sydd o ddifrif ynglŷn â thyfu’n fasnachol ymweld â’u stondin garddwriaeth bwrpasol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

“P’un a ydych chi’n meddwl am blanhigion bwytadwy, planhigion addurniadol neu ychwanegu gwerth at eich tir - dyma le byddwch chi’n dod o hyd i’r atebion a’r ysbrydoliaeth.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn