Mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o gymorthfeydd adolygu busnes i helpu ffermwyr a choedwigwyr i werthuso sut y mae eu busnes yn perfformio, gan ddynodi meysydd i’w gwella a thrafod cynlluniau at y dyfodol.
 
Bydd y cymorthfeydd adolygu busnes yn cynnig apwyntiad awr o hyd wedi ei ariannu’n llawn i unigolion sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio gyda chynghorydd busnes amaethyddol profiadol i werthuso eu perfformiad ar hyn o bryd, trafod y sialensiau a chwilio am ffyrdd i gryfhau’r busnes, pethau fel ffyrdd mwy effeithlon o weithio, ehangu neu brosiectau arall gyfeirio.
 
“Mantais fwyaf dod i gymhorthfa yw’r cyfle i gyfarfod cynghorydd sydd â phrofiad o weithio gyda phob math o fusnesau amaethyddol, a all gynnig syniadau newydd i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd, neu gryfhau’r busnes presennol,” meddai Lois Evans, swyddog cymorthfeydd Cyswllt Ffermio.
 
Yn ogystal â chael golwg gyffredinol ar y system ffermio bresennol a defnyddio cyfrifon i feincnodi’r fferm gyda busnesau tebyg, bydd y cynghorydd hefyd yn helpu i ddynodi meysydd lle gellid gwella a thrafod unrhyw gynlluniau at y dyfodol i gryfhau hyfywedd y busnes.
 
“Un ffordd dda o ddynodi cyfeiriad strategol eich busnes yw paratoi cynllun busnes, sy’n offeryn defnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall i ble mae eich busnes yn anelu, cynllunio ymlaen llaw am unrhyw sialensiau a chryfhau ei wytnwch,” ychwanegodd. 
 
Cynhyrchodd Cyswllt Ffermio dempled cynllun busnes a nodiadau cyfarwyddyd, sydd ar y dudalen Cynllunio Busnes Strategol. Fel arall, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol a fydd yn gallu rhoi cyfarwyddyd ar yr ystod newydd o wasanaethau cefnogi busnes sydd ar gael.
 
Dylai ffermwyr ddod â gwybodaeth i’r cymorthfeydd sy’n cynnig golwg fanwl ar y busnes, fel cyfrifon ariannol tair blynedd, costau cynhyrchu llaeth, cofnodion NMR, y nifer o erwau sy’n cael eu ffermio, nifer y stoc a’r taliadau cymhorthdal.
 
Er mwyn archebu eich apwyntiad am awr yn un o’r cymorthfeydd canlynol, cysylltwch â Catrin Lloyd ar 02920 467418 neu anfon e-bost at: catrin.lloyd@menterabusnes.co.uk 
  • 5 Medi 2016, Trefnynwy
  • 8 Medi 2016, Caerfyrddin
  • 8 Medi 2016, Llandrindod
  • 13 Medi 2016, Porthmadog
  • 28 Medi 2016, Llanelwy

Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer