Mae llawer ohonom yn euog o roi’r un cyfuniad o wrtaith 20:10:10 bob gwanwyn ar yr un gyfradd oherwydd dyna beth yr ydym wedi arfer ei wneud os oes ar y cae ei angen neu beidio.
Gyda’r diwydiant a’r wasg yn dyfynnu prisiau cynyddol gwrtaith mae tyfwyr y tymor hwn yn gohirio archebu at y flwyddyn nesaf. Ond, efallai y gallai prawf pridd syml helpu ffermwyr i benderfynu a ddylent brynu, pryd y dylent brynu a beth ddylent ei brynu i wneud y defnydd mwyaf darbodus o’u harian pan ddaw yn fater o brynu gwrtaith. O ran rheoli glaswelltir mae’n galluogi i raglen wrtaith gael ei chynllunio sy’n gywir, amserol, cost effeithiol ac yn gyfrifol yn economaidd.
Gall profi pridd roi cipolwg i chi o iechyd eich pridd gan eich galluogi i lunio cynllun rheoli maetholion ar gyfer Nitrogen (N), Ffosfforws (P) a Photasiwm (K) a Magnesiwm (Mg). Bydd hefyd yn mesur pH y pridd ac a oes angen calch. Gall profion pridd mwy manwl hefyd chwilio am unrhyw elfennau hybrin neu ddiffygion o ran maetholion.
Bydd pridd sy’n cael ei gadw ar pH o 6.3 neu uwch yn dangos mwy o gynnyrch glaswellt, bydd rhywogaethau manteisiol, fel meillion neu rygwellt parhaol yn fwy gwydn ac yn galluogi i wrtaith a thail gael eu defnyddio yn fwy effeithlon. Mae priddoedd wedi eu calchu yn gadael i ragor o Nitrogen gael ei ddatgloi o’r pridd. Yn ddelfrydol dylai glaswelltir gael ei galchu bob 5 mlynedd ond bydd profi pridd yn gyson yn gadael i’r ffermwr sicrhau bod y swm cywir yn cael ei chwalu a gwybod a oes ei angen o gwbl.
Gall Cyswllt Ffermio eich helpu i brofi pridd eich fferm trwy Gyngor Technegol, sy’n cael ei ariannu 80% ar sail unigol, neu ei ariannu 100% os ydych yn gwneud y gwaith fel rhan o grŵp. Er mwyn trefnu’r gwasanaeth hwn cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol Cyswllt Ffermio.
Fel arall, gallwch naill ai gael cynrychiolydd lleol i gymryd sampl o bridd drosoch chi neu ei wneud eich hun a’i anfon at labordy pridd i’w ddadansoddi.
Sut i gymryd sampl pridd mewn glaswelltir:
- Gwnewch yn siŵr ei fod yn gynrychioliadol o’r ardal i’w samplo.
- Peidiwch â chymryd samplau o ardaloedd lle mae tomeni tail neu borthwyr wedi cael eu defnyddio neu nodweddion anarferol eraill.
- Cerddwch mewn patrwm ‘W’ ar draws yr ardal samplo, gan gymryd samplau cyson gan ddefnyddio gaing digreiddio neu dderydr sgriw.
- Samplwch ar ddyfnder o 7.5cm mewn caeau glaswelltir tymor hir, samplwch i ddyfnder o 15cm mewn glaswelltir neu gnwd tymor byr (<5 mlynedd) sydd ar fin cael ei aredig a’i ail-hadu.
- Dylai’r samplau gael eu cymysgu gyda’i gilydd a dylid anfon sampl gynrychioliadol i’w dadansoddi.
Bydd asidrwydd arwyneb yn digwydd yn aml yn 50mm uchaf pridd glaswelltir lle mae glawiad trwm (cyffredin yng Nghymru) a defnydd trwm o wrtaith nitrogenaidd; bydd hyn yn lleihau faint o ffosfforws sydd ar gael ac mae ar blanhigion ei angen i greu strwythur gwreiddiau da. I’r gwrthwyneb, i ffermydd sy’n defnyddio llawer o slyri neu ddefnydd treuliedig ar eu tir gall gormod o ffosffad fod yn broblem.
Am y rheswm hwn mae’n well chwalu ychydig o galch yn aml na chwalu llawer i leihau natur asidig y pridd. Bydd cadw’r pH dros 6.0 mewn glaswelltir yn gwella’r ailgylchu ar N ac yn lleihau cyfanswm y gofynion N. Pan fydd mynegeion pridd P a K yn mynd dan 2 bydd rhywogaethau glaswellt llai buddiol fel maeswellt gwyn a maswellt sypwraidd yn gallu tagu rhywogaethau mwy maethlon fel rhygwellt.
Gall profi pridd fod yn ffrind gorau i ffermwyr o ran arbed arian ar chwalu gwrtaith. Am gyn lleied â £10 i bob cae am bob prawf gallant gynllunio’r pryniant gwrtaith cywir. Os oes adnoddau ar gael ar y fferm fel slyri, deunydd wedi ei dreulio neu dail, gall y rhain arbed arian a hefyd rheoli problem wastraff bosibl.
Os yw’r ffermwr yn defnyddio cwmni sy’n rhoi’r gwasanaethau profi pridd byddant hefyd yn gallu rhoi argymhellion i ffermwyr o ran y gwrtaith a’r maetholion y dylent eu chwalu ar sail y canlyniadau hynny. Dylai ffermwyr ddefnyddio cynghorydd gyda chymhwyster FACTS bob amser neu ymgynghori â RB209.