08 Medi 2025

Mae ffermwr da byw o Gymru wedi arbed £2,572 o ran costau dwysfwyd y gaeaf trwy dyfu ei gnwd protein ei hun, ond mae canlyniadau'r treial hwnnw wedi dangos pa mor bwysig yw amodau'r tywydd i gynnyrch ac ansawdd cnwd deuol o bys a ffa.

Mae Robert Lyon yn rhedeg system bîff a defaid ar Fferm Lower House, un o ffermydd 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio ger Llandrindod.

Uchelgais Robert yw gwneud ei system yn hunangynhaliol o ran dwysfwyd protein trwy ddisodli cymysgedd a brynir i mewn gyda ffa a phys cartref.

Fel cam cyntaf, cychwynnodd arbrawf fel rhan o'i  waith prosiect Ein Ffermydd, ond cynhaliwyd yr astudiaeth honno mewn blwyddyn pan roedd yr amodau sefydlu a thyfu’n heriol.

Yn sgil oedi o ddau fis o ran hau’r had a hefyd y ffaith bod y cnwd wedi methu ag aeddfedu'n llawn yn ystod haf eithriadol o wlyb a chymylog, cynhyrchodd y cnwd llai na thraean o'r tunelledd a ragwelwyd, a chafodd ei botensial egni ei danseilio.

Roedd disgwyl i'r cnwd 4.9 hectar (ha) gynhyrchu 30 tunnell o borthiant – sy'n cyfateb i 6t/ha – ond dim ond 9t a gynhyrchwyd gan y cae cyfan.

Cafodd hyn effaith ar y gost, meddai Simon Pitt, Swyddog Sector Cyswllt Ffermio, a oruchwyliodd y prosiect.

Cost y gwaith cynhyrchu oedd £439.68 y dunnell (t) – pe bai’r cynnyrch a ddisgwyliwyd wedi cael ei gynhyrchu, byddai'r gost honno wedi bod yn £129.19/t yn unig.

Dangosodd dadansoddiad gwerth porthiant o'r codlysiau wedi’u crychu lefel protein yn y deunydd sych o 26.6%, ond arweiniodd aeddfedu annigonol at egni y gellir ei fetaboleiddio a oedd yn is na'r disgwyl, sef 12.8MJ / kg.

Mae Simon yn cyfaddef, er bod y canlyniadau'n siomedig o ganlyniad uniongyrchol i'r tywydd, yr oedd treialon tebyg blaenorol mewn blynyddoedd pan oedd amodau'n fwy ffafriol wedi dangos enillion cadarnhaol iawn ar y buddsoddiad.

Er enghraifft, mewn astudiaeth debyg ar Fferm Pantyderi, Boncath, yn 2024, cynnyrch y cnwd oedd 5.25t/ha – sef 42 tunnell o 8ha - ac ME o 13.6MJ/kg.

Gwnaeth gwers a ddysgwyd o'r astudiaeth ar Fferm Lower House ddangos pa mor bwysig yw tywydd ffafriol ar gyfer sefydlu a thyfu cnydau, gan gynnwys protein, meddai Simon.

Y targed oedd hau’r had ym mis Ebrill, ond arweiniodd amodau gwlyb iawn at oedi o ddau fis.

Fe'i driliwyd yn uniongyrchol mewn dau fwlch ar wahân ddechrau mis Mehefin – cafodd yr amrywiad ffa y gwanwyn, Genius, ei hau ar gyfradd o 308kg/ha ar ddyfnder o 70mm, ac yna amrywiad pys y gwanwyn, Carrington ar 206kg/ha ar ddyfnder o 40mm.

Ni chafodd unrhyw blaladdwyr na chwynladdwyr eu defnyddio rhwng yr adeg hau ac adeg cynaeafu yng nghanol mis Medi.

O ganlyniad i haf pan oedd haul a chynhesrwydd yn anghyffredin, gwnaeth y cnwd fethu ag aeddfedu'n llawn, gan greu heriau adeg cynaeafu wrth i'r deunydd rwystro'r combein dro ar ôl tro.

Defnyddiwyd cadwolyn i reoli eplesu yn y clamp ac atal colledion aerobig adeg porthi.

Lluniwyd dogn ar gyfer 45 o heffrod British Blue a oedd yn pwyso 350kg ar gyfartaledd i gynhyrchu cynnydd o 1kg/dydd dros gyfnod o bum wythnos, er mai’r twf gwirioneddol a gyflawnwyd oedd 0.545kg/pen/dydd.

Roedd y canlyniadau yn niadell ddefaid Robert yn fwy ffafriol.

Yn 2024, prynodd bys a ffa wedi’u crychu a dyfwyd ar fferm Pantyderi i fwydo’r mamogiaid cyfeb. Ymgorfforwyd y rhain mewn dogn cybwys cymysg (TMR) gyda glaswellt a silwair india-corn.

Roedd yr ŵyn a anwyd i'r mamogiaid a gafodd y dogn hwnnw yn perfformio'n well na'r rhai a gafodd ddwysfwyd protein crai o 50% yn eu cymysgedd porthiant, gan ennill enillion pwysau byw dyddiol ychwanegol (DLWG) o 40g/ oen, tua 2.8 kg dros 10 wythnos. Hefyd, cafodd ŵyn eu gwerthu’n gynharach, a oedd yn golygu bod caeau’n cael eu rhyddhau i famogiaid eu pori.

Am bris o 654.50c/kg pwysau marw, roedd y cynnydd hwnnw'n werth £8.61/ oen.

Dywed Robert y byddai'n ymgorffori pys a ffa wedi’u crychu yn neiet y mamogiaid yn y blynyddoedd i ddod, ond ni fyddent yn cael eu tyfu gartref, gan fod y prosiect wedi dangos iddo nad yw'r cnwd yn addas i'r hinsawdd y mae'n ffermio ynddi.

"Pe bawn i'n ffermio mewn sir sydd â llai o law – Sir Benfro neu Swydd Henffordd, mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n ystyried ei dyfu oherwydd ei fod yn sefydlogi nitrogen ac mae'n ffordd dda o droi hen wndwn drosodd, ac mae'n gwneud dogn braf, ond mae'n rhaid bod gennych chi’r hinsawdd iawn i wneud iddo weithio.

"Pe bawn i'n gallu perswadio ffermwr arall i'w dyfu i mi, mae'n bendant yn addas ar gyfer y dogn cytbwys cymysg."

Byddai'r canlyniad wedi bod yn fwy ffafriol, mae'n credu, pe bai wedi cymryd y cnwd yn gynharach a'i gynaeafu fel cnwd cyfan yn lle hynny, yn hytrach na'i fynd ag ef i'r cyfnod cynaeafu â chombein.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn