05 Gorffennaf 2023

 

Mae proses recriwtio ar y gweill i gyflogi 10 ffermwr i helpu i lywio darpariaeth a gwasanaethau rhaglen cymorth amaethyddol flaengar Cymru.

Mewn cyfnod o newid sylweddol i amaethyddiaeth yng Nghymru, mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn sefydlu Grŵp Llywio Ffermwyr i wneud popeth o helpu i gynyddu ymgysylltiad â’r gwasanaeth i ddarparu adborth pwysig.

Bydd y ffermwyr yn cynrychioli’r diwydiant ehangach, meddai Euryn Jones, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio.

Bydd eu cyfrifoldebau’n cynnwys darparu adborth ar y gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cael y ddarpariaeth a chyrhaeddiad gorau posibl ac i ddatblygu strategaethau sy'n hyrwyddo amcanion craidd y rhaglen.

Dywed Mr Jones y bydd y Grŵp hefyd yn cael ei annog i herio'r sefyllfa, er mwyn helpu i wthio ffiniau o fewn y rhaglen.

“Rydym am weld busnesau’n gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau Cyswllt Ffermio felly bydd ein cynrychiolwyr ffermwyr yn cael eu herio i awgrymu ffyrdd o gyrraedd busnesau nad ydynt wedi ymgysylltu â gweithgareddau’r rhaglen, neu’n wir y rhai sydd wedi cofrestru ac nad ydynt wedi manteisio ar y gwasanaethau, er mwyn cynyddu nifer yr ymyriadau fesul busnes,'' meddai.

Gofynnir i ffermwyr a rhanddeiliaid y diwydiant enwebu cyd-ffermwr gyda'i ganiatâd ef neu hi.

Mae’r Rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2025, cyn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd gael ei gyflwyno.

Dywed Mr Jones fod ei rôl yn bwysicach nawr nag erioed.

“Nod y Rhaglen yw cefnogi'r diwydiant amaethyddol, trwy gyfnod o newid sylweddol i ddatblygu a dod yn fwy gwydn, cystadleuol ac i fod mewn gwell sefyllfa i ffynnu mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio fwyfwy ar y farchnad,” meddai.

Bydd y Grŵp yn cyfarfod pedair gwaith, ar-lein ac wyneb yn wyneb, a bydd llwyfan cyfathrebu pwrpasol i ddarparu adborth a chyfnewid syniadau.

Bydd ffermwyr yn cael eu recriwtio o bob rhan o Gymru ac o wahanol sectorau, lleoliadau demograffig a daearyddol.

Mae’r ffenestr ymgeisio nawr ar agor a bydd yn rhedeg tan 31 Gorffennaf 2023. I gyflwyno enwebiad ac i gael rhagor o fanylion, edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn